Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnig amrywiaeth o sianeli i bobl ddewis o’u plith er mwyn cysylltu â ni – o wyneb i wyneb, dros y ffôn neu sianeli digidol yn cynnwys y wefan, cyfryngau cymdeithasol, drwy ap ‘Fy Sir Fynwy’  neu drwy siarad gyda Monty, sgyrsfot Cyngor Sir Fynwy sydd ar gael drwy Facebook Messenger neu wefan Cyngor Sir Fynwy.

Mae Monty yn rhoi atebion ar unwaith i amrywiaeth o gwestiynau y mae preswylwyr yn eu gofyn bob awr o’r dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae Monty’n cael ei ddiweddaru’n gyson ac mae’n cynnwys ymatebion am wastraff ac ailgylchu e.e. ‘pryd mae fy min yn cael ei gasglu’, gwybodaeth am ysgolion e.e. ‘beth sydd i ginio yn yr ysgol heddiw’, ymholiadau priffyrdd e.e. ‘sut y gallaf roi adroddiad am dwll yn y ffordd’ a gwasanaethau allweddol eraill. Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio gyda We Build Bots, cwmni technoleg o Dde Cymru, i ddatblygu Monty. Mae tua 9,000 o bobl yn defnyddio Monty.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: “Mae miloedd o gwsmeriaid yn cysylltu â Monty i gael atebion a gwybodaeth mewn ffordd rwydd a hygyrch i rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin. Ni oedd yr awdurdod lleol cyntaf i lansio sgyrsfot Cymraeg, felly mae Monty yn ymateb i bobl yn Gymraeg a Saesneg. Mae’n gyffrous datblygu Monty drwy’r amser i roi mwy a mwy o atebion i’r cwestiynau y mae preswylwyr yn eu gofyn. Rydym hefyd yn edrych ar welliannau pellach i gynyddu hunan-wasanaeth ar gyfer ein preswylwyr. Mae hyn am ychwanegu at gysylltiad dynol ac nid ei ddisodli. Os na all y sgyrsfot roi atebion i gwestiynau syml, mae’r gwasanaeth yn cyfeirio preswylwyr at ein canolfan gyswllt lle byddant yn siarad yn uniongyrchol gydag un o’r tîm yn ystod oriau swyddfa. Mae Monty yn un o’r llu o ffyrdd yr ydym yn gwella profiad cwsmeriaid yn barhaus i’n cwsmeriaid drwy roi ffordd wahanol i bobl gysylltu gyda’u cyngor lleol.”

Gwelwch fwy yn y fideos islaw

Adborth

Os cawsoch sgwrs gyda Monty a bod gennych unrhyw adborth, llenwch y ffurflen islaw os gwelwch yn dda. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.