Beth yw Panel Dinasyddion Gwent?
Mae’r Panel Dinasyddion yn grŵp o bobl sy’n byw yng Ngwent a gofynnir iddynt yn rheolaidd i roi eu barn a chymryd rhan mewn ymgynghoriadau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i helpu i lunio gwasanaethau lleol a dweud eich dweud am benderfyniadau a materion pwysig yn y gymuned leol. Nid yw’n faich o gwbl ac rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn cyfarfodydd bob deufis ac ymgysylltu ar-lein drwy gymryd rhan mewn arolygon neu’n rhannu adborth ar adroddiadau ac asesiadau. Gallwch ddewis pa weithgareddau yr hoffech gymryd rhan ynddynt.
Mae aelodau’r Panel Dinasyddion hefyd yn derbyn cylchlythyrau yn rheolaidd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt.
Gwneud Gwahaniaeth
Mae deall barn trigolion yn golygu ein bod yn gallu targedu adnoddau’n well a datblygu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion pobl leol. Pwrpas y panel yw darganfod beth yw barn trigolion am faterion a gwasanaethau lleol.
Mae hyn yn ein helpu i wneud y pethau cywir ac yn llywio’r prosesau polisi sy’n gwneud penderfyniadau. Bydd adborth gan y panel yn cael ei adrodd i Gynghorwyr ac uwch reolwyr, i’w helpu i wneud penderfyniadau mwy gwybodus i wella bywydau pobl yn y fwrdeistref.
Ffyrdd Eraill o Rannu Eich Barn
Mae’r Panel Dinasyddion yn un ffordd a ddefnyddiwn i ddeall barn trigolion ledled Gwent yn well. Byddwn yn parhau i wrando ar farn pobl mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys ymgynghori ar-lein, arolygon papur a thrwy alluogi cyfranogiad y cyhoedd mewn cyfarfodydd a thrwy Gynghorwyr lleol..
Cadw Gwybodaeth Bersonol yn Ddiogel
Os hoffech wybod mwy am sut rydym yn defnyddio ac yn storio’r wybodaeth a roddwch i ni, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein polisi preifatrwydd.
Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol ac ni chaiff unrhyw wybodaeth ei rhyddhau a allai ddatgelu pwy yw’r unigolyn, sefydliad neu aelwyd pan fyddwn yn adrodd ar ganfyddiadau gweithgareddau ymgysylltu.
Hoffech chi ymuno â ni?
I ddod yn aelod o’r panel, rhaid i chi fod yn breswylydd yng Ngwent, a bod yn 16 oed neu’n hŷn. Os hoffech ymuno, cysylltwch â ni ar citizenpanel@torfaen.gov.uk neu 01495 761691.
Os ydych yn aelod presennol o banel dinasyddion a bod unrhyw rai o’ch manylion cyswllt wedi newid, rhowch wybod i ni drwy e-bost.