Croeso!
Rydym yn gymuned ysgol gynnes a chyfeillgar sy’n seiliedig ar werthoedd a gyda drws sy’n agored i bob teulu yn ein hardal leol ac yn ehangach. Rydym yn falch iawn o’n dysgu ac addysgu ansawdd uchel, a gaiff ei ddathlu yn Adroddiad Arolwg Estyn 2024, ond yn bwysicaf oll, rydym yn meithrin plant hyderus a hapus, gan fod llesiant wrth ganol popeth a wnawn.
Fel ysgol Eglwys yng Nghymru, rydym yn dathlu’r ffydd Gristnogol, ynghyd ag ystod eang o ffydd a thraddodiadau gwahanol, gan alluogi ein disgyblion i ddatblygu i fod yn bobl ifanc goddefgar, cynhwysol a meddylgar.
Cyflwyniad
Caiff ceisiadau eu cyflwyno i’r Awdurdod Lleol, fodd bynnag, fel ysgol wirfoddol a gynorthwyir, y Corff Llywodraethu sy’n gyfrifol am y trefniadau derbyn yn ARW. Mae hyn yn golygu y caiff y ceisiadau hyn eu hanfon gan yr Awdurdod Lleol i Is-bwyllgor Derbyn Corff Llywodraethu yr ysgol, fydd wedyn yn adolygu pob cais. Os oes mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael, bydd y Pwyllgor Derbyn yn defnyddio’r Polisi Derbyn i ddyrannu lleoedd yn unol â pholisi. Caiff mwy o wybodaeth ei hamlinellu isod.
Rydym yn argymell lle bynnag sy’n bosibl ac os yw’n briodol i chi fel teulu, eich bod yn cynnwys geirda ffydd gyda’ch cais.
Bydd yr ysgol yn derbyn plentyn ar ddechrau’r flwyddyn academaidd y bydd yn 5 mlwydd oed. Mae’r gofynion cyfreithiol yn cadarnhau y gall rhieni oedi derbyn eu plentyn tan y tymor yn dilyn eu 5ed pen-blwydd; fodd bynnag, mae’r ysgol yn dilyn polisi’r Awdurdod Lleol y bydd y plentyn yn parhau i ddilyn ei grŵp blwyddyn gronolegol os nad oes amgylchiadau eithriadol.
Mae’r Cod Derbyn i Ysgolion (2013) yn rhoi’r hawl i rieni fynegi dewis i’w plentyn gael eu derbyn i unrhyw ysgol a gynhelir gyda chronfeydd cyhoeddus. Mae polisi derbyn yr Ysgol yn dod o fewn paramedrau’r Cod Ymarfer Derbyn i Ysgolion a Chod Ymarfer Apeliadau Derbyn i Ysgolion Gorffennaf 2013.
Mae’r polisi yn ei le i gynnwys y dilynol:
i) Ceisiadau cylch derbyn
Y broses gais i’w dilyn gan blant sy’n gymwys i gychwyn mewn ysgol gynradd
ii) Trosglwyddo o fewn y flwyddyn rhwng ysgolion
Y broses gais i gael ei dilyn ar gyfer plant sydd eisoes o oedran ysgol ond sy’n dymuno trosglwyddo o un ysgol i un arall.
Nifer derbyn
Mae’r nifer derbyn ar gyfer yr ysgol yn deillio o gapasitii ffisegol yr ysgol agaiff ei gyfrif yn unol â dogfen Llywodraeth Cymru ‘Mesur Capasiti Ysgolion yng Nghymru’. Y nifer derbyn 30 yw’r nifer uchaf o blant y gellir ei derbyn i grŵp oedran perthnasol e.e. dosbarth derbyn, os derbynnir nifer ddigonol o geisiadau.
