Peiriannydd Cynorthwyol (Rheoli Perygl Llifogydd)
Mae cyfle cyffrous i ymuno gyda’r Tîm Priffyrdd a Llifogydd fel Peiriannydd Cynorthwyol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn atebol i’r Peiriannydd Prosiect (Rheolwr Perygl Llifogydd) ac yn ei gynorthwyo i ddarparu cymorth technegol a gweinyddol er mwyn cefnogi’r Tîm Rheoli Perygl Llifogydd a Draenio Tir i ymgymryd â’i swyddogaethau fel Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy a’i ddyletswyddau statudol o dan y Ddeddf Draenio Tir 1991 a’r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
Cyfeirnod Swydd: ROHI28
Gradd: BAND H SCP 27 – SCP31 (£35,745 – £39,186)
Oriau: 37 awr yr wythnos
Lleoliad: Brynbuga
Dyddiad Cau: 30/05/2024 5:00 pm
Dros dro: Na
Gwiriad DBS: Na