Skip to Main Content

Mae pwll ar gyfer bywyd gwyllt yn eich tiroedd yn brosiect gwerth chweil iawn, ac fe fydd yn denu amrywiaeth o fywyd gwyllt bron ar unwaith. Ef yw’r ychwanegiad mwyaf poblogaidd at diroedd ysgolion, ac am reswm da.

Pyllau a diogelwch

  • Mae pyllau yn gallu bod yn berygl i ddiogelwch os caniateir mynediad dirwystr, felly meddyliwch yn ofalus am leoliad eich pwll a sut i gyfyngu mynediad iddo.
  • Meddyliwch yn ofalus am ddyfnder eich pwll (gall pwll bas denu cymaint o fywyd gwyllt ag un sy’n ddyfnach)
  • Meddyliwch am sut y bydd y gwahanol ddosbarthiadau a grwpiau oedran yn defnyddio’r pwll ar gyfer gwaith cwricwlwm, a sicrhau y gall mynediad at ymyl y pwll gael ei reoli’n ddiogel.

Mae cyngor ynglŷn â defnyddio pwll ysgol yn ddiogel ar wefan y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA).

Mae creu pwll newydd yn ymgymeriad mawr, felly mae angen meddwl yn ofalus am ei safle – nid yw’n hawdd o gwbl symud pwll ar ôl iddo gael eu greu! Mae pyllau yn gweithio orau mewn safle agored, a bydd gwaith cynnal a chadw yn cael ei leihau os gallwch osgoi’r angen i dynnu dail o waelod y pwll bob hydref. Mae pyllau yn ffurfio ecosystem ar wahân, gyda chydbwysedd o blanhigion a chreaduriaid dŵr yn byw ar wahanol ddyfnder ac yn creu eu cadwyn fwyd eu hunain. Mae pyllau hefyd yn cael eu defnyddio’n helaeth gan greaduriad nad yndynt yn byw ynddynt, ac maent yn ffynonnell bwysig o ddŵr croyw i adar, mamaliaid a phryfed sy’n byw o’i gwmpas neu sy’n defnyddio tiroedd yr ysgol.

Unwaith y bydd eich pwll wedi cael ei gloddio allan i’r siâp a dyfnder a ddymunir, bydd angen iddo gael ei leinio gyda chlai traddodiadol sydd wedi’i bwdlo neu, sy’n fwy arferol ac yn llwyddiannus y dyddiau hyn, gyda leinin biwtyl. Gellir ei lenwi gyda dŵr tap, ond bydd angen iddo wedyn sefyll am sawl diwrnod i ganiatáu i’r clorin a chemegion eraill anweddu. Mae’n syniad da ychwanegu bwcedaid neu ddau o ddŵr o bwll iach a chytbwys lleol, gan y bydd y rhain yn darparu sylfaen o greaduriaid dŵr a fydd yn dechrau poblogi eich pwll newydd ar unwaith, gan sefydlu dechreauadau’r gadwyn fwyd. Mae planhigion yn ychwanegiad hanfodol, gan ddarparu lloches ar gyfer bywyd gwyllt a phryfed dŵr, cysgod i atal twf algâu a chwyn blanced, ac yn darparu ocsigen i’r dŵr. Mae eisiau ychydig o arbrofi i ddod o hyd i’r cydbwysedd cywir rhwng planhigion a dŵr agored, a bydd angen tipyn o gymorth i gadw at y cydbwysedd hwn – er enghraifft, trwy gael gwared â phlanhigion dros ben yn yr hydref.

Planhigion i’w hosgoiCynffon y gath, oni bai bod eich pwll yn fawr iawn. Maent yn ymwthiol ac yn anodd iawn i’w rheoli. Mae’r gwreiddiau yn dwyn egin newydd ac yn gallu mynd trwy leinin biwtyl.

