
Peiriannydd Dylunio Mecanyddol
Mae cyfle cyffrous i weithio o fewn y Tîm Gwasanaethau Landlordiaid fel Peiriannydd Dylunio Mecanyddol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn atebol i’r Rheolwr Dylunio ac yn gweithio gyda’r tîm presennol sydd yn darparu gwasanaethau dylunio peirianneg mecanyddol, yn rhoi cyngor ar osod teclynnau newydd, atgyweiriadau ac addasiadau gan sicrhau darparu gwaith dylunio adeiladau effeithiol, arolygon, atgyweirio a gwelliannau i’r gwasanaeth adeiladau, a hynny ar ran y Cyngor a chwsmeriaid allanol.
Cyfeirnod Swydd: RPC17
Gradd: BAND J £41,496 - £45,495
Oriau: 37 yr wythnos
Lleoliad: Neuadd y Sir, Brynbuga
Dyddiad Cau: 30/03/2023 12:00 pm
Dros dro: Na
Gwiriad DBS: Na – ond bydd angen i chi gael gwiriad manwl gan Heddlu Gwent er mwyn medru derbyn gwybodaeth gan Gangen Arbennig yr heddlu.