Skip to Main Content

Diogelu Data

Bydd y wybodaeth y mae’r Cyngor yn ei chadw mewn perthynas â’r Dreth Gyngor yn cael ei thrin yn gyfrinachol ac yn cael ei phrosesu fel y caniateir yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) o 25 Mai 2018.  Gellir rhannu gwybodaeth â gwasanaethau eraill y Cyngor i atal a chanfod twyll ac i gydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol.  Mae’r awdurdod hwn o dan ddyletswydd i ddiogelu’r arian cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac i’r perwyl hwn, gall ddefnyddio’r wybodaeth rydych chi wedi’i rhannu at y dibenion hyn.  Gall hefyd rannu’r wybodaeth hon â chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio arian cyhoeddus neu ei weinyddu at y dibenion hyn.

Bandiau prisio’r Dreth Gyngor

Codir Treth Gyngor ar y rhan fwyaf o eiddo. Mae pob eiddo yn syrthio o fewn un o naw band yn ôl ei werth ar 1 Ebrill 2003.

Band prisioAmrediad gwerthoeddBand prisioAmrediad gwerthoedd
AHyd at ac yn cynnwys £44,000E£123,001 – £162,000
B£44,001 – £65,000F£162,001 – £223,000
C£65,001 – £91,000G£223,001 – £324,000
D£91,001 – £123,000H£324,001 – £424,000
  I£424,001 ac uwch

Mae eich bil Treth Gyngor yn dangos band eich eiddo

Eiddo sy’n cael eu heithrio

Ni chodir y dreth gyngor ar eiddo penodol (a elwir yn eiddo sydd wedi ei eithrio). Mae eiddo sydd wedi’i eithrio yn cynnwys eiddo sy’n gartrefi i fyfyrwyr, pobl dan 18 oed, pobl sy’n gadael gofal, y rhai sydd ag amhariad gwybyddol sylweddol, rhandai sy’n gartref i berthnasau dibynnol ac eiddo a oedd yn gartref i bobl sydd bellach yn y carchar, yr ysbyty neu mewn cartref nyrsio neu ofal preswyl.

Mae’r eiddo gwag canlynol hefyd wedi’u heithrio.

  • gall eiddo sy’n wag ac heb ddodrefn gael ei eithrio am hyd at chwe mis. Gellir ymestyn y cyfnod hwn i uchafswm o 12 mis os oes angen atgyweirio neu gwneud newidiadau strwythurol sylweddol i’r eiddo gwag cyn y gellir byw ynddo.

Bydd yr eiddo yn cael ei eithrio o’r dyddiad diwethaf y bu rhywun yn byw ynddo, a chyfyngir ar hyn i uchafswm o 12 mis waeth a yw’r perchennog neu’r un sy’n talu’r dreth gyngor yn newid.

O 01/04/2026 mae perchnogion eiddo a brynwyd ar 01/04/2026 neu ar ôl hynny, ac sydd wedi’u cofrestru ar y Gofrestrfa Tir, hefyd yn gymwys i gael yr eithriad hwn.

  • eiddo y mae elusen gofrestredig yn berchen arno (uchafswm o chwe mis).
  • aros am brofeb neu lythyrau gweinyddu (hyd at chwe mis ar ôl profiant). O 01/04/2026 gellir eithrio am gyfnod o hyd at 2 flynedd o ddyddiad marwolaeth yr ymadawedig, neu i’r dyddiad y cyflwynwyd profeb neu lythyrau gweinyddu, pa un bynnag fydd gyntaf; ac am hyd at 12 mis ar ôl hynny.
  • eiddo sydd wedi’i adael yn wag gan rywun sy’n cael ei gadw yn y carchar neu sydd wedi symud i gael gofal mewn ysbyty, cartref gofal preswyl neu rywle arall.
  • eiddo sydd wedi’i adael yn wag gan rywun sydd wedi symud i roi gofal personol i berson arall.
  • eiddo sydd wedi’i adael yn wag os yw’r perchennog yn fyfyriwr.
  • meddiannaeth sy’n cael ei wahardd gan y gyfraith.
  • eiddo wedi’i ailfeddiannu.
  • cyfrifoldeb ymddiriedolwr methdalwr
  • eiddo sy’n aros i gael ei feddiannu gan weinidog crefydd. O 01/04/2026, mae’r eithrio yn berthnasol am gyfnod parhaus o hyd at flwyddyn ers i’r eiddo gael ei adael yn wag
  • lleiniau carafanau neu angorfeydd cychod heb eu meddiannu.
  • rhandy na ellir ei osod ar wahân i’r prif eiddo heb dorri amodau cynllunio.
  • O 01/04/2026 lloches a ddarperir gan awdurdod lleol neu a gomisiynwyd gan awdurdod lleol, sy’n cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf fel llety dros dro ac mewn argyfwng i unigolion sydd wedi bod yn destun unrhyw fath o gamdriniaeth, cam-drin domestig, trais ar sail rhywedd neu drais rhywiol.

