Skip to Main Content

Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) ar Adran 106 yn cael eu paratoi i ategu’r Cynllun Datblygu Lleol. Amlinellir ein sefyllfa bresennol yn ein Hagwedd at Bolisi Dros Dro Rhwymedigaethau Cynllunio, a gytunwyd gan y Cyngor ar 27 Mehefin 2013. Nid oes gan y ddogfen hon statws CCA mabwysiedig gan na fu’n destun ymgynghoriad cyhoeddus ond mae’n amlinellu agwedd i lywio trafodaethau rhyngom ni ag ymgeiswyr ar drafodaethau ar ofynion cynllunio 106. Mae’n cwmpasu tri phrif gyfnod hyd at ac yn cynnwys mabwysiadu tebygol yr Ardoll Seiliau Cymunedol (ASC):

  • Yn gyntaf, o’r cyfnod hyd at fabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl);
  • Yn ail, o gyfnod mabwysiadu’r CDLl tan i’r CCA cyflawn ar Rwymedigaethau Cynllunio gael eu cymeradwyo;
  • Yn drydydd, ar ôl mabwysiadu’r CCA ar Rwymedigaethau Cynllunio ac (os bwrir ymlaen â’r opsiwn) cyflwyno ASC gan y Cyngor.

Mae angen i’r Cyfarwyddyd Polisi Dros Dro gael ei ddiweddaru yn dilyn mabwysiadu’r CDLl. Ni wnaed hyn hyd yma, er i osgoi unrhyw amheuaeth, fe ddiwygiwyd Polisi S7 y CDLl (a nodir ar ddalen 11 y Cyfarwyddyd) er mwyn ystyried y newidiadau mewn geiriad polisi a gyflwynwyd yn ystod cwrs yr Archwiliad. Dylid nodi’n ogystal i reoliadau diwygiedig ASC ddod i rym gyda’r canlyniad bod y dyddiad o’r hwn na fydd yn bosibl cyfuno cyfraniadau o fwy na phum rhwymedigaeth wedi ei newid i 6 Ebrill 2014 fel y nodwyd yn y Cyfarwyddyd).

Yn yr un cyfarfod cyngor penderfynwyd hefyd i ddechrau gwaith paratoadol ar gyfer ASC, gyda’r bwriad o fabwysiadu ffi ASC cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol wedi mabwysiadu’r CDLl. Mae mwy o wybodaeth ynglŷn ag ASC ar gael yma.

Os yw’n cael ei fabwysiadu gan y Cyngor, bydd ASC yn disodli i raddau helaeth cytundebau Adran 106 o ran ariannu seilwaith sy’n angenrheidiol er mwyn cefnogi datblygiadau newydd.  Tan hynny bydd y Cyngor yn parhau i ddefnyddio cytundebau o’r fath. Mae rhwymedigaethau A106 ar ddatblygiadau cyfredol a’r cynlluniau y defnyddir hwy ar eu cyfer ar gael i’w gweld yma. Mae gwybodaeth ynglŷn â phroses cynllunio seilwaith y cyngor ar gael yma.