Skip to Main Content

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut yr ydym yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwn gennych a’r gweithdrefnau sydd gennym mewn lle i ddiogelu eich preifatrwydd.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. O dan Ddeddf Diogelu Data 1998 y mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu amdanoch.

Y wybodaeth bersonol a gasglwn a sut rydym yn ei defnyddio

Nid ydym yn casglu na chadw gwybodaeth bersonol am bobl sy’n defnyddio’r wefan hon, ac eithrio pan fyddwch yn dewis o’ch gwirfodd i roi gwybodaeth bersonol i ni drwy gyfryngau cymdeithasu neu e-bost, trwy ddefnyddio ffurflen electronig ar y wefan, neu drwy ymholi am un o’n gwasanaethau.

Yn yr amgylchiadau hyn, ni ddefnyddir y wybodaeth bersonol a roddwyd gennych ond i ddarparu’r wybodaeth neu’r gwasanaeth y gofynnwyd amdani/amdano, oni bai bod dibenion ehangach yn cael eu nodi yn y ffurflen y mae’r wybodaeth yn cael ei darparu arni neu yn y man lle mae’r wybodaeth wedi cael ei chasglu ar y wefan – ac yn yr achos hwnnw, gellir defnyddio’r wybodaeth ar gyfer unrhyw un o’r dibenion ehangach.

Data ystadegol

Efaillai y byddwn hefyd yn defnyddio gwybodaeth ac ystadegau cyfanredol i fonitro defnydd o’r wefan er mwyn ein helpu i ddatblygu’r wefan ac ein gwasanaethau. Efallai y byddwn yn darparu’r fath wybodaeth gyfanredol i drydydd partïon. Ni fydd yr ystadegau hyn yn cynnwys gwybodaeth y gellir ei defnyddio i’ch adnabod chi.

Datgelu gwybodaeth

Ni fyddwn yn cadw eich gwybodaeth ond cyhyd ag y bo’i hangen i’r diben y’i casglwyd ar ei gyfer.

Ni ddatgelir gwybodaeth bersonol i drydydd partïon oni bai y nodir ar y dudalen we a/neu ffurflen berthnasol lle y cesglir y wybodaeth, neu fel sy’n ofynnol neu a ganiateir gan y gyfraith.

Defnyddio cwcis

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon. Mae cwci yn ffeil testun sy’n adnabod eich cyfrifiadur i’n gweinydd. Nid yw cwcis ar bennau eu hunain yn adnabod y defnyddiwr unigol, dim ond y cyfrifiadur a ddefnyddir.

Ni ddefnyddir cwcis i gasglu gwybodaeth bersonol.

Byddwch yn cael cyfle i osod eich cyfrifiadur i dderbyn pob cwci, i roi gwybod i chi pan fydd cwci yn cael ei gyflwyno, neu i beidio â derbyn cwcis ar unrhyw adeg. Mae’r ffordd yr ydych yn gwneud hyn yn dibynnu ar ba borwr gwe yr ydych yn ei ddefnyddio. Cyfeiriwch at y swyddogaeth ‘help’ ar gyfer eich porwr.

Os ydych yn derbyn cwcis, efallai y byddant yn aros ar eich cyfrifiadur am nifer o flynyddoedd, oni bai eich bod yn eu dileu. Sylwer y gall wrthod cwcis gyfyngu ar eich defnydd o’n gwefan a gwasanaethau gwefan.

Sut rydym yn diogelu eich gwybodaeth

Mae’r holl wybodaeth bersonol a gesglir ar y wefan hon yn cael ei chofnodi mewn cronfa ddata ddiogel.

Mae’n ofynnol i’n holl weithwyr a phroseswyr data sydd â mynediad i –  neu sy’n gysylltiedig â – prosesu gwybodaeth bersonol barchu cyfrinachedd y wybodaeth honno.

Byddwn yn sicrhau na fydd eich data personol yn cael eu datgelu i sefydliadau ac awdurdodau’r llywodraeth oni bai bod hyn yn ofynnol neu a ganiateir gan y gyfraith.

Diogelwch e-bost

Sylwer y gall negeseuon e-bost beidio bod yn ddiogel, a gellid eu rhyng-gipio a’u darllen gan rywun arall, oni bai eu bod yn cael eu hamgryptio. Gofynnir i chi gadw hyn mewn cof wrth benderfynu a ddylid cynnwys gwybodaeth bersonol neu sensitif mewn negeseuon e-bost yr ydych yn bwriadu eu hanfon.

Eich caniatâd

Trwy gyflwyno eich gwybodaeth yr ydych yn cytuno i’r defnydd o’r wybodaeth honno fel y nodir yn y polisi hwn. Os byddwn yn newid y polisi preifatrwydd hwn, byddwn yn eich diweddaru gyda’r newidiadau ar y dudalen hon. Bydd parhau i ddefnyddio’r gwasanaeth yn arwydd eich bod yn cytuno i unrhyw newidiadau o’r fath.

Defnyddwyr 16 oed ac iau

Os ydych yn 16 oed neu’n iau, gofynnir i chi gael caniatâd eich rhiant/gwarcheidwad cyn i chi ddarparu gwybodaeth bersonol ar ein gwefan. Nid yw defnyddwyr heb y caniatâd hwn yn cael eu caniatáu i ddarparu gwybodaeth bersonol i ni.

Diogelu data

Byddwn yn prosesu unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn yn unol â Deddf Diogelu Data 1998. Os ydych yn dymuno cael mynediad i wybodaeth bersonol a gasglwyd gennych drwy’r wefan hon, neu os oes gennych ymholiad neu bryder ynghylch prosesu data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data yn foi@monmouthshire.gov.uk

O dan Ddeddf Diogelu Data 1998, gallwch ofyn am gopi o’ch gwybodaeth a byddwn yn rhoi copi darllenadwy i chi o’r wybodaeth bersonol sydd gennym y mae gennych hawl iddi.

Bydd hon yn cael ei hanfon atoch o fewn 40 diwrnod wedi i chi wneud eich cais – er ein bod bron bob amser yn gofyn am brawf o bwy ydych chi cyn rhoi’r wybodaeth (er mwyn lleihau’r risg o roi gwybodaeth i’r unigolyn anghywir) ac efallai y byddwn yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth i’n helpu i ddod o hyd i’ch gwybodaeth bersonol. Efallai y bydd rhaid i chi dalu ffi fach cyn i’r wybodaeth gael ei darparu.

Os ydych yn dal yn anfodlon ar ôl codi mater ynghylch y polisi hwn, a/neu ar ôl gwneud cais i gael mynediad at wybodaeth bersonol a gasglwyd gennych drwy’r wefan hon, gallwch hefyd gysylltu â:

Y Comisynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF