Mae Pont y Gadwyn yng Nghemais Commander yn strwythur hanesyddol Gradd II rhestredig sydd wedi gwasanaethu cymunedau lleol ers bron i 120 mlynedd. Mae arolygiadau rheolaidd wedi nodi’r angen am waith adnewyddu sylweddol er mwyn diogelu dyfodol hirdymor y bont.
Yn dilyn yr arolygiadau, mae cyfyngiad pwysau o 7.5 tunnell ar waith wrth i’r cyngor barhau i ddatblygu cynlluniau i adnewyddu’r bont.
Diweddariad 21 Awst: Mae’r cynllun yn parhau gyda’r gwaith yn symud ymlaen ar draws datblygu’r dyluniad, asesiadau amgylcheddol, cymeradwyaethau a chynllunio caffael.
Mae gwaith dylunio manwl ar y gweill, gan gynnwys lluniadau adeiladu, manylebau ac asesiadau technegol. Mae arolygon amgylcheddol hefyd yn cael eu cwblhau i gefnogi’r broses gynllunio a chaniatâd.
Ar hyn o bryd rydym yn adolygu’r pecyn dylunio drafft ar gyfer y cynllun. Mae contractwyr dur arbenigol hefyd yn cynnal adolygiad annibynnol i helpu i sicrhau bod y dyluniadau’n gadarn ac yn barod ar gyfer adeiladu.
Mae tîm y prosiect yn parhau i weithio’n agos gyda sefydliadau allweddol, gan gynnwys Cadw, Cyfoeth Naturiol Cymru a darparwyr cyfleustodau, i sicrhau’r cymeradwyaethau a’r cytundebau angenrheidiol.
Mae swyddogion y cyngor wedi cynnal ymweliad safle yn ddiweddar, ac mae arolwg arboricwlturol sy’n gysylltiedig â’r gwaith o atgyweirio’r tirlithriad wedi’i gwblhau. Mae’r cyngor bellach yn aros am adroddiad yr arolwg.
Mae dylunwyr gwaith dros dro hefyd wedi’u penodi, ac mae’r dyluniadau’n mynd rhagddynt yn ôl y cynllun. Bydd hyn yn caniatáu cynnwys gwybodaeth y gwaith dros dro ym mhrif becyn tendro’r gwaith adeiladu.
Dros y misoedd nesaf, bydd tîm y prosiect yn canolbwyntio ar:
- Cwblhau arolygon ac adroddiadau amgylcheddol.
- Bwrw ymlaen â’r cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig gyda Cadw a thîm treftadaeth y cyngor.
- Cwblhau’r gwaith dylunio manwl a’r cynigion ar gyfer atgyweirio’r tirlithriad.
- Adolygu’r arolwg coed sy’n gysylltiedig â’r gwaith o atgyweirio’r tirlithriad.
- Symud cytundebau dargyfeirio cyfleustodau ymlaen.
- Cynnal arolygon ychwanegol, gan gynnwys ymchwiliadau paent ac asbestos.
- Cwblhau dyluniadau’r gwaith dros dro.
- Bwrw ymlaen â chytundebau mynediad tir.
- Parhau â gweithgareddau caffael ar gyfer y prif waith adeiladu.
Mae’r cyngor yn parhau’n ymrwymedig i symud y prosiect ymlaen a bydd yn parhau i ddarparu diweddariadau wrth i’r gwaith fynd rhagddo.
Diweddariad 5 Awst: Mae cynnydd ar y Cynllun Adnewyddu Pont y Gadwyn yn parhau ar draws datblygu’r dyluniad, ecoleg, cydlynu cyfleustodau, caniatadau a chynllunio caffael.
Mae gwaith dylunio manwl yn mynd rhagddo, gan gynnwys paratoi lluniadau adeiladu, manylebau ac asesiadau technegol. Mae arolygon ac adroddiadau amgylcheddol yn cael eu cwblhau er mwyn cefnogi’r broses gynllunio a chaniatadau.
