Skip to Main Content

Marchnad wartheg y Fenni ac adfywio’r dref

Dogfennau cyfreithiol

Mae’r dogfennau cyfreithiol canlynol yn ymwneud â Chynllun Adfywio’r Fenni:

  • Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth
  • Cytundeb Marchnad Newydd
  • Gweithred Amrywio Ebrill 2009
  • Cytundeb Adeiladu Gorffennaf 2005
  • Cytundeb A106 ar gyfer cynllun cydsyniedig Morrisons

Astudiaethau a gynhyrchwyd ar gyfer Cynllun Adfywio’r Fenni:

  • Adroddiad 2004 Mcgregor Smith
  • Adroddiad ar Gyflwr y Farchnad Bresennol Rhagfyr 2011

R (Long) yn erbyn Gweinidogion Cymru; R (Long) yn erbyn Cyngor Sir Fynwy Dyfarniadau

  • Mae Cyngor Sir Fynwy wedi croesawu’r newyddion bod yr adolygiadau barnwrol am ddiddymu Deddfau’r Fenni a phenderfyniad Cyngor Sir Fynwy i roi caniatâd cynllunio ar gyfer archfarchnad newydd yn y Fenni wedi cael eu gwrthod.

Roedd gwrthwynebwyr i gynlluniau’r Cyngor i symud y farchnad wartheg a dod â siop Morrisons i’r dref wedi apelio at y llysoedd mewn ymgais i atal y datblygiadau. Yn ei dyfarniadau, cadarnhaodd yr Ustus Nicola Davies DBE penderfyniadau’r Cyngor, gan wrthod yn eu cyfanrwydd y dadleuon a gyflwynwyd gan gyfreithwyr yn gweithredu ar ran grŵp lobïo lleol – KALM.

Dywedodd Steve Greenslade, Cyfarwyddwr Pontio ac arweinydd tîm swyddogion y Cyngor sy’n gyfrifol am y cynllun:

“Bu cyfres hir ac estynedig o heriau cyfreithiol, ac y ddau adolygiad barnwrol hyn yw’r camau diweddaraf ohonynt. Mae wedi oedi’r cynllun am nifer o flynyddoedd ac ar gost mawr i’r cyhoedd. Rydym yn amcangyfrif bod dros £100,000 wedi cael eu gwario gan y Cyngor i amddiffyn y heriau hyn ac eraill, ac nid oes yr un ohonynt wedi cael eu cadarnhau. Ar ben hynny, gallwch ychwanegu yn ôl pob tebyg degau o filoedd o bunnoedd a roddwyd i KALM mewn cymorth cyfreithiol i fynd â’r achosion i’r llys. Gobeithio bellach, gyda gwaith wedi cychwyn ar y safle marchnad newydd ym Mryngwyn a dyfarniad mor bendant yn eu herbyn, y bydd hyn yn rhoi terfyn ar yr heriau cyfreithiol y mae’r cyfreithwyr yn gwneud yn dda ohonynt ond sy’n parhau i gostio’n ddrud i dalwyr y dreth gyngor lleol. Dylai’r cynllun hwn gael ei gwblhau heb oedi pellach.”

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy ac Aelod y Cabinet dros Foderneiddio a Menter:

“Oherwydd bod marchnadoedd eraill wedi cau, mae’r rhan fwyaf o bobl yn derbyn bod y fasnach yn mynd trwy farchnad da byw y Fenni wedi tyfu i’r fath raddau fel na ellir ei chynnwys ar y safle tref cyfyngedig. Mae gwerthu’r safle i Morrisons yn rhoi cyfle i bobl leol siopa yma yn hytrach na theithio milltiroedd i ganolfannau eraill. Mae hefyd yn helpu’r cyngor i amddiffyn yn erbyn bygythiad archfarchnad ar gyrion y dref, a bydd yr elw o’r gwerthiant yn talu am y farchnad newydd yn ogystal â rhoi hwb mawr ei angen i’n cynlluniau i ailadeiladu ein hysgolion uwchradd. Mae’r cynllun hwn yn dod hefyd â mwy na 200 o swyddi ar gyfer pobl leol, sy’n llawer eu hangen. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch swyddogion Cyngor Sir Fynwy am y gwaith aruthrol y maent wedi’i wneud ar y prosiect hwn, wrth gael eu beirniadu’n aml ac yn afresymol gan rai aelodau o’r cyhoedd. Mae’r dyfarniad wedi cadarnhau bod y cynllunwyr wedi ymdrin â chais Morrisons mewn ffordd broffesiynol a bod y pwyllgor cynllunio wedi rhoi ystyriaeth briodol iddo.”

Ychwanegodd:

“Yn gyson, mae aelodau etholedig Cyngor Sir Fynwy wedi ystyried y cynllun yn fanwl, ac mae’r mwyafrif llethol wedi pleidleisio o’i blaid. Yn sicr, mae’n amser i ddemocratiaeth ennill. Hoffwn apelio ar KALM i beidio ag ystyried gwastraffu mwy byth o arian ac amser cyhoeddus wrth geisio i apelio yn erbyn penderfyniad y llys, ond i weithio gyda ni i wneud y mwyaf o’r manteision i’r dref y gellir eu disgwyl o gael siopwyr ychwanegol ar garreg y drws. Rhoddodd gwrthwynebwyr llawer iawn o’u hamser a’u hymdrech i ymgyrch yr oeddynt yn amlwg yn credu ynddo. Os ydynt bellach yn barod i sianelu’r egni hwnnw ar gyfer gweithio gyda ni ar y prosiect parhaus i adfywio canol y dref, yna gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth i’r dref.”

  • Rhif Achos: CO/1095/2012
  • Rhif Achos: CO/3488/2012

Gwybodaeth Bellach

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy:

Nid ydym yn synnu y gwrthodwyd caniatâd i KALM apelio yn erbyn canlyniad eu dau adolygiad barnwrol diweddar, a oedd yn cadarnhau penderfyniadau a wnaed gan ein hunain a Llywodraeth Cymru. Mae’n gas gennyf feddwl faint o arian cyhoeddus y maent wedi ei wario wrth gyflawni dim byd trwy’r broses gyfreithiol ddrud hon. Yr wyf yn ymwybodol y gallent gyflwyno apêl bellach i’r Llys Apêl. Hyd yn oed ar yr adeg hwyr hon, byddwn yn eu hannog i beidio â gwneud hyn ac i dderbyn yn hytrach y penderfyniadau a wnaed mewn modd agored gan gyrff sy’n atebol yn ddemocrataidd.

Aeth yn ei flaen:

“Mae angen i ni fod yn glir bod cynlluniau Cyngor Sir Fynwy ar gyfer adfywio’r Fenni yn cael eu cefnogi gan astudiaethau helaeth – cyflwynwyd pob un ohonynt fel tystiolaeth yn y broses Adolygiad Barnwrol ac maent wedi cael eu gweld gan KALM. Roedd y penderfyniad i ganiatáu adeiladu archfarchnad newydd yn cael ei wneud gan gynghorwyr a etholwyd yn ddemocrataidd. Roedd y penderfyniad i roi cychwyn i’r cynllun cyfan wedi’i wneud nid unwaith, ond ddwywaith, gan gyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd yn agored; cyflwynodd KALM dystiolaeth yn yr olaf o’r rhain. Mae KALM yn herio penderfyniadau nad ydynt yn eu hoffi yn peidio â newid y ffeithiau hynny.

Dogfennau:

  • Gorchymyn: Gwrthodwyd caniatâd i apelio
  • Cynllun Marchnad Da Byw y Fenni
  • Trwydded Dymchwel