Skip to Main Content

Trosolwg ac Amserlen y CDLlA

Cynllun Datblygu Lleol Amnewid

Ymgynghorodd Cyngor Sir Fynwy ar ei Strategaeth a Ffefrir rhwng 5ed Rhagfyr 2022 a’r 30ain Ionawr 2023. Ewch i dudalen Stratgaeth a Ffefrir  am ragor o wybodaeth.

Mae Cytundeb Cyflenwi diwygiedig wedi ei baratoi ar y cyd gyda’r Strategaeth a Ffefrir sydd yn diwygio amserlen y prosiect ar gyfer paratoi’r Cynllun. 

Diweddariad Ffosffadau Gorffennaf 2023

Mae diweddariad briffio ffosffadau wedi’i baratoi ar fater amgylcheddol heriol ansawdd dŵr yn yr Afon Gwy a’r Afon Wysg. Mae’r papur hwn yn canolbwyntio ar y goblygiadau i Sir Fynwy o ran cynigion datblygu a datblygiad y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid  (CDLlA).

Nid oedd y Strategaeth a Ffefrir (Rhagfyr 2022) yn cynnig unrhyw ddyraniadau safle newydd ym mhrif anheddiad Trefynwy, nac o fewn dalgylch Afon Gwy uchaf i’r gogledd o Bont Bigsweir oherwydd diffyg ateb strategol a nodwyd i drin ffosffadau yng Ngwaith Trin Dŵr Gwastraff Trefynwy (GTDG) o fewn cyfnod y Cynllun. Fodd bynnag, roedd llythyr ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir yn nodi y dylid ystyried dyraniadau safleoedd newydd yn Nhrefynwy ar y sail y darperir digon o sicrwydd gan welliannau arfaethedig Dŵr Cymru i Waith Trin Dŵr Gwastraff Trefynwy erbyn 31 Mawrth 2025.

Mae cael gwared ar y cyfyngiad gofodol hwn yn ardal Trefynwy yn golygu y gall y CDLlA ddyrannu datblygiad tai fforddiadwy newydd yn Nhrefynwy. Cynigir y bydd y Cynllun Adnau yn dynodi safle(oedd) strategol newydd ar gyfer tua 250-300 o gartrefi yn Nhrefynwy. Mae hyn yn ychwanegol at y tri safle etifeddol a nodwyd yn y Strategaeth a Ffefrir sy’n cynnwys 275-290 o gartrefi newydd a ddygwyd ymlaen o’r CDLl mabwysiedig neu ganiatâd/ceisiadau cynllunio presennol ond na sydd wedi medru symud ymlaen oherwydd y cyfyngiad ffosffad:

  • dyraniad presennol y CDLl yn Heol Tudur, Wyesham (35 – 50 o gartrefi);
  • dyraniad presennol y CDLl yn Fferm Drewen, Trefynwy (110 o gartrefi);
  • y caniatâd cynllunio sy’n bodoli yn Heol Rockfield, Trefynwy (70 o gartrefi); a
  • dyraniad newydd ar gyfer y 60 o gartrefi sy’n weddill yn Heol Rockfield, Trefynwy.

Bydd yn ofynnol i bob dyraniad safle newydd ddarparu 50% o dai fforddiadwy. Bydd cyfle i wneud sylwadau ar unrhyw ddyraniadau safle yn ystod y cyfnod y Cynllun Adneuo yng Ngwanwyn 2024. Ni allwn dderbyn sylwadau tan yr amser hwn.

Cofrestr o Safleoedd Ymgeisiol

Fel rhan o’r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir, roeddem hefyd wedi gwahodd sylwadau ar y safleoedd ymgeisiol a restrir yn y Gofrestr ar y Safleoedd Ymgeisiol sy’n nodi’r safleoedd a gyflwynwyd yn ystod yr Ail Alwad am Safleoedd Ymgeisiol. Mae’r Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol wedi’i diweddaru i adlewyrchu’r newid yn y dull o ymdrin â’r her ffosffadau yn Nalgylch Afon Gwy Uchaf yn dilyn yr ymgynghoriad diweddar ar y Strategaeth a Ffefrir. Mae safle ychwanegol a gyflwynwyd fel rhan o’r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir hefyd wedi’i gynnwys yn y Gofrestr wedi’i diweddaru, sef Tir i’r Dwyrain o’r Fenni 2. Bydd cyfle i wneud sylwadau ar y safleoedd hyn yng nghyfnod y Cynllun Adneuo yng Ngwanwyn 2024. Ni allwn dderbyn sylwadau hyd yr amser hwn. Ewch i’r dudalen Safleoedd Ymgeisiol am ragor o wybodaeth.

Camau nesaf

Ym mis Hydref 2023 cymeradwyodd y Cyngor ddiweddariadau i’r Strategaeth a Ffefrir yn dilyn yr ymgynghoriad/ymgysylltiad statudol rhwng Rhagfyr 2022 ac Ionawr 2023. Gallwch weld yr adroddiad hwn yma. Ar hyn o bryd mae gwaith yn mynd rhagddo ar baratoi’r Cynllun Adneuo y disgwylir iddo fod yn destun ymgynghori/ymgysylltu statudol ddiwedd Gwanwyn 2024.

Sut y gallaf gael yr wybodaeth ddoweddaraf?

Os dymunwch gael gwybodaeth am y CDLIA ,gan gynnwys ymgynghoriadau yn y dyfodol, cofrestrwch,  eich manylion neu gysylltu â’r Tîm Polisi Cynllunio.

E-bost: planningpolicy@monmouthshire.gov.uk

Ffôn: 01633 644429