Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn datblygu llwybrau Teithio Llesol ar draws y Fenni a Llan-ffwyst i gysylltu preswylwyr yn well â chyrchfannau lleol a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. Ein nod yw gwella mynediad at addysg, cyflogaeth, siopau, gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol, gan helpu i greu cymunedau cynaliadwy, gwydn ac wedi’u cysylltu’n dda.

Drwy ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i gerdded, olwyno a beicio ar gyfer teithiau bob dydd, gallwn gefnogi ffyrdd iachach o fyw, lleihau dibyniaeth ar deithio mewn car a gwella cysylltiadau rhwng cymdogaethau a chyrchfannau allweddol.

Rydym yn canolbwyntio ar gysylltiadau teithio llesol rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni, gyda’n llwybr wedi’i gynllunio o amgylch pont deithio llesol newydd dros Afon Wysg rhwng Ffordd Merthyr a Dolydd y Castell, ynghyd â chysylltiadau cysylltiedig ar gyfer llwybrau cynaliadwy mwy diogel, deniadol ac uniongyrchol i Lan-ffwyst a’r Fenni.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi sicrhau £10.4m o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, a £3.6m pellach o Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddatblygu Cynllun Teithio Llesol y Fenni i Lan-ffwyst.

Mae’r cynllun hwn yn flaenoriaeth ganolog ar gyfer datblygu rhwydwaith Teithio Llesol Cyngor Sir Fynwy, gan fynd i’r afael â’r pwynt lle mae Pont Wysg i gerbydau yn torri cysylltiadau teithio llesol.

Pa newid rydym yn disgwyl ei weld?

  • Cynnydd mewn teithiau teithio llesol yn y Fenni
  • Gwell cysylltedd a hygyrchedd ar gyfer teithiau teithio llesol yn Llan-ffwyst a’r Fenni, a rhyngddynt
  • Gwella lefelau gwirioneddol a chanfyddedig o ddiogelwch personol wrth gerdded a beicio
  • Hyrwyddo teithio cynaliadwy fel opsiwn deniadol a diogel yn y Fenni a Llan-ffwyst.

Rydym yn canolbwyntio ar gysylltiadau teithio llesol rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni, gyda’n llwybr wedi’i gynllunio o amgylch pont deithio llesol newydd dros Afon Wysg rhwng Ffordd Merthyr a Dolydd y Castell, ynghyd â chysylltiadau cysylltiedig ar gyfer llwybrau teithio cynaliadwy mwy deniadol ac uniongyrchol rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi sicrhau £10.4m o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ar gyfer adeiladu’r bont a’r llwybrau cysylltu, i ddarparu llwybrau teithio cynaliadwy mwy diogel, deniadol ac uniongyrchol i Lan-ffwyst a’r Fenni. Bydd y gwaith adeiladu yn cynnwys gwaith gwella llwybrau cysylltu ar Dolydd y Castell a chysylltiadau Llan-ffwyst (gweler isod). Bwriedir i’r gwaith hwn ddechrau yn gynnar yn 2026, gyda gwaith fesul cam yn parhau i 2027. Mae amseriad y gwaith yn cael ei effeithio gan lefelau’r afon a chyfyngiadau ecolegol. Bydd y cam hwn o’r gwaith yn cynnwys:

  • Pont gerdded a beicio ffrâm ddur, 3 metr o led, dros Afon Wysg
  • Arwyddion dwyieithog
  • Cysylltiadau â Ffordd Merthyr a llwybrau Dolydd y Castell

Mae Balfour Beatty, partner MCC ar gyfer adeiladu’r bont, wedi darparu gwefan prosiect y bont. Cliciwch ar y ddolen isod i gael rhagor o fanylion am y cynllun, lluniadau technegol, lluniau a fideos o’r gwaith adeiladu, ac i danysgrifio i’r cylchlythyr ar gyfer diweddariadau am y prosiect.


Y ffocws yn Nolydd y Castell yw darparu llwybrau newydd a gwella llwybrau presennol sy’n cysylltu’r bont Teithio Llesol â’r Fenni, gan hefyd greu cysylltiad â Ffordd Merthyr.