Mae tîm y prosiect yn gweithio’n agos gyda sefydliadau allweddol, gan gynnwys CADW, Cyfoeth Naturiol Cymru a darparwyr cyfleustodau, i sicrhau’r holl gymeradwyaethau angenrheidiol.
Mae’r cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig wedi’i gyflwyno i’w adolygu.
Mae tîm y prosiect yn bwriadu bwrw ymlaen â thasgau dylunio’r gwaith dros dro yn gynharach er mwyn cynnwys y wybodaeth hon yn y broses gaffael, gan leihau ymhellach y risg o oedi i’r rhaglen.
Dros y misoedd nesaf, bydd tîm y prosiect yn canolbwyntio ar:
- Cwblhau arolygon ac adroddiadau amgylcheddol.
- Datblygu’r dyluniad manwl a’r cynigion ar gyfer atgyweirio’r tirlithriad.
- Cwblhau arolygon coed sy’n ymwneud â’r gwaith atgyweirio tirlithriad.
- Datblygu cytundebau dargyfeirio cyfleustodau.
- Cynnal arolygon ychwanegol, gan gynnwys asesiadau paent, asbestos a choed.
- Dechrau gweithgareddau caffael ar gyfer y prif waith adeiladu.
Mae Cynllun Adnewyddu Pont y Gadwyn yn parhau ar draws datblygu’r dyluniad, ecoleg, cydlynu cyfleustodau, caniatadau a chynllunio caffael.
Mae gwaith dylunio manwl yn mynd rhagddo, gan gynnwys paratoi lluniadau adeiladu, manylebau ac asesiadau technegol. Mae arolygon ac adroddiadau amgylcheddol yn cael eu cwblhau i gefnogi’r broses gynllunio a chaniatadau.
Mae tîm y prosiect yn gweithio’n agos gyda sefydliadau allweddol, gan gynnwys CADW, Cyfoeth Naturiol Cymru a darparwyr cyfleustodau, i sicrhau bod yr holl gymeradwyaethau angenrheidiol yn eu lle.
Mae ymchwiliadau i’r tirlithriad cyfagos wedi symud ymlaen, gyda gwaith ymchwilio tir arbenigol wedi’i gwblhau a gwaith dylunio ar y gweill i ddatblygu ateb atgyweirio hirdymor. Bydd y gwaith hwn yn cael ei integreiddio i raglen gyffredinol y prosiect.
Cerrig Milltir i Ddod
Dros y misoedd nesaf, bydd tîm y prosiect yn canolbwyntio ar:
- Cwblhau arolygon ac adroddiadau amgylcheddol.
- Cyflwyno’r cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig.
- Datblygu’r dyluniad manwl a’r cynigion ar gyfer atgyweirio’r tirlithriad.
- Bwrw ymlaen â chytundebau dargyfeirio cyfleustodau.
- Cynnal arolygon ychwanegol, gan gynnwys asesiadau paent, asbestos a choed.
- Dechrau gweithgareddau caffael ar gyfer y prif waith adeiladu
Pam ydych chi wedi cyflwyno terfyn pwysau newydd?
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cynnal y cyfyngiad o 44T ers dechrau monitro. Cyflawnwyd hyn trwy gyflwyno goleuadau traffig i leihau’r bont i un lôn lwythog a thrwy gryfhau nifer o’r rhodenni crog sy’n cysylltu dec y bont i’r prif fwa.
Mae’r rhodenni yn un o’r prif heriau o ran y bont, yn enwedig lle maent yn cysylltu â dec y bont. Mae’r rhodenni’n cael eu monitro’n rheolaidd, ac mae lefelau ymyrraeth yn cael eu hamlinellu a rhaid i ni weithredu arnynt pan fyddwn yn cyrraedd y lefelau yma.
