Skip to Main Content

Cynhyrchwn Ganllawiau Cynllunio Atodol (SPG) i roi manylion pellach ar rai polisïau a chynigion yn y Cynllun Datblygu Lleol. Nid oes gan Ganllawiau Cynllunio Atodol (SPG) yr un statws â pholisïau cynllun datblygu a fabwysiadwyd ond gellir eu hystyried fel ystyriaeth berthnasol.

Cafodd yr SPG dilynol eu mabwysiadu i gefnogi’r Cynllun Datblygu Lleol, yn dilyn ymgynghoriad gyda’r cyhoedd. Mae’r SPG a fabwysiadwyd ar gael i’w gweld yn defnyddio’r dolenni islaw:

Paratowyd Nodyn Cyngor Tyrbin Gwynt ar lefel ranbarthol i osod methodoleg ar gyfer penderfynu p’un ai oes angen Asesiad Effaith ar yr Amgylchedd ai peidio ar gyfer datblygu tyrbinau gwynt a’r isafswm gofynion a safonau gwybodaeth i’w cyflwyno gydag Asesiad Tirlun ac Effaith Gweledol. Cymeradwywyd hwn gan Benderfyniad Aelod Cabinet Unigol ym mis Mawrth 2016.

Cafodd y Gwerthusiadau Ardal Cadwraeth dilynol eu cymeradwyo gan Aelod Cabinet Unigol ar 23 Mawrth 2016 a daw’r diwygiadau i’r ffiniau i rym ar 31 Mawrth 2016. Cafodd y dogfennau eu cymeradwyo fel Canllawiau Cynllunio Atodol.

Cafodd rhaglen o Ganllawiau Cynllunio Atodol i gefnogi’r Cynllun Datblygu Lleol ei chymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio a’r Aelod Cabinet Unigol ym mis Mai 2016. Mae’r Adroddiad ac Atodlen Canllawiau Cynllunio Atodol ar gael i’w gweld.

Dogfennau CCA Mabwysiedig Eraill

Adran 106 Cytundebau /Ardoill Seiliau Cymunedol