Wrth i’r cynllun ddatblygu, bydd gwaith pellach yn edrych ar gyfleoedd i wella llwybrau ychwanegol o fewn y dolydd, yn amodol ar gyllid sydd ar gael. Mae Dolydd y Castell yn Ardal Cadwraeth Arbennig gyda chynefinoedd a bywyd gwyllt sensitif, a bydd yr ystyriaethau amgylcheddol hyn yn chwarae rhan bwysig wrth lunio’r cynlluniau.

Mae llwybr cysylltu drwy Gaeau Ysbyty yn parhau’n uchelgais hirdymor. Fodd bynnag, bydd hyn yn dibynnu ar ddatrys materion perchnogaeth tir a sicrhau cyllid yn y dyfodol.

Mae rhai o’r llwybrau arfaethedig yn rhan o gynllun Teithio Llesol Llan-ffwyst i’r Fenni, gyda’r gwaith adeiladu i fod i ddechrau yn 2026 (gweler uchod).

Bydd y cam hwn o’r gwaith yn cynnwys:

  • Cysylltiadau â llwybrau presennol yn Nolydd y Castell
  • Uwchraddio rhai llwybrau yn Nolydd y Castell i alluogi defnydd ar y cyd
  • Rampiau i’r bont teithio llesol (gweler uchod)
  • Arwyddion dwyieithog
  • Gatiau a ffensys lle bo angen

Mae’r cam hwn yn edrych ar welliannau i lwybrau sy’n canolbwyntio ar ochr Llan-ffwyst i Afon Wysg a’r cysylltiadau â’r bont teithio llesol a Dolydd y Castell. Bydd elfennau o’r cynllun eang hwn yn cael eu cynnwys yn y gwaith adeiladu, gyda rhannau eraill yn cael eu cyflwyno pan fydd cyllid ar gael.

Amcanion cynllun Cysylltiadau Llan-ffwyst

  • Gwella mynediad at wasanaethau lleol, cyflogaeth a chyfleusterau diwylliannol drwy ddulliau Teithio Llesol drwy wella cysylltedd rhwng y Fenni a Llan-ffwyst.
  • Hyrwyddo a hwyluso ffyrdd iachach o fyw drwy gynyddu nifer y cerddwyr a’r beicwyr sy’n defnyddio Ffordd Merthyr a The Cutting at ddibenion cymudo.
  • Gwneud cyfraniad cadarnhaol at ansawdd aer drwy hyrwyddo teithio llesol yng Nghyngor Sir Fynwy a chefnogi’r gwaith o leihau carbon deuocsid o amgylch ardal y Fenni/Llan-ffwyst.
  • Cyflwyno cysylltiadau teithio llesol diogel a hygyrch a dileu gwrthdaro rhwng defnyddwyr o amgylch cylchfan ‘Waitrose’.
  • Darparu llwybr beicio cydlynol, uniongyrchol ac addas ar gyfer y dyfodol sy’n cysylltu â’r seilwaith teithio llesol presennol ac arfaethedig.

Materion a nodwyd o ran teithio llesol rhwng Llan-ffwyst a Ffordd Merthyr, y Fenni

  • Mae’r rhwydwaith ffyrdd presennol yn yr ardal yn hynod o brysur, gan wneud yr amgylchedd yn llai deniadol i gerddwyr, beicwyr a phobl â namau symudedd. Nododd dadansoddiad o ddata Cyfrifiad 2011 fod 15% o yrwyr yn yr ardal yn teithio llai na 2km ac 8% yn teithio rhwng 2km a 5km. Gallai rhai o’r teithiau hyn gael eu gwneud drwy ddulliau Teithio Llesol pe bai seilwaith digonol ar gyfer defnyddwyr nad ydynt mewn cerbydau modur yn cael ei ddarparu.
  • Nid oes cyfleusterau beicio oddi ar y ffordd ar hyn o bryd; felly mae’n rhaid i feicwyr ddefnyddio’r gerbytffordd bresennol i deithio.
  • Diffyg cyfleusterau croesi digonol wrth gylchfan ‘Waitrose’.
  • Mewn rhannau o’r cynllun, mae’r troedffyrdd yn gul ac yn is-safonol, gan orfodi cerddwyr i fod yn agos iawn at y gerbytffordd a’r traffig.
  • Mae materion diogelwch ffyrdd canfyddedig sylweddol, yn enwedig ar hyd Ffordd Merthyr rhwng tafarn y Bridge Inn a chylchfan ‘Waitrose’.
  • Cydnabyddir bod The Cutting yn ardal â thraffig isel ac felly mae ganddi’r potensial i wasanaethu fel cyswllt o Ffordd Merthyr i Lan-ffwyst, ond mae’r llwybr cysylltu presennol y tu ôl i Orsaf Betrol Waitrose yn gul ac wedi gordyfu mewn mannau.

