Skip to Main Content

“Mae Sir Fynwy yn sir brydferth, wedi’i bendithio â chymunedau cryf, rhai o’r asedau naturiol gorau yng Nghymru, ac economi leol gystadleuol.  Mae ein dinasyddion yn dweud wrthym ei fod yn lle gwych i fyw ynddo.  Fodd bynnag, gwyddom hefyd fod cyfoeth cymharol ein sir o’i gymharu â llawer o Gymru – o’i weld drwy lens data cyfanredol – yn cuddio realiti a phrofiad byw ein dinasyddion o ddydd i ddydd sy’n profi tlodi, caledi ariannol ac sy’n gwneud hynny yng nghyd-destun yr anghydraddoldeb ariannol sylweddol sy’n bodoli yn ein sir.

Mewn sawl ffordd, gall byw mewn ardal o gyfoeth cymharol tra byddwch yn ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd wneud y profiad hwnnw hyd yn oed yn anoddach ac yn fwy ynysig. Dyma her benodol Sir Fynwy ac un yr ydym yn benderfynol o’i deall, taflu goleuni arno, a mynd i’r afael ag ef.”