Mynegi Dewis
Ni ellir gwrthod lle i ddisgyblion nes y cyrhaeddwyd 30 o ran nifer. Yn unol â chod ymarfer Derbyn i Ysgolion 2013, mae’n rhaid i rieni lenwi ffurflen gais er mwyn cael lle ysgol. Mae’n rhaid i bob ymgeisydd lenwi “Ffurflen Gais Gyffredin” gan yr Awdurdod Lleol, gyda thystlythyr ffydd, os oes un, i gefnogi os oes un.
Mae’r ysgol yn gweithredu cynllun dewis cyfartal, sy’n golygu y caiff pob dewis eu hystyried yn gyfartal yn unol â meini prawf yr ysgol ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd, ac nid ar sail y drefn y cânt eu rhestru ar y cais. Pe byddai modd cyflawni mwy nag un dewis, cynigir y dewis safle uchaf a nodir ar y ffurflen gais.
Amserlen
Mae’r ysgol yn gweithio’n agos gyda’r awdurdod lleol i gydlynu dyddiadau cau ar gyfer derbyn ceisiadau ac anfon llythyrau cynnig ar draws ardal yr Awdurdod Lleol. Y dyddiau a gytunwyd ar gyfer Cylch Derbyn 2026/2027 yw:
| Derbyn Y Cais: | Dyddiad Y Cynnig |
| 16 – 31 Ionawr 2027 | 1 Mai 2027 |
| Chwefror 2027 | 3 Mai 2027 |
| Mawrth 2027 | 14 Mai 2027 |
| Ebrill 2027 | 21 Mai 2027 |
| Mai 2027 | 11 Mehefin 2027 |
| Mehefin 2027 | 9 Gorff 2027 |
| 1 – 10 Gorff 2027 | 16 Gorff 2027 |
| 11 – 17 Gorff 2027 | 23 Gorff 2027 |
| 18 – 24 Gorff 2027 | 30 Gorff 2027 |
| 25 – 31 Gorff 2027 | 6 Awst 2027 |
| 1 – 7 Awst 2027 | 13 Awst 2027 |
| 8- 14 Awst 2027 | 20 Awst 2027 |
| 15 – 21 Awst 2027 | 27 Awst 2027 |
| 22 – 28 Awst 2027 | o fewn wythnos |
Dosbarthu ffurflenni cais
Mae ffurflenni cais ar gael gan o’r Porth Dinasyddion ar monmouthshire.gov.uk. DALIER SYLW: I Gyngor Sir Fynwy ac NID yr ysgol y dylid dychwelyd pob ffurflen gais.
Lle mae nifer y ceisiadau a dderbynnir yn llai neu’n gyfartal â nifer y lleoedd sydd ar gael, caiff pob plentyn ei dderbyn a thybio y gall yr ysgol gyflawni anghenion yr holl ymgeiswyr. Fodd bynnag, lle mae mwy ogeisiadau nag o leoedd yn yr ysgol, eir yn uwch na’r nifer derbyn a chaiff y meini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael eu defnyddio i ddethol pa blant gaiff gynnig lleoedd yn yr ysgol dan sylw. Os nodir Ysgol Gynradd (CG) Eglwys yng Nghymru yr Archesgob Rowan Williams ar Ddatganiad o, mae’n rhaid i’r ysgol dderbyn y plentyn dan sylw.
Dyrannu lleoedd ysgol
Wrth weithredu’r meini prawf pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael i benderfynu i pwy y dyfernir lle, rhoddir ystyriaeth gyfartal i holl ddewisiadau rhieni a chânt eu dyrannu yn unol â’r meini prawf islaw. Wrth ystyried y lleoedd eraill sydd ar gael, defnyddir y meini prawf dilynol i benderfynu pa blant y cynigir lleoedd iddynt:
1. Bydd plant sy’n derbyn gofal neu a dderbyniodd ofal yn flaenorol h.y. plant mewn gofal neu a fu’n flaenorol yng ngofal yr Awdurdod Lleol, yn cael blaenoriaeth dros y rhai sy’n cyflawni pwyntiau 3-7 islaw.
