O dan Deddf Tai (Cymru) 2014 nid yw pawb yn gymwys i gael help i atal digartrefedd ond mae gan bawb hawl i gael cyngor a chymorth. Ni fydd gan rai pobl yr hawl i gael help i atal digartrefedd, er enghraifft, os nad ydynt fel arfer yn byw yn y Deyrnas Unedig. Mae’n debyg y byddwch yn gymwys i gael help os ydych:
· Yn byw yn y Deyrnas Unedig fel arfer ac nad yw’r broses rheoli mewnfudwyr yn berthnasol i chi
· Yn byw yn y Deyrnas Unedig fel arfer a bod y broses rheoli mewnfudwyr yn berthnasol i chi, ond nad yw eich hawl i aros yn seiliedig ar amodau
· Wedi derbyn statws ffoadur o ganlyniad i gais am loches
Os nad ydych yn gymwys i dderbyn cymorth i atal digartrefedd yna gallwn eich cynghori ar yr opsiynau tai a’ch cynghori i geisio cymorth gan asiantaethau fel NASS (Gwasanaeth Cymorth Cenedlaethol i Geiswyr Lloches). Os canfyddir eich bod yn gymwys i dderbyn cymorth, y cam ymholi nesaf fydd sefydlu a ydych yn ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd.
Byddwn angen tystiolaeth o bwy ydych, incwm neu fudd-daliadau, yn ogystal â thystiolaeth o’ch preswyliad, er enghraifft; pasbort, trwydded yrru, cerdyn meddygol y GIG, bil nwy neu drydan, trwydded deledu, cyfriflenni banc neu gymdeithas adeiladu.
Rhif ffôn:· Cyfeiriad E-bost: housingoptions@monmouthshire.gov.uk
Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Iau 8.45 – 5.00pm, Dydd Gwener 8.45 – 4.30pm
Oriau argyfwng tu allan i oriau: 01633 644 644