Skip to Main Content

Rhent

Rhent yw’r arian y mae tenant yn ei gytuno i’w dalu i’r landlord ar gyfer defnyddio eiddo am gyfnod, er enghraifft, bob wythnos, bob mis, bob 4 wythnos. Unwaith y cytunwyd ar y rhent, ni fedrir ei newid heb hysbysiadau priodol gan y landlord i’r tenant. Os ydych yn ansicr sut mae’r gyfraith yn berthnasol i’ch tenantiaeth yna, gofynnwch am gyngor – https://sheltercymru.org.uk/get-advice/

Mae’n gyffredin i rent gael ei dalu ymlaen llaw.

Mae gan denantiaid sy’n talu rhent bob wythnos hawl i lyfr rhent lle caiff taliadau rhent eu cofnodi a’u llofnodi gan y ddau barti. Mae’n rhaid i landlordiaid fedru darparu cyfriflenni cywir o gyfrifon rhent ar gyfer tenantiaid sy’n talu’n fisol neu gyfnodau eraill.

Gall rhent gynnwys symiau ar gyfer cyfleustodau, ond dylai’r rhain gael eu rhestru a chyfrif amdanynt yn wahanol. Ni all landlordiaid godi mwy am gyfleustodau na maent yn talu amdanynt.

Gall tenantiaid fod yn gyfrifol am dalu taliadau gwasanaeth, er enghraifft am lanhau lobi, garddio, gwasanaeth lifft ac yn y blaen. Dylai’r rhain gael eu nodi ar wahân yn y cytundeb tenantiaeth a dylai gwybodaeth am y contract gwasanaeth gyda rheoli adeilad neu berchennog gael ei rannu gyda’r tenant ar ddechrau’r denantiaeth.

Lwfans Tai Lleol

Mae’r Lwfans Tai Lleol (LHA) yn fudd-dal llesiant a gaiff ei dalu i denantiaid landlordiaid preifat i’w helpu i fforddio eu costau tai. Mae pobl sy’n gymwys ar incwm isel e.e. isafswm cyflog cenedlaethol neu wedi ymddeol. Caiff uchafswm yr LHA y gall cartref ei hawlio ei benderfynu gan faint y cartref maent ei angen. Bydd y swm y bydd y cartref yn ei dderbyn yn dibynnu ar eu hincwm. Os yw’r rhent yn fwy na fydd cartref yn ei dderbyn mewn LHA, bydd yn rhaid iddynt dalu’r gwahaniaeth.

Caiff cyfraddau LHA eu penderfynu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn seiliedig ar wybodaeth am lefelau rhent lleol. Rhoddir manylion yr LHA sy’n daladwy yn Sir Fynwy yma.

Cafodd cyfraddau LHA eu rhewi ers 2015 fel rhan o raglen ddiwygio llesiant Llywodraeth San Steffan.

Caiff y lwfans ei weinyddu gan Adran Budd-dal Tai y Cyngor. Fel arfer caiff y budd-dal ei dalu i’r tenant. Gall landlordiaid sy’n cael problemau gyda thalu rhent gysylltu â’r tîm Budd-daliadau Tai. Gall y Cyngor drefnu talu LHA yn uniongyrchol i landlordiaid mewn rhai amgylchiadau. Nid yw’n rhaid i’r Cyngor ddweud wrth landlord fod eu tenant yn derbyn LHA.

Mae mwy o wybodaeth am fudd-daliadau tai yn Sir Fynwy ar gael yma

https://www.torfaen.gov.uk/en/CouncilTaxAndBenefits/Benefits/HousingBenefitandCouncilTaxReduction/Housing-and-Council-Tax-Benefit.aspx

Cymorth Costau Tai dan y Credyd Cynhwysol

Bydd tenantiaid sy’n talu Credyd Cynhwysol yn derbyn swm i helpu talu rhent o fewn eu taliad Credyd Cynhwysol misol. Bydd y lefelau’n cyfeirio at y cyfraddau LHA ond bydd yr union swm mae pobl yn ei dderbyn yn dibynnu ar eu hamgylchiadau. Caiff y budd-dal ei weinyddu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Caiff taliadau cyntaf Credyd Cynhwysol eu talu ar ôl cyfnod aros a dim ond ar ôl i’r holl wybodaeth gael ei rhoi gan yr ymgeisydd Credyd Cynhwysol i brosesu eu hawliad. Caiff taliadau Credyd

Cynhwysol eu talu i’r tenant ond mewn rhai achosion, gellir rhoi trefniadau talu eraill ar waith fel y gellir talu elfen rhent hawliad Credyd Cynhwysol yn uniongyrchol i’r landlord. I gael mwy o wybodaeth dilynwch y dolenni hyn: https://directpayment.universal-credit.service.gov.uk/, https://www.gov.uk/housing-and-universal-credit

Ernesau Tenantiaeth

Mae ernes yn swm o arian, sydd fel arfer yn gyfwerth â swm rhent mis neu ddau fis o rent, y mae landlord ei angen ar ddechrau’r denantiaeth i dalu am unrhyw ddifrod i’r eiddo, neu gostau eraill yn deillio o dorri telerau’r denantiaeth.

Mae’n rhaid i landlordiaid ddiogelu gwerth yr ernes drwy ddefnyddio un o’r cynlluniau statudol. Mae’n rhaid iddynt hysbysu eu tenantiaid am sut y caiff eu hernesau eu diogelu a sut mae’r cynlluniau’n gweithio (gelwir hyn yn ‘wybodaeth ragnodedig’) o fewn 30 diwrnod o dderbyn arian ernes. Gall methiant i gydymffurfio arwain at ddirwy o hyd at dair gwaith gwerth yr ernes a chyfyngiad ar allu’r landlord i ailfeddiannu eiddo. Caiff landlordiaid eu hannog yn gryf i ofyn am arweiniad.

https://www.gov.uk/tenancy-deposit-protection

Bondiau Tenantiaeth

Mae bond tenantiaeth yn debyg i ernes, ond yn lle darparu arian, gwneir addewid o arian i dalu am gostau difrod neu gostau eraill yn deillio o dorri’r denantiaeth. Mae bondiau’n cynorthwyo pobl na all fforddio rhoi ernes tenantiaeth.

Nid yw’n rhaid i landlordiaid roi ‘gwybodaeth ragnodedig’ am drefniadau bond. Caiff gwybodaeth am sut y bydd y bond yn gweithredu ei rhoi gan yr asiantaeth sy’n trefnu’r bond.

Gall telerau cynlluniau bond amrywio. Mae’n werth gweld beth mae cynlluniau lleol yn ei gynnig. Mae cynllun bond Right Move ar gael yn Sir Fynwy, mae mwy o wybodaeth ar gael yn

https://www.poblgroup.co.uk/bond-scheme/.

Rhif ffôn: 01633 644 644

Cyfeiriad E-bost: housingoptions@monmouthshire.gov.uk

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Iau 8.45 – 5.00pm, Dydd Gwener 8.45 – 4.30pm

Rhif argyfwng tu allan i oriau: 01633 644 644