2. Plant sydd â sibling a dderbyniwyd dan bwynt 1 sy’n ddisgybl yn yr ysgol adeg gwneud cais ac a fydd yn ddisgybl yn yr ysgol adeg derbyn
3. Plant a gafodd eu bedyddio ac y mae eu rhieni yn addoli’n gyson/arferol mewn eglwys Anglicanaidd ac sy’n byw o fewn buddiolaeth Cil-y-coed.
4. Plant gyda chyfeiriad cartref yn nalgylch yr ysgol h.y. Leechpool, Porthysgewin a Sudbrook. Mae map o’r dalgylch ar gael gan swyddfa’r ysgol.
5. Plant sydd â brawd neu chwaer sy’n ddisgybl yn yr ysgol adeg gwneud y cais ac a fydd yn ddisgybl yn yr ysgol amser derbyn.
6. Plant y mae eu rhieni yn addoli’n gyson/arferol mewn eglwys o enwad Cristnogol.
7. Plant gydag anghenion meddygol eithriadol, a gefnogir gan dystiolaeth ysgrifenedig a roddir fel arfer gan swyddog meddygol annibynnol neu berson priodol arall (gweler Nodyn 1 ar gyfer diffiniad).
Nodiadau: Plentyn sy’n derbyn gofal yw plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru neu yn Lloegr yn unol ag Adran 22 Deddf Plant 1989 ac y mae’r Awdurdod Lleol wedi cadarnhau fydd yn derbyn gofal adeg derbyn y plentyn i’r ysgol. Rhiant yw unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sy’n warcheidwad cyfreithiol y plentyn.
Diffinnir addoliad cyson/arferol fel mynychu addoliad ar o leiaf un dydd Sul bob mis dros y 12 mis blaenorol. Mae’n rhaid i dystiolaeth o hyn gael ei roi gan ddatganiad ysgrifenedig a lofnodwyd gan yr offeiriad neu’r gweinidog perthnasol.
Bydd yr ysgol yn ystyried mai cyfeiriad cartref y plentyn yw’r man lle mae’r plentyn yn byw am fwyafrif yr wythnos ysgol. Os caiff preswyliaeth plentyn ei rannu rhwng dau riant, defnyddir y cyfeiriad lle mae’r plentyn dan sylw yn byw am fwyafrif yr wythnos ysgol ar gyfer dibenion dyrannu. Dyma’r cyfeiriad y dylid ei ddatgan ar y cais. Fodd bynnag, os yw’r breswyliaeth yn gyfartal rhwng y ddau riant yn ystod yr wythnos ysgol, caiff y cyfeiriad lle telir y budd-dal plant ar gyfer dibenion dyrannu. Mae’r ysgol yn cadw’r hawl i wirio dilysrwydd unrhyw gyfeiriad a roddir drwy ofyn am dystiolaeth
megis cynhwysiant ar y gofrestr etholiadol neu fil cyfleustodau diweddar yn cadarnhau eich enw a’ch cyfeiriad. Lle nad yw cyfeiriad parhaol plentyn yr un fath â’r rhieni (e.e. os yw’n byw gyda mam-gu neu dad-cu), mae’r ysgol yn cadw’r hawl i weld dogfennau swyddogol, megis llyfr budd-dal plant neu gerdyn meddygol.
Nid yw trefniadau gofal plant yn ddigon o reswm dros restru cyfeiriad arall. Os ydych yn symud i’r dalgylch, byddwn yn gofyn i chi am dystiolaeth eich bod yn symud cyn ystyried unrhyw gais am le. Fel arfermae’r dystiolaeth yn llythyr gan eich cyfreithiwr yn cadarnhau fod gennych gytundeb sy’n rhwymo’n gyfreithiol i brynu’r tŷ neu gytundeb les ffurfiol.
Mae sibling yn cyfeirio at frawd neu chwaer, hanner brawd neu chwaer, brawd neu chwaer fabwysiedig, llys frawd neu chwaer, plentyn maeth, neu blentyn partner rhiant/gofalwr lle mae’r plentyn y ceisir y lle ysgol iddo/iddi.
