Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys
Mae’r Awdurdod Lleol yn ymfalchïo mewn darparu ystod da o brydau bwyd iach a maethlon i gyflawni gofynion maeth plant sy’n tyfu a datblygu, ac wrth eu paratoi i fod y genhedlaeth nesaf o oedolion ifanc iachach yn y dyfodol.
Rydym yn cynnig bwydlenni iach a maethlon yn cynnwys pryd o fwyd daugwrs cytbwys bob dydd. Caiff ein bwydlenni eu dadansoddi gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac mae ganddynt ardystiad eu bod yn cydymffurfio gyda Rheoliadau Bwyta Iach mewn Ysgolion (Safonau a Gofynion Maeth) (Cymru) 2013.
Caiff bwydlenni eu cynllunio i gynnwys bwyd wedi’i goginio’n ffres a hyrwyddo amcanion bwyta iach gan gynyddu ffibr, a gostwng braster, siwgr a halen. Mae pob pryd yn cael eu paratoi’n ffres bob dydd ar y safle. Rydym hefyd yn rhoi blaenoriaeth i ddulliau coginio tebyg i stemio a phobi mewn ffwrn i sicrhau cadw maeth ac ansawdd a chyfoethogi blas. Mae ein bwydlen yn rhedeg ar gylch 3-wythnos gyda ffocws cryf ar ffrwythau, llysiau a salad ffres a gyda bwydlenni newydd ddwywaith y flwyddyn. Caiff nifer o ddyddiau thema eu trefnu drwy gydol y flwyddyn. Rydym yn hollol gynhwysol, gan ddarparu ar gyfer pob disgybl, yn cynnwys y rhai gyda diet a ragnodwyd yn feddygol a’r rhai sy’n dewis diet arall am resymau crefyddol a/neu ddiwylliannol. Os yw eich plentyn angen diet arall, bydd aelod o’r tîm arlwyo yn cwrdd gyda’r dietegydd, rhieni a’r cogydd i drafod a threfnu’r dewisiadau o brydau eraill.
Byddai’r dull ysgol gyfan yn cynnwys:
• Rhoi blaenoriaeth i fwyd maethlon yn cynnwys cynhwysion ansawdd uchel, ffres a heb eu prosesu
• Gwneud gwelliannau parhaus i fwydlenni fel bod disgyblion yn bwyta prydau iach a blasus
• Datblygu rhwydweithiau cyflenwi sy’n cynorthwyo cynhyrchwyr lleol i gyflenwi ysgolion lleol
• Meithrin ymwybyddiaeth ymysg plant ysgol gynradd am bwysigrwydd diet iach, gan greu arferion da am byth
• Codi proffil bwyd a maeth o fewn y cwricwlwm
• Cynorthwyo staff arlwyo i gyflawni eu rôl fel “gweithwyr iechyd modd arall”
• Ei gwneud yn rhwyddach i staff addysgu i wneud dysgu am faeth yn “hwyl” a chynnwys rhieni a llywodraethwyr ysgolion yn y broses
Dangosir enghraifft o fwydlen islaw. Dylid nodi y gellir darparu ar gyfer gofynion dietegol arbennig.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Arlwyo Ysgol ar 01633 644156
Costau Prydau Ysgol
Gall pob plentyn cynradd yng Nghymru nawr gael mynediad at Brydau Ysgol Gynradd Cyffredinol am Ddim.
Dylid talu am brydau yn uniongyrchol i’r ysgol yn wythnosol neu bob tymor ymlaen llaw. Yn unol â chyfarwyddiadau ariannol yr Awdurdod ni ellir rhoi mwy na 5 pryd ar gredyd i unrhyw ddisgybl, a bydd eu rhieni’n derbyn llythyrau yn eu hysbysu am unrhyw arian sy’n ddyledus. Unwaith y bydd y credyd hwn wedi’i dramgwyddo, bydd yn ofynnol i rieni wneud eu trefniadau eu hunain i ddarparu pryd o fwyd amser cinio i’w plentyn nes bod lefelau’r ddyled wedi’u clirio.
Prydau Ysgol Rhad ac am Ddim
• Cymhorthdal Incwm
• Lwfans Ceiswyr Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
• Cymorth dan Ran VI Deddf Lloches a Mewnfudo 1999
• Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
• Credyd Treth Plant, ar yr amod nad oes hawl ganddynt i Gredyd Treth Gwaith ac nad yw incwm blynyddol y cartref (yn ôl asesiad Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi) yn fwy na £16,190
• Elfen gwarant Credyd Pensiwn y Wladwriaeth.
• Estyniad Credyd Treth Gwaith – y taliad y gallai rhywun ei dderbyn am bedair wythnos arall pan yw’n peidio â bod yn gymwys i dderbyn Credyd Treth Gwaith
• Credyd Cynhwysol – gydag enillion blynyddol o lai na £7,400, neu £616.67 y mis.