Pobl ag anableddau

Os ydych chi (neu aelod o’ch cartref) yn anabl, a bod rhan o’r eiddo, neu’r eiddo i gyd wedi cael ei addasu ar gyfer cadair olwyn, ystafell ychwanegol (heblaw am ystafell ymolchi, cegin neu doiled) neu ail ystafell ymolchi neu gegin ar gyfer y person anabl, efallai y byddwn yn lleihau eich bil. Gallwn ond leihau eich bil i’r band nesaf sydd o dan eich band chi. Os yw eich cartref ym Mand A, bydd y bil yn cael ei leihau un nawfed o’r tâl Band D.

Eiddo gwag ac ail gartrefi

Bydd rhai eiddo gwag yn cael eu heithrio (gweler uchod). Fodd bynnag, o dan Reoliadau Cymru, rydym wedi penderfynu na fydd eiddo sy’n cael eu hystyried yn ail gartrefi neu eiddo gwag yn destun gostyngiad. Cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid os ydych chi’n meddwl bod ein penderfyniad yn anghywir.

Gostyngiadau

Byddwch yn cael gostyngiad o 25% os yw’r unig berson sy’n byw yn yr eiddo yn 18 oed neu’n hŷn. Gall gostyngiadau hefyd fod yn berthnasol i fyfyrwyr, nyrsys dan hyfforddiant, prentisiaid, pobl ifainc 18 ac 19 oed sydd newydd adael yr ysgol, pobl ag amhariad gwybyddol sylweddol, pobl yn y carchar, aelodau o gymunedau crefyddol, pobl sy’n gadael gofal, gofalwyr a phobl sy’n byw mewn cartref gofal preswyl neu’n preswylio mewn ysbyty.

Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Mae’r cynllun yn helpu pobl ar incwm isel i dalu eu bil treth gyngor.  Os ydych chi’n cael budd-daliadau neu os ydych chi’n gweithio ac mae eich incwm yn is na lefel benodol, gallech fod yn gymwys.  Cysylltwch â’r Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0300 456 3559 neu 0800 652 5422 i gael rhagor o wybodaeth am sut i hawlio.

Apeliadau Cyffredinol

Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) sy’n prisio eiddo domestig ar gyfer y dreth gyngor. Efallai y bydd angen i chi gysylltu â’r VOA os ydych chi’n meddwl bod eich band treth gyngor yn anghywir. Gallwch ganfod pryd y gallwch herio’ch band a beth i’w wneud, ar www.gov.uk/challenge-council-tax-band Os ydych chi’n herio’ch band, rhaid i chi barhau i dalu treth gyngor eich band presennol hyd nes penderfynir ar eich apêl.

Gallwch gysylltu â’r VOA yn www.gov.uk/contact-voa  Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, gallwch hefyd gysylltu â’r VOA ar 03000 505 505.

Bydd ein Tîm Refeniw yn rhoi unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, gallwch ffonio’r tîm ar 01633 644630 neu e-bostio: counciltax@monmouthshire.gov.uk

Pwerau yn ôl disgresiwn – O 1 Ebrill 2004, mae gan y Cyngor bwerau yn ôl disgresiwn i ymestyn  ei allu i ddarparu gostyngiad mewn achosion unigol, neu i ddosbarthiadau eiddo a bennir yn lleol.