Bydd yr ysgol yn defnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) yr Awdurdod Lleol i gyfrif pellter o’r cartref i’r ysgol. Caiff y llwybr cerdded diogel byrraf ei gyfrif yn defnyddio llwybrau swyddogol sy’n hysbys i’r Awdurdod Lleol ac asiantaethau priffyrdd o brif fynedfa cyfeiriad cartref yr ymgeisydd i glwyd swyddogol agosaf sydd ar agor yn yr ysgol. Caiff manylion cyfeiriad ymgeisydd eu penderfynu yn defnyddio’r Local Land and Property Gazetteer (LLPG) a data Pwynt Cyfeiriad yr Arolwg Ordnans.
Lle na fedrir penderfynu llwybr cerdded diogel ar gyfer ymgeisydd, defnyddir y llwybr gyrru byrraf ar gyfer dibenion dyrannu.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr sy’n dymuno i’w cais gael blaenoriaeth ar anghenion meddygol y plentyn gael eu cefnogi gan adroddiad ymgynghorydd meddygol (a geir gan y rhieni adeg gwneud cais) yn amlinellu pam mai’r dewis ysgol yw’r unig opsiwn hyfyw a’r anawsterau a achosid pe bai’n rhaid i’r plentyn fynd i ysgol arall.
Dilysu Cyfeiriad
Os oes angen gweithredu’r meini prawf pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael, bydd yn ofynnol i’r rhieni gyflwyno tystiolaeth addas i ddilysu eu cyfeiriad megis bil treth gyngor.
Rhieni sydd yn y broses o symud tŷ
Bydd angen i rieni sydd yn y broses o symud tŷ hysbysu’r ysgol adeg
gwneud cais am y symud arfaethedig a chyflwyno tystiolaeth i ddilysu eu cyfeiriad newydd er mwyn i’r cyfeiriad yma gael ei ystyried. Tystiolaeth addas fyddai copi o’r cyfnewid contractau (ar gyfer prynu eiddo) neu gytundeb tenantiaeth hirdymor (ar gyfer trefniadau rhentu) sy’n rhaid eu derbyn cyn y dyddiad cau a gyhoeddwyd er mwyn cael eu hystyried fel cais “mewn pryd”. Lle mae’r ysgol yn derbyn tystiolaeth i ddilysu symud tŷ ac yn defnyddio’r cyfeiriad newydd ar gyfer dibenion dyrnanu, bydd y cynnig o le ysgol yn seiliedig ar i’r ymgeisydd fod yn breswyl yn yr eiddo hwn pan fydd y plentyn yn mynd i’r ysgol am y tro cyntaf. Gallai unrhyw gynnig o le ysgol gael ei ddileu os canfyddir nad yw’r ymgeisydd yn breswyl yn yr eiddo adeg pan fydd y plentyn yn mynd i’r ysgol am y tro cyntaf.
Bydd y cynnig o le ysgol yn seiliedig ar i’r ymgeisydd fod yn breswyl yn y cyfeiriad a ddatganwyd ar y ffurflen gais, fel ar y dyddiad cynnig a gyhoeddwyd. Fodd bynnag, os yw’r rhiant/gofalwr yn gwybod cyn y dyddiad cynnig a gyhoeddwyd y byddant yn symud o’r cyfeiriad a ddatganwyd ar y cais, mae’n rhaid iddynt hysbysu’r Awdurdod Lleol cyn ydyddiad cynnig a gyhoeddwyd, lle caiff eu manylion cais wedyn eu diwygio. Bydd hysbysiad newid cyfeiriad a dderbyniwyd ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddwyd yn arwain at i’r cais gael ei bennu fel un hwyr, os yw’n debygol o effeithio ar eu sefyllfa o fewn eu meini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael ar gyfer y dewis ysgol.
Gallai unrhyw gynnig o le ysgol gael ei ddiddymu fel canlyniad i ddiffyg cydymffurfiaeth gyda’r uchod.
