Genedigaeth farw yw plentyn a anwyd ar ôl 24ain wythnos beichiogrwydd na wnaeth anadlu na dangos unrhyw arwydd arall o fywyd. Pan gaiff plentyn ei eni’n farw, bydd y fydwraig neu feddyg yn cyhoeddi tystysgrif feddygol o enedigaeth farw sydd ei angen ar gyfer cofrestru.

Dylid cofrestru genedigaeth farw o fewn 42 diwrnod ac ni ellir ei gofrestru fwy na thri mis ar ôl y digwyddiad.

Ble mae cofrestru genedigaeth farw?

Dylai genedigaeth farw a ddigwyddodd yn Sir Fynwy gael ei chofrestru yn Ysbyty Nevill Hall, Y Fenni neu yn y Swyddfa Gofrestru ym Mrynbuga.

Dylai rhieni sy’n dioddef genedigaeth farw wneud apwyntiad i weld y cofrestrydd yn yr ysbyty: (01873 735435). Bydd y gofrestr yn gweld rhieni yn breifat i gofnodi’r manylion ac ni chodir ffi am y gwasanaeth hwn.

Pwy all gofrestru?

Gall un ai’r fam neu’r tad gofrestru cyn belled â’u bod yn briod â’i gilydd adeg yr enedigaeth farw. Os nad oedd y rhieni yn briod a’u bod yn dymuno cynnwys manylion y tad, dylai’r ddau riant fod yn bresennol.

Yn ogystal â’r dysgysgrif feddygol a gyhoeddir gan y fydwraig neu’r meddyg, bydd angen i chi roi’r wybodaeth ddilynol:

dyddiad a lle digwyddodd yr enedigaeth farw

unrhyw enw y dymunai’r rhiant/rhieni ei roi i’r baban

enw llawn y fam (ac enw llawn y tad, os yn berthnasol), man geni, swydd a chyfeiriad arferol

cyfenw’r fam cyn priodi (os yn berthnasol)

Byddwch yn derbyn y dogfennau dilynol ar ôl cofrestru:

Tystysgrif ar gyfer claddu neu amlosgi – bydd y cyfarwyddwr angladdau angen hyn

Tystysgrif cofrestru – mae’r dystysgrif yma’n brawf o gofrestru ac yn dangos dyddiad yr enedigaeth farw ac unrhyw enwau a roddwyd i’r plentyn

Tystysgrif genedigaeth farw – mae copi ardystiedig o’r holl fanylion a gedwir yn y gofrestru hefyd ar gael