Roedd un o’r rhodenni hyn wedi dirywio ers yr arolygiad blaenorol, sydd wedi arwain at yr angen i osod cyfyngiad pwysau o 7.5T.
Pryd fydd y cyfyngiad pwysau yn cael ei godi?
Rydym wedi a byddwn yn parhau i gynnal archwiliadau a byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i ailasesu cyfanrwydd adeileddol y bont i weld a ellir gwella’r cyfyngiad pwysau hwn yn ddiogel. Mae’r ailasesiad yma ar y gweill ond mae’r Bont Gadwyni yn strwythur cymhleth i’w ddadansoddi a bydd yn cymryd amser i’w gwblhau a disgwylir y canlyniadau erbyn mis Hydref eleni.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Yn ogystal â’r ailasesiad, byddwn hefyd yn edrych ar yr opsiynau adnewyddu i asesu’r hyn sydd ei angen i ddod â’r strwythur hwn yn ôl i statws anghyfyngedig. Ni fyddwn yn gwybod beth yw cwmpas y gwaith hwn nes bod yr asesiad wedi’i gwblhau, ond mae’n debygol y bydd y rhodenni crog a’r trawstiau’n cael eu hadnewyddu’n llawn.
Beth am fynediad i gerbydau trymach?
Mae llwybrau amgen wedi’u nodi ac yn cynnwys mynediad trwy Frynbuga a thrwy Betws-y-newydd. Gellir codi’r cyfyngiad uchder ar bont reilffordd segur B4598 Stryd Porthycarne. Trwy gyfeirio cerbydau i lawr canol y bont, gyda leinin gwyn addas ac arwyddion yn eu harwain, gellir gwella hyn o 11’6” ar hyn o bryd i 13’9”. Bydd y gwrychoedd yn cael eu torri’n ôl cymaint â phosibl a’r canopi coed yn cael clirio. Byddwn hefyd yn lledu’r ffordd lle mae ymylon wedi gordyfu ar y ffordd gerbydau. Bydd mannau pasio presennol yn cael eu gwella cymaint ag sy’n ymarferol.
Oni allwch chi roi pont newydd yno?
Mae’r Bont Gadwyni yn adeiledd eiconig ac yn Rhestredig. Bydd angen i unrhyw waith ar y Bont gael ei wneud yn unol â’i statws Rhestredig.
A ellir agor Ffordd Thornbury cyn y gwaith ar y Chainbridge?
Yn anffodus, ni fyddai hyn yn bosibl, gan y dylid cwblhau’r gwaith o atgyweirio’r Chainbridge a’r tirlithriad ar Ffordd Thornbury ar yr un pryd er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau. Gallai dechrau’r gwaith clirio ar gyfer y tirlithriad yn gynharach achosi difrod ychwanegol annisgwyl i’r ffordd, gan fod y coed sydd wedi cwympo a’r malurion yn helpu i ddiogelu’r llethr yn ystod unrhyw lifogydd gaeafol. Bydd y gwaith i atgyweirio a chlirio’r tirlithriad yn cael ei gynnwys yn y pecyn tendro llawn ar gyfer y prif gontractwr. Unwaith y bydd y contract wedi’i ddyfarnu, bydd Cyngor Sir Fynwy yn gweithio gyda’r contractwr i gyflymu’r gwaith gymaint â phosibl.
A ellir gwneud gwaith ar y Chainbridge ar benwythnosau a chadw’r bont ar agor yn ystod yr wythnos? Pa opsiynau sydd ar gael i osgoi cau’r B4598 am gyfnod sylweddol o amser?
Rydym yn gweithio gyda’r dylunwyr a’r contractwr ECI i ddatblygu cynllun a fydd yn cadw’r ffordd ar agor am gymaint o gyfnod y gwaith adeiladu â phosibl. Rydym yn rhagweld y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau mewn camau er mwyn galluogi hyn, ac mae asesiadau ar y gweill ar hyn o bryd i benderfynu pa mor ymarferol yw hyn.