Dalgylchoedd ysgolion
Er bod byw o fewn dalgylch ysgol yn ffurfio’r ysgol yn ffurfio elfen o’r meini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd, nid yw’n gwarantu lleoliad ar y sail yma. Bydd yr ysgol yn gwrthod mwy na nifer derbyn yr ysgol, os nad yw’r cais yn cydymffurfio gyda’r eithriadau a ganiateir.
Derbyn plant genedigaeth luosog(e.e. gefeilliaid neu dripledi)
Wrth weithredu’r meini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd, bod y plentyn ysgol i’w dderbyn yn un o enedigaeth luosog yna bydd yr Awdurdod Lleol yn derbyn y sibling(iaid) eraill.
Derbyn tu allan i’r cylch arferol
Dylid gwneud pob cais ar gyfer unrhyw amser heblaw’r amser derbyn arferol i’r dosbarth Derbyn ar ffurflen gais Cyngor Sir Fynwy. Caiff y ffurflen hon wedyn ei hanfon i bwyllgor derbyn yr ysgol am benderfyniad ynghylch cynnig lle. Cynigir lleoedd yn amodol ar i leoedd fod ar gael yn y dosbarth perthnasol.
Trefniadau ar gyfer ceisiadau hwyr
Caiff unrhyw gais a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddwyd, neu geisiadau sy’n parhau’n anghyflawn (e.e. heb dystiolaeth i ddilysu cyfeiriad newydd) ar y dyddiad cau ond a dderbynnir cyn y dyddiad cau, eu trin dan y trefniadau ar gyfer ceisiadau hwyr.
Hysbysu rhieni
Caiff rhieni eu hysbysu am benderfyniad ar eu cais ar y dyddiad cynnig a gyhoeddwyd. Ar gyfer cylch derbyn 2027/2028, y dyddiad y caiff rhieni eu hysbysebu am benderfyniadau ar eu ceisiadau fydd 16 Ebrill 2027.
Derbyn lle ysgol
Pan dderbynnir cynnig o le ysgol, mae angen i rieni gadarnhau eu bod yn derbyn y lle ysgol drwy ysgrifennu o fewn 14 diwrnod o’r hysbysiad o gynnig y lle ysgol. Gallai methiant i wneud hynny olygu y caiff y cynnig o le ysgol ei ddiddymu.
Trosglwyddiadau o fewn y flwyddyn (derbyniadau tu allan i’r cylch derbyn arferol)
Caiff yr holl drosglwyddiadau yn ystod y flwyddyn eu trin yn nhrefn y dyddiad y cânt eu derbyn a lle derbynnir mwy o geisiadau ar yr un dydd na’r nifer o leoedd sydd ar gael, caiff meini prawf yr ysgol ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael eu gweithredu i benderfynu pa blentyn/plant a gaiff gynnig lleoedd.
Fel rhan o’r broses, bydd yr ysgol yn cysylltu ag ysgol bresennol y plentyn i gael gwybodaeth i’w rhannu gyda’r ysgol sy’n derbyn. Mae hyn er mwyn sicrhau ein bod mewn sefyllfa i gefnogi trosglwyddo priodol rhwng ysgolion. Os derbynnir cais ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal, yn unol â’r protocol a gytunwyd gydag ysgolion, trefnir cyfarfod plentyn sy’n derbyn gofal a gwahoddir pob parti sydd â diddordeb. Cyn y cyfarfod hwn mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol i rannu gwybodaeth berthnasol yn cynnwys y cynllun addysg personol, cofnodion ysgol a datganiad o anghenion addysgol, os oes gan y plentyn un.
