Skip to Main Content

Bob mis Hydref rydym yn cynnal ‘gwiriad iechyd’ manwerthu ar ein pum prif dref (h.y. y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent, Trefynwy a Brynbuga). Mae’r arolygon hyn yn cynnwys cofnodi defnydd llawr daear cyfredol yr adeiladu, nifer yr unedau gwag, gwerthoedd rhent a nifer cerddwyr yn ystod dyddiau penodol o’r wythnos ym mhob un o’r ardaloedd siopa canolog. Rydym hefyd yn cynnal arolwg gofod llawr ac arolwg cartrefi bob 5 mlynedd.

Cynhaliwyd yr arolwg diweddaraf o ofod llawr yn 2014, tra cynhaliwyd yr arolwg aelwydydd diweddaraf ar ran y cyngor yn 2015 gan Beaufort Research. Caiff yr wybodaeth a gasglwyd ei defnyddio i hysbysu Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy a chynlluniau datblygu adfywio eraill. Mae’r Papur Gwybodaeth Manwerthu (Awst  2022) diweddaraf ar gyfer y flwyddyn 2021.