Skip to Main Content

Cyngor i’ch busnesau lleol

Daw 2021 â heriau newydd wrth i Brydain ganfod ei thraed tu allan i’r Undeb Ewropeaidd a sicrhau adferiad ar ôl gaeaf heriol iawn a achoswyd gan COVID-19.

I gefnogi busnesau i gynllunio ar gyfer diwedd y pontio ar ddechrau’r flwyddyn nesaf, dylai gweithgareddau a chyngor ganolbwyntio ar bedwar maes allweddol.

Parhad

Fyddwch chi’n medru parhau i weithredu a rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid?

Gwnewch yn siŵr eich bod yn lleihau’r cyfleoedd o unrhyw darfu ar ôl pontio ac ansicrwydd economaidd ehangach.

Gall hyn fod drwy:

  • Cadw’r gweithlu presennol a chynnig buddion heb fod yn ariannol
  • Ar ôl y pandemig, ailwerthuso eich man torri’n wastad yn ariannol a gwybod beth sydd angen ei wneud i barhau’n hyfyw
  • Adolygu lefelau stoc
  • Cysylltu gyda chyflenwyr a chwsmeriaid
  • Adolygu unrhyw fregusrwydd ar hyd y gadwyn gyflenwi

Cydymffurfiaeth

A fydd eich holl waith papur yn gyfredol ?

Bydd y tirlun rheoleiddiol yn newid. Sicrhewch fod eich sefydliad, cynnyrch a gwasanaethau yn cydymffurfio gyda’r rheolau a’r prosesau newydd, yn cynnwys:

  • Gwiriadau a dogfennau tollau.
  • Prosesau TAW newydd ar gyfer allforion ledled y gadwyn gyflenwi
  • Profion cydymffurfiaeth safonau cynnyrch ar gyfer allforion i’r Undeb Ewropeaidd
  • Mesurau diogelu data a GDPR
  • Labelu bwydydd a diodydd ar gyfer allforion o Brydain i’r Undeb Ewropeaidd
  • Yr amgylchedd a chynaliadwyedd

Cost

Allwch chi ostwng costau a rhyddhau arian?

Gyda tharfu sylweddol i ddod yn yr economi, dylai busnesau feddwl nawr am yr effaith barhaus a gaiff hyn a’r camau y gallant eu cymryd i ymateb.

Mae meysydd eraill yn cynnwys:

  • Gostwng gwariant heb fod yn hanfodol
  • Dynodi sut i dorri tua 10% o gostau
  • Tynhau rheoli dyledion – cwrso biliau heb eu talu a cheisio talu unrhyw hen ddyledion
  • Beth wnaethoch chi ddysgu o reoli llif arian drwy gydol y pandemig? A ellir symud ymlaen â hyn i 2021??

Cyfathrebu

Ydych chi wedi siarad gyda phawb sydd angen?

Mae cyfathrebu yn hanfodol, ac yn allweddol i unrhyw gynllun. Gall hyn fod drwy gysylltu gyda chyfrifwyr, buddsoddwyr neu eich banc, cadwyni cyflenwi, gweithwyr neu gwsmeriaid.

Bydd hyn yn helpu i leihau unrhyw darfu ac adeiladu nerth eich busnes mewn cyfnod o newidiadau gwleidyddol ac economaidd.

Defnyddiwch y newid ddaeth yn sgil COVID-19 a’r darogan am heriau gwahanol wrth i ni agosáu at 2021 fel cyfle i ymestyn allan, dynodi unrhyw broblemau posibl a llunio datrysiadau ymlaen llaw.