Gwrthod derbyniad
Caiff gwrthod derbyn am le ysgol ei wneud yn unol gyda Chod Ymarfer Derbyniadau Ysgolion 2013 a bydd yn seiliedig ar y penderfyniadau dilynol:
- Byddai p’un ai i dderbyn plentyn yn amharu ar ddarparu addysg effeithiol neu ddefnydd effeithiol adnoddau
- Lle mae rhif derbyn wedi cyflawni rheoliadau Llywodraeth Cymru ar faint dosbarthiadau
- Yn dilyn gwrthod lle ysgol, caiff manylion y plentyn eu cadw ar restr aros hyd 31 Awst y flwyddyn academaidd y maent yn gwneud cais amdani. Os cyflwynir unrhyw leoedd yn ôl yn ystod y cyfnod hwn, caiff lleoedd eu dyrannu o’r rhestr aros yn unol â’r meini prawf pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd.
Rhestri aros
Caiff rhestri aros eu rhoi mewn trefn blaenoriaeth yn ôl y meini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd a dim eu seilio ar ddyddiad cyflwyno cais. Mae’r ymgeisydd yn gyfrifol am hysbysu’r ysgol am unrhyw newid mewn amgylchiadau sy’n effeithio ar y meini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ac felly le’r plentyn ar y rhestr aros. Byddai newid cyfeiriad yn enghraifft o hyn.
Bydd yr ysgol yn cysylltu â’r rhiant dan sylw o fewn 7 diwrnod gwaith o’r lle yn dod ar gael, os yw eu plentyn yn cymhwyso i’w ystyried ar gyfer y lle. Caiff y rhiant 7 diwrnod i dderbyn neu wrthod yn ffurfiol y cynnig o’r lle ysgol mewn ysgrifen. Ar ôl y cyfnod hwnnw, caiff enw’r plentyn ei dynnu o’r rhestr aros a chynigir y lle i’r plentyn nesaf ar y rhestr aros, gan y bydd yr ysgol yn tybio nad oes angen y lle mwyach.
Apelio
Gall rhieni plant na chynigir lle iddynt apelio i banel apêl annibynnol. Mae manylion y drefn ar gyfer apelio ar gael gan yr ysgol ac fe’u rhoddir i rieni pan wrthodir lle ar gyfer eu plentyn.
Cynllun ar faint dosbarthiadau babanod
Mae Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i sicrhau na fydd unrhyw blentyn yn y Cyfnod Sylfaen mewn dosbarth lle mae’r gymhareb disgybl athro yn fwy na 1:30. Roedd y cynllun maint dosbarth babanod yn rhaglen a gyflwynwyd mewn camau rhwng mis Medi 1999 a mis Medi 2001 gan felly sicrhau y caiff pob plentyn hyd at 7 oed eu haddysgu mewn dosbarthiadau heb fod yn cynnwys mwy na 30 disgybl.
Cododd y ddau brif newid o ddeddfwriaeth ar feintiau dosbarth. Yn gyntaf, ni fydd yn ofynnol i awdurdodau derbyn dderbyn plentyn i ddosbarth babanod os byddai gwneud hynny’n arwain at i ddosbarth weithredu ar gymhareb o fwy na 30:1 disgybl/athro. Gall awdurdod derbyn wrthod derbyn plentyn i ysgol lle byddai gwneud hynny’n golygu y byddai angen i’r ysgol gymryd ‘mesurau cymhwyso’ (h.y. cyflogi athro ychwanegol, adeiladu ystafell ddosbarth ychwanegol ) i gyflawni’r terfyn statudol ar faint dosbarth.
Yn ail, wrth ddelio gyda’r apeliadau derbyn dan ddeddfwriaeth meintiau dosbarth, nid yw Panelau Apêl yn dilyn y broses dau gam fel yr amlinellir uchod. Yn lle hynny, dim ond os oedd y penderfyniad i beidio derbyn y plentyn oherwydd i’r trefniadau derbyn gael eu gweithredu’n anghywir neu nad oedd yr awdurdod derbyn yn un y byddai awdurdod derbyn rhesymolyn ei wneud yn yr achos neilltuol hwnnw y byddai Panel Apêl yn medru cynnal apêl rhiant.
