Mae cynhyrchu polisi cyflogau yn cefnogi ein gwerthoedd o fod yn agored a theg. Nod y polisi yw sicrhau y caiff yr holl staff eu gwobrwyo’n deg a heb wahaniaethu am y gwaith a wnânt. Bydd yn adlewyrchu tegwch a chyfle cyfartal, yr angen i annog a galluogi staff i berfformio hyd eithaf eu gallu a’r dymuniad i weithredu strwythur cyflog a graddio tryloyw.
Adroddiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau
Diben adroddiadau Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yw sicrhau mwy o gydraddoldeb rhwng y rhywiau ar draws y Deyrnas Unedig a chynyddu tryloywder tâl.
Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn weithredol i gyflogwyr yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
Mae’r Rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol i bob cyflogwr sy’n cyflogi 250 neu fwy o weithwyr i roi adroddiad blynyddol ar eu Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau ar y dyddiad “ciplun”, gan ei gyhoeddi ar wefan y Llywodraeth yn ogystal â gwefan y sefydliad. Y dyddiad “ciplun” ar gyfer y sector yw 31 Mawrth bob blwyddyn.
Adroddiad ar Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol
Mae partneriaeth gymdeithasol yn ddull cydweithredol, wedi’i gynllunio i fynd ar drywydd enillion cydfuddiannol yng nghyd-destun datblygu a gweithredu polisïau, neu newid gweithredol. Mae’n gweithio ar yr egwyddor sylfaenol y gall cyflogwyr a gweithwyr gyflawni mwy, yn bennaf trwy eu hundebau llafur, trwy gydweithio mewn ysbryd o gydweithrediad a chydlafurio, i fynd i’r afael â materion economaidd, cymdeithasol a materion eraill yn y gweithle. Ers datganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu partneriaeth gymdeithasol fel dull posibl o fynd i’r afael â heriau yng Nghymru.
Mae’r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol yn berthnasol i’r wyth ar ddeugain o gyrff cyhoeddus a restrir yn adran 6(1) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, y mae Cyngor Sir Fynwy yn un ohonynt. Felly, mae’n ofynnol i Gyngor Sir Fynwy gydymffurfio â phedwar gofyniad statudol, gan gynnwys cyhoeddi adroddiad blynyddol yn manylu ar gydymffurfiaeth â’r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol. Bydd hyn yn integreiddio egwyddorion partneriaeth gymdeithasol i’n gweithgareddau ac yn sicrhau bod undebau llafur yn cael eu cynnwys yn weithredol yn y broses gwneud penderfyniadau, yn enwedig mewn meysydd sy’n effeithio ar y gweithlu.