Skip to Main Content

Am y gwasanaeth

Darparwn brydau maethlon i unrhyw un yn Sir Fynwy yr aseswyd fod ganddynt angen.

Gellir dosbarthu’r rhain i’ch cartref yn dwym neu wedi rhewi mewn cerbydau a addaswyd yn arbennig 365 diwrnod y flwyddyn lle bynnag yn Sir Fynwy yr ydych yn byw.

Gellir archebu ein bwyd i weddu unrhyw angen dietegol, angen diwylliannol neu chwaeth bersonol.

Gallwch archebu cynifer o brydau ag y dymunwch yn ystod yr wythnos yn dibynnu ar eich anghenion a’ch amgylchiadau.

Gallwch archebu, newid neu ganslo eich prydau unrhyw ddydd o’r wythnos.

Cynigiwn wasanaeth unigryw a hyblyg i’ch helpu i fyw’n annibynnol yn eich cartref eich hun.

Dosberthir y prydau rhwng 11.30am a 2.15pm.

Cost gyfredol prif bryd a phwdin yw £4.15 y diwrnod. Mae’r gost hon yn weithredol i bawb, beth bynnag eich amgylchiadau ariannol. Gallwch dalu’n ddyddiol neu’n wythnosol I’r person sy’n dosbarthu eich prydau neu, os yw’n well gennych, gallwch dalu’n fisol. Byddwn yn anfon ateb atoch a gallwch dalu am eich prydau drwy siec.

Sut i gael y gwasanaeth

I gysylltu â Gwasanaeth Prydau Sir Fynwy, gallwch ffonio eich Hyb Cymunedol lleol neu anfon e-bost at meals@monmouthshire.gov.uk . Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy ffonio swyddfa Gwasanaeth Prydau Bwyd Sir Fynwy ar 01873 882910,