Terfynau ar feintiau dosbarth Cyfnod Allweddol 2
Er nad oes unrhyw reoliadau i gyfyngu meintiau dosbarth i 30 yng Nghyfnod Allweddol 2, mae’r ysgol yn cefnogi’r Awdurdod Lleol yn ei ymrwymiad i gydymffurfio gyda tharged Llywodraeth Cymru i sicrhau y cedwir y gymhareb 1:30 athro/disgybl yng Nghyfnod Allweddol 2.
Eithriadau i’r cynllun maint dosbarthiadau babanod
Y mae fodd bynnag eithriadau (a elwir yn “ddisgyblion eithredig”) a all ganiatáu derbyn mwy na’r terfyn o 30 disgybl fesul dosbarth. Disgyblion eithriedig yw:
i. Plant y mae eu datganiadau AAA yn nodi y dylent gael eu haddysgu yn yr ysgol dan sylw neu a gaiff eu derbyn i’r ysgol tu allan i gylch derbyn arferol;
ii. Plant sy’n derbyn gofal neu blant oedd yn flaenorol yn derbyn gofal a gaiff eu derbyn tu allan i’r cylch derbyn arferol;
iii. Plant y gwrthodir eu derbyn i’r ysgol i ddechrau, ond a gaiff wedyn gynnig lle tu allan i’r cylch derbyn arferol oherwydd cyfarwyddyd panel apêl derbyn neu oherwydd i’r person a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol gydnabod y gwnaed camgymeriad wrth weithredu trefniadau derbyn yr ysgol;
iv. Plant na all gael lle mewn unrhyw ysgol addas arall o fewn pellter rhesymol i’w cartref oherwydd eu bod wedi symud i’r ardal tu allan i gylch derbyn arferol;
v. Plant y mae eu rhieni yn dymuno iddynt gael addysg Gymraeg lle mae’r ysgol dan sylw yw’r unig ysgol o’i bath o fewn pellter rhesymol o’u cartref;
vi. Plant y mae eu rhieni yn dymuno iddynt gael addysg mewn ysgol gyda chymeriad crefyddol dynodedig lle mai’r ysgol dan sylw yw’r unig ysgol o’i bath o fewn pellter rhesymol o’u cartref.
vii. Disgyblion a dderbynnir i’r ysgol o fewn grŵp oedran lle caiff plant eu derbyn fel arfer a
• chael eu derbyn ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn ysgol berthnasol; a
• lle nad yw’r ysgol hyd yma wedi cyrraedd ei rhif derbyn ond eisoes wedi trefnu ei dosbarthiadau; a
• lle byddai derbyn y plentyn yn golygu y byddai’n rhaid i’r ysgol gymryd mesur perthnasol;
viii. Plant personél lluoedd arfog a gaiff eu derbyn tu allan i’r cylch derbyn arferol;
ix. Plant y caiff eu gefaill neu sibling o enedigaeth luosog eu derbyn fel disgyblion heb eu heithrio, fel y disgybl(ion) terfynol y dyrennir lle iddynt cyn cyrraedd y rhif derbyn.
x. Plant sydd wedi cofrestru’n ddisgyblion mewn ysgolion arbennig, ond sy’n derbyn rhan o’u haddysg mewn ysgol brif ffrwd; a
xi. Phlant gyda ADY a gaiff eu haddysg fel arfer mewn uned arbennig mewn ysgol brif ffrwd ond sy’n derbyn peth o’u gwersi mewn dosbarth heb fod yn arbennig.
Bydd disgyblion a eithrir yn parhau felly, unwaith y’u derbyniwyd, am weddill eu cyfnod yn y dosbarth babanod nes bod nifer yn y dosbarth yn gostwng ac y gellir eu trefnu i gydymffurfio gyda therfyn maint dosbarth babanod. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â’r ysgol os gwelwch yn dda. Mae’r manylion cyswllt fel sy’n dilyn:
Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru (CG) Archesgob Rowan Williams, Heol Crick, Porthysegewin, Sir Fynwy, NP26 5UL
01291 420526
ARW.primary@monmouthshireschools.wales
X: @ARWPrimary