Skip to Main Content

Bydd ardal fach o blannu blodau gwyllt ar bob safle, lle’n bosibl

Fel llawer o gynghorau eraill, mae Sir Fynwy wedi cytuno ar bolisi tebyg ar wedd “POLISI NODDI LLEINIAU YMYL FFORDD”. Nod y polisi yw galluogi cwmnïau i ddefnyddio lleoliadau sydd ar gael gan Gyngor Sir Fynwy ar ymylon ffyrdd cyhoeddus ar gyfer diben nawdd. Byddai hyn yn ffordd ddiogel, ddibynadwy a lleol i hysbysebu eich busnes tra’n dileu’r risgiau, peryglon ac ymrwymiadau yn gysylltiedig gyda gosod posteri’n anghyfreithlon. Caiff pob safle ei baratoi gydag ardal fach o blannu blodau gwyllt i helpu gwella’r lleoliad a helpu peillwyr i ffynnu.

Fel penderfyniad hollol fasnachol, gan roi cyfle i gwmnïau lleol noddi llain ymyl ffordd, byddem yn gobeithio:

Rhoi cyfle gwerthfawr i fusnesau lleol hysbysebu, drwy ganiatáu noddi ymyl ffordd, tra’n gwella bioamrywiaeth mewn ffordd weithgar.

Cynhyrchu incwm blynyddol ystyrlon y gellir ei fuddsoddi mewn gwasanaethau rheng-flaen. Drwy roi’r cyfle yma byddwn yn sicrhau y caiff y gwasanaethau y mae ein holl randdeiliaid yn eu disgwyl eu hamddiffyn ychydig yn fwy.

Mae llawer o safleoedd ar gael ym mhob rhan o Sir Fynwy, er y caiff rhai priffyrdd (e.e. A48 yng Nghas-gwent, A465 Blaenau’r Cymoedd, A40 Trefynwy) a rhai eraill eu cynnal yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ac felly ni fedrwn eu defnyddio. Edrychwch ar y cynllun a’r rhestr sy’n dangos lle mae cyfleoedd ar gael. Mae lleoliadau ar ymyl ffordd yn ne’r Sir ar gael yn awr, a bydd cyfleoedd yng ngogledd y Sir a meysydd parcio Cyngor Sir Fynwy ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Chi fyddai’n dylunio’r arwyddion a ninnau yn eu gosod i ddechrau. Byddwn ni yn cynnal yr ardal a’r arwyddion am gyfnod a gytunir. Caiff contract ei lofnodi a thelir ffi o werth masnachol i Gyngor Sir Fynwy. Mae disgownt o 10% ar gael ar gyfer contractau arwyddion lluosog a chontractau dwy neu dair blynedd. Bydd peirianwyr Cyngor Sir Fynwy yn dewis ac yn asesu pob lleoliad i sicrhau eu bod yn addas, yn cynnwys asesiad risg penodol i’r safle.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael mwy o wybodaeth, neu os hoffech gwrdd a thrafod, defnyddiwch y manylion cyswllt islaw os gwelwch yn dda.

Disgwyliwn y bydd mwy o alw am y cyfleoedd hyn na’r nifer sydd ar gael, felly gofynnir i chi gysylltu â ni fuan os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle.

Cysylltwch â’r Adran Priffyrdd drwy ffonio:  01633 644385 ac E-bost: highways@monmouthshire.gov.uk

Lleoliadau hysbysebu ar ymyl ffyrdd

Cytundeb trwyddedu noddi ymyl ffyrdd

Prisiau noddi lleiniau ymyl ffyrdd

Enghraifft o arwydd