Skip to Main Content

Mae cynhyrchu  polisi cyflogau yn cefnogi ein gwerthoedd o fod yn agored a theg. Nod y polisi yw sicrhau y caiff yr holl staff eu gwobrwyo’n deg a heb wahaniaethu am y gwaith a wnânt. Bydd yn adlewyrchu tegwch a chyfle cyfartal, yr angen i annog a galluogi staff i berfformio hyd eithaf eu gallu a’r dymuniad i weithredu strwythur cyflog a graddio tryloyw.

Adroddiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau

Diben adroddiadau Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yw sicrhau mwy o gydraddoldeb rhwng y rhywiau ar draws y Deyrnas Unedig a chynyddu tryloywder tâl.

Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn weithredol i gyflogwyr yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Mae’r Rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol i bob cyflogwr sy’n cyflogi 250 neu fwy o weithwyr i roi adroddiad blynyddol ar eu Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau ar y dyddiad “ciplun”, gan ei gyhoeddi ar wefan y Llywodraeth yn ogystal â gwefan y sefydliad. Y dyddiad “ciplun” ar gyfer y sector yw 31 Mawrth bob blwyddyn.