  • Dail-ceiniog arnofiol – mae’n arnofio ar wyneb y dŵr ac yn gallu ffurfio matiau trwchus sy’n edrych fel tir sych. Yn hynod o ymwthiol.
  • Pluen parot – mae’n cael ei phrynu fel arfer fel planhigyn ocsigeneiddio, boddedig; mae’n ymwthiol iawn ac yn gallu tyfu allan o’r dŵr yn ogystal ag ynddo.
  • Corchwyn Seland Newydd – fel dail-ceiniog, fe’i cyflwynwyd fel planhigyn ocsigeneiddio ar gyfer pyllau, ond mae wedi dianc i’r gwyllt lle mae’n tagu rhywogaethau brodorol.
  • Rhedyn y dŵr – mae’n arnofio ar wyneb y dŵr, gan ddyblu o ran maint bob dau ddiwrnod, ac yn ffurffio matiau trwchus sy’n edrych fel tir sych.

Os yw eich pwll ar gyfer bywyd gwyllt, peidiwch ag ychwanegu pysgod gan y byddant yn bwyta epil nifer o rywogaethau. Os na fydd gennych rifft brogaod yn ystod gwanwyn cyntaf eich pwll newydd, gofynnwch i rieni yn yr ysgol roi cyngor ar ffynonellau posibl gerllaw. Cymerwch ychydig yn unig o rifft brogaod neu lyffaint o byllau pobl eraill. Dylai’r brogaod sy’n dilyn ddychwelyd i bwll yr ysgol i silio yn y blynyddoedd i ddod. Bydd brogaod, llyffaint a madfallod i gyd yn gadael y pwll ar ôl silio, ac mae’n bwysig eu hannog i aros o gwmpas trwy ddarparu mannau cysgodol a llaith iddynt dreulio misoedd yr haf. Mae pentyrrau o foncyffion, waliau a adeiladwyd â cherrig rhydd a digon o isdyfiant yn agos at ymylon y pwll i gyd yn nodweddion hanfodol – ond gwnewch yn siŵr nad yw’r disgyblion yn dringo arnynt!

Mae syniadau ar gyfer dyluniadau yn y rhan fwyaf o lyfrau garddio da, neu fe allwch chi gael gwybodaeth dda ar y wefan Cadwraeth Pyllau. Gellir ychwanegu gardd gorsiog at eich pwll yn hawdd, a fydd yn darparu diddordeb ychwanegol ac yn eich galluogi i dyfu ystod ehangach o blanhigion. Cymerwch ofal wrth ddewis planhigion, gan y gall planhigion dŵr a gerddi corsiog dyfu’n gyflym iawn a lledaenu i ardaloedd eraill.

Ewch i dudalen chwilio Postcode Plant i chwilio am rywogaethau sy’n frodorol yn Sir Fynwy.

Dolenni defnyddiol

Cadwraeth Pyllau

Cymdeithas Gwas y Neidr Prydain (yn cynnwys grantiau i helpu gyda chreu pwll ysgol)

Comisiwn Coedwigaeth Cymru cyngor ynglŷn â chreu pyllau ysgol

RoSPA cyngor ar ddefnyddio pwll ysgol yn ddiogel

Cymdeithas Ecolegol Prydain cyngor ar ddylunio ac adeiladu pwll ar gyfer anghenion amrywiol – yn ogystal â siart wal o rywogaethau ac adeiladwaith

Froglife elusen yn y DU sy’n gweithio i warchod amffibiaid, ymlusgiaid a’u cynefinoedd. Mae adnoddau ar gyfer ysgolion ar gael ar eu gwefan

Cyflenwyr planhigion

Planhigion Gwlyptir (rhestr o rywogaethau brodorol ym Mhrydain), cwmni sydd wedi’i leoli ger Rhosan ar Wy 01584 879076

Gerddi Dŵr Kenchester, Henffordd 01432 270981. Gerddi arddangos a chanolfan arddio.

Penlan Perennials, Sir Benfro (0)1239 842260. Tyfwyr organig sy’n defnyddio pridd di-fawn; planhigion trwy archebu trwy’r post.