Cysylltiadau Llan-ffwyst – Gwaith adeiladu 2026/27

Edrychodd astudiaeth Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) ar yr ardal hon ar ffyrdd o wella darpariaeth cysylltiadau teithio llesol rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni. Bydd cyllid a ddyfarnwyd o Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ein galluogi i ddiweddaru cynllun y ffordd er mwyn darparu cysylltiadau teithio llesol gwell o The Cutting a chylchfan Waitrose, ar hyd Ffordd Merthyr tuag at y bont bresennol a’r bont teithio llesol yn y dyfodol. Mae’r cynlluniau ar gyfer y gwaith adeiladu hwn wedi’u datblygu drwy ymgynghori â’r cyhoedd a rhanddeiliaid, a byddant yn cynnwys:

  • Croesfan sebra ger Pont Wysg (ychydig i’r de o fynedfa’r fynwent)
  • Cwrb isel hygyrch wrth yr isbont/Lôn yr Eglwys
  • Lledu’r droedffordd lle mae’n ymuno â’r bont ar yr ochr dde-ddwyreiniol
  • Llwybr defnydd a rennir ar hyd ochr ddwyreiniol Ffordd Merthyr
  • Croesfan baralel ar ben deheuol Ffordd Merthyr (i’r gogledd o gylchfan Waitrose, gan ddisodli’r groesfan afreolus bresennol ar yr ynys wahanu)
  • Troedffordd barhaus rhwng KwikFit a Wharf House – ar hyn o bryd mae bwlch yn y droedffordd yn cyfyngu ar fynediad (lle cafodd mynedfa gerbydau ei thynnu).
  • Croesfan baralel ar ffordd ymuno Blaenau’r Cymoedd i ddisodli’r groesfan afreolus bresennol
  • Mae gwaith ail-wynebu priffyrdd ychwanegol yn ardal Llan-ffwyst hefyd wedi’i gynllunio.

*Mae croesfan baralel yn groesfan sebra ar gyfer cerddwyr a beicwyr.

Mae ymgynghorwyr dylunio WSP wrthi’n cwblhau manylion dylunio’r gwaith hwn, gyda’r nod o ddechrau’r gwaith adeiladu rhwng gaeaf 2026 a gwanwyn 2027.

Cliciwch yma i weld y cynllun adeiladu

Bydd ymyriadau pellach o astudiaeth WelTAG Cysylltiadau Llan-ffwyst yn cael eu hailystyried ar ôl i’r bont gael ei hadeiladu. Mae’r lluniadau astudiaeth WelTAG sydd ar gael isod yn dangos cwmpas cyffredinol y cynigion gwreiddiol.

Ffordd Merthyr i Waitrose

Ffordd Merthyr i’r A465

The Cutting 1

The Cutting 2


Mae llwybrau teithio llesol yn y Fenni yn cael eu harchwilio i’w cynnwys ym Map Rhwydwaith Teithio Llesol Llywodraeth Cymru gyda’r sgorio archwilio yn nodi mân waith ar draws y rhwydwaith.

Mae gwaith bach yn cynnwys eitemau fel gosod cyrbau isel, palmentydd cyffyrddol a pharcio beiciau.


Cliciwch ar y map i’w ehangu