Skip to Main Content

Chwefror 2022

Y mis hwn arweiniodd Tim Bird, cynghorydd Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, ymweliad o blant a phobl ifanc o ysgolion Brenin Harri a Deri View yn Sir Fynwy i Ysgol Pen Rhos yn Llanelli i edrych ar ddysgu a llesiant mewn amgylchedd dysgu newydd gwych.

Ionawr 2022

Yn 19 Ionawr cytunodd y Cabinet ar gam nesaf y broses yn creu ysgol 3-19 oed yn y Fenni.

Aeth Paul Matthews, Prif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy, ar Twitter i fynegi ei gyffro am y datblygiadau hyn:

Aeth Wil McLean, Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc, ar Twitter hefyd i ddangos pwysigrwydd y prosiect hwn:

Rhagfyr 2022

Gwefan cynllunio yn mynd yn fyw: King Henry VIII Secondary School Site, Old Hereford Road, Abergavenny / Ysgol Uwchradd Brenin‘r Harri VIII, Hen Ffordd Henffordd, Y Fenni (asbriplanning.co.uk)

Gellir lawrlwytho syniadau dylunio o’r wefan cynllunio islaw.

Tachwedd 2021

Ymgynghoriad gyda’r gymuned

Mae Cyngor Sir Fynwy yn angerddol am gael sylwadau gan y gymuned, yn ogystal â rhanddeiliaid yn ehangach.

Yn ystod ein ymgynghoriadau gyda’r gymuned, rydym wedi llwyddo i siarad gyda rhanddeiliaid sydd wedi rhoi eu sylwadau diffuant ar y cynlluniau a nodwyd ar gyfer adeiladu ysgol 3-19 pob oed yn y Fenni.

Dywedodd Will McLean, Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc, pam fod ymgynghori gyda’r gymuned yn ddull pwysig yn y broses:

“Fe wnaethom wrando ar yr hyn a ddywedodd y cyngor a bu modd i ni newid ein cynnig yng ngoleuni hynny”– Will McLean, Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc

Cynhaliwyd arddangosfa’r ymgynghoriad cyhoeddus yn  @YsgolBreninHarri, gydag ymgynghoriad cyhoeddus arall wedi ei drefnu ar gyfer @YsgolDeriView i gynyddu cyrraedd ar adborth. Roedd swyddogion o’r Cyngor ac aelodau o’r Tîm Datblygu yn bresennol i ateb unrhyw ymholiadau y gall unrhyw randdeiliad wedi bod â nhw.

Dewch yn ôl i’r dudalen hon am unrhyw ddiweddariad pellach ar ble a sut y cynhelir yr ymgynghoriad nesaf gyda’r gymuned (efallai y gall ein tudalen Cwestiynau Cyffredin helpu gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych).

Ymgynghoriad gyda myfyrwyr

Fel rhan o COP26, cyfarfu’r Cyngor Eco gyda pheirianwyr i ddysgu sut y caiff ysgol sero carbon ei dylunio, ei hadeiladu a’i gweithredu.

Darren Thomas, Uwch Reolwr Dylunio Morgan Sindall Construction, yn siarad gyda Chynghorau Eco.

Hydref 2021

Ymgynghoriad staff

Ymchwiliodd staff yn Ysgol Brenin Harri VIII ac Ysgol Deri View beth y credent oedd yr ystafell ddosbarth berffaith a sut y teimlent yr oedd eu myfyrwyr yn dysgu orau.

Ymchwiliodd timau’r adran beth oedd yn gwneud dysgu effeithlon yn eu pwnc a sut y gallai gwahanol ofodau, y tu mewn a thu allan i’r ysgol newydd, wneud gwahaniaeth mawr i lesiant a llwyddiannau.

Bu adborth staff yn hollbwysig wrth helpu i lunio amgylcheddau dysgu penodol i adran yn y ffordd sy’n gweddu orau i arddull dysgu eu myfyrwyr.

Medi 2021

Ymgynghoriad Cyngor Ysgol

Yn ystod mis Medi bu myfyrwyr a staff yn brysur yn ymgynghori gyda phenseiri, dylunwyr, peirianwyr ac aelodau o dîm Ysgolion yr 21ain Ganrif Cyngor Sir Fynwy ar gynlluniau ar gyfer ein hysgol 3-19 newydd.

Bu Tim Bird, Cynghorydd Ysgolion 21ain Ganrif, yn ymgynghori gyda Chynghorau Ysgol o Ysgol Brenin Harri  ac Ysgol Deri View. Cynhelir ymweliadau bob tymor i ddiweddaru disgyblion ar ba newidiadau a wnaed fel canlyniad i’w mewnbwn pwysig yn ystod yr ymgynghoriadau hyn.

Tim Bird, Cynghorydd Addysg Ysgolion yr 21ain Ganrif, yn arwain ymgynghoriad myfyrwyr gyda Blwyddyn 7.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar brosiect Ysgolion yr 21ain Ganrif, dilynwch ni ar Twitter.