Skip to Main Content

Beth yw ASC?

Ardoll newydd yw’r Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC) a gyflwynwyd yn Ebrill 2010 sy’n galluogi awdurdodau lleol yn Lloegr a Chymru i osod tâl ar y rhan fwyaf o fathau o ddatblygiadau newydd yn eu hardal. Mae’r ASC yn gymwys ar gyfer y rhan fwyaf o adeiladau newydd gyda 100 metr sgwâr neu fwy o arwynebedd llawr mewnol gros ac ar gyfer adeiladau newydd o unrhyw faint. Mae Rheoliadau ASC yn caniatáu i awdurdodau codi tâl i osod cyfradd wahaniaethol yn ôl math, maint a lleoliad y datblygiad. Gellir defnyddio’r arian a gynhyrchir ASC i ariannu ystod eang o isadeiledd sydd ei angen i gefnogi twf yn yr ardal. Gall hyn gynnwys pethau fel adnoddau cymunedol, addysg a gwelliannau trafnidiaeth.

Mae pob awdurdod lleol yn paratoi Rhestr Daliadau sy’n dynodi’r lefel o ASC a gymhwysir i bob math o ddatblygiadau taladwy. Unwaith caiff ei chyflwyno mae’r ASC yn orfodol ac fe godir tâl yn erbyn pob datblygiad newydd sy’n cwrdd â’r meini prawf cymhwyster.

Mae’n rhaid i’r ASC yn gyffredinol fod yn ‘fforddiadwy’ i ddatblygwyr ac ni ddylid ei gweld at ei gilydd fel bygythiad i hyfywedd datblygiad mewn ardal benodol. Gellir gweld gwybodaeth bellach ar ASC, gan gynnwys y Rheoliadau ASC, yn yr adran dogfennau ategol ASC.

Mae’n rhaid i Restr Daliadau ASC gael ei hysbysu gan drysorfa dystiolaeth briodol. Cyflawnwyd astudiaeth ddichonoldeb gynhwysfawr sy’n amlinellu tystiolaeth fanwl ar hyfywedd datblygiad ar draws ystod o safleoedd a defnyddiau yn Sir Fynwy. Mae’r ddogfen hon hefyd ar gael i’w gweld yn yr adran dogfennau ategol ASC.

Cyfnodau allweddol ar gyfer Mabwysiadu Rhestr Daliadau ASC:

  • Cyfnod 1:Cyhoeddi/Ymgynghori ar Restr Codi Tâl Gychwynnol Ddrafft.
  • Cyfnod 2: Cyhoeddi/Ymgynghori ar Restr Codi Tâl Ddrafft.
  • Cyfnod 3: Cyflwyno ar gyfer Archwiliad
  • Cyfnod 4: Archwilio’r Rhestr Codi Tâl Ddrafft.
  • Cyfnod 5: Mabwysiadu’r Rhestr Codi Tâl a gweithredu ASC

Ymgynghorodd y Cyngor ar Ddrafft o’r Atodlen Codi Tâl ASC o Ddydd Iau 24ain Mawrth i Ddydd Iau 5ed o Fai 2016 (Cam 2).

Beth sy’n digwydd nesaf?

Yn dilyn ymgynghoriad ynglŷn â’r Rhestr Codi Tâl Drafft, y cam nesaf buasai cyflwyno’r RhCTD am archwiliad annibynnol.    Cafodd y gyflwyniad ei ohirio, serch hynny, hyd nes ymateb llywodraeth y DG i argymhellion Adroddiad Arolygiad ASC (CIL) y Grŵp Peace (Hydref 2016), a oedd y cyd-fynd â’r Papur Gwyn dros Dai Fixing our broken housing market (Chwefror 2017). Rhagwelwyd cyhoeddiad oddi wrth y Llywodraeth ynglŷn â dyfodol yr ASC yng Nghyllideb yr Hydref 2017, ac ar ôl hynny roedd y Cyngor yn bwriadu ailasesu ei safbwynt ynglŷn ag ASC.      Roedd y newidiadau cafodd eu cyflwyno yn natganiad Cyllideb yr Hydref gan y Canghellor yn gymharol fach ac nid oeddent yn ystyried y newidiadau sylweddol cafodd eu hargymell yn yr Adolygiad Peace, er bod y Weinidogaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth leol wedi rhedeg ymgynghoriad ers hynny ynglŷn â rhai newidiadau arfaethedig i’r modd o gefnogi darpariaeth tai trwy gyfraniadau datblygwyr.    Roedd yr ymgynghoriad dim ond yn berthnasol i Loegr, serch hynny, gan fod Deddf Cymru 2017 wedi datganoli ASC i Lywodraeth Cymru, sydd heb dangos arwydd hyd yn hyn o’i ymagwedd debygol tuag at ASC. O ystyried yr ansicrwydd ynglŷn â’r mesur, felly, mae gweithrediad ASC wedi’i oedi a bydd y Cyngor yn ailystyried ei safle ar ASC yn ystod proses Adolygiad y CDLl (LDP).

Cynllunio Seilwaith

Un o elfennau pwysig proses paratoi ASC yw gweithredu asesiad seilwaith

Manylion Cyswllt

Ar gyfer unrhyw ymholiadau parthed y Lefi Seilwaith Cymunedol cysylltwch â’r Tîm Polisi Cynllunio:

Ffôn: 01633 644429