pam maethu gyda ni?

cefnogaeth a manteision

Mae pob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru yn rhan o’r Ymrwymiad Cenedlaethol, sy’n rhoi pecyn cyson o gefnogaeth, hyfforddiant a manteision i bob gofalwr maeth yng Nghymru.

Fel rhan o dîm Maethu Cymru Sir Fynwy, cewch eich cefnogi gyda phopeth rydych ei angen i ffynnu fel gofalwr maeth.

cefnogaeth ariannol a lwfansau

Fel gofalwr maeth Maethu Cymru Sir Fynwy, byddwch yn derbyn lwfans hael i’ch cefnogi i ofalu am y plentyn a leolir gyda chi.

Mae ein lwfansau a gwobrau yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau tebyg i faint o blant yr ydych yn eu maethu, eu hoedran a’r math o faethu a gynigiwch.

Yn ogystal â’ch lwfans maethu, mae ein holl ofalwyr yn derbyn taliad ‘sgiliau’ yn adlewyrchu eu  hyfforddiant a phrofiad wrth ofalu am blentyn.

Er enghraifft, byddai gofalwyr maeth sy’n gofalu am ddau blentyn 3 a 5 oed yn derbyn o leiaf £585.00 yr wythnos (£30,420 y flwyddyn).

Byddai gofalwr maeth yn gofalu am berson ifanc 16 oed gyda sgiliau lefel 3 yn derbyn o leiaf £324.00 yr wythnos (£16848.00 y flwyddyn).

Byddai gofalwr MyST yn gofalu am berson ifanc 16 oed yn cael o leiaf £702.57 yr wythnos (£36,533.64 y flwyddyn).

buddion eraill

Ar ben eich lwfansau maethu, byddwch hefyd yn derbyn:

  • Cerdyn ‘MAX’, prif gerdyn disgownt Prydain ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, sy’n rhoi mynediad am ddim neu ratach i fannau tebyg i ‘Lasertag’, amgueddfeydd a chestyll.
  • Mae cerdyn Blue Light yn rhoi ystod anhygoel o ostyngiadau ar siopau groser, siopau o bob math a safleoedd bwyd.
  • Telir ciniawau ysgol ar gyfer holl blant Sir Fynwy sy’n derbyn gofal sydd mewn ysgol lawn-amser. Caiff taliad ychwanegol ei wneud yn ystod gwyliau ysgol, gan roi £260 y flwyddyn yn ychwanegol.
  • Mae ein holl ofalwyr maeth yn derbyn aelodaeth awtomatig o’r Rhwydwaith Maethu, gwasanaeth cyngor a chymorth annibynnol i  ofalwyr maeth.
  • Cynigir digwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd eraill yn rhad ac am ddim neu yn rhatach ar gyfer eich holl deulu maeth. Bydd ein cylchlythyr misol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am beth ydynt a sut i gael mynediad iddynt.
  • Cymhellion ariannol i ofalwyr amaeth sy’n argymell unigolyn sydd wedyn yn cael ei asesu fel gofalwr maeth ar gyfer Sir Fynwy.

ein cefnogaeth i chi

Rydym yn ymroddedig i roi’r gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir i’n gofalwyr maeth i’w galluogi i fod y gofalwyr maeth gorau y gallant fod. Mae’r cymorth sydd ar gael i chi fel gofalwr maeth ar gyfer Maethu Cymru Sir Fynwy yn cynnwys:

  • Eich gweithiwr cymdeithasol penodol chi eich hun fydd yn eich cefnogi ac yn gweithio gyda chi.
  • Grwpiau cymorth gofal maeth rheolaidd i’ch galluogi i gwrdd a chadw mewn cysylltiad gyda gofalwyr maeth eraill a rhoi gwybodaeth/newyddion perthnasol i’ch ròl maethu.
  • Mae Gofalwyr Maeth dros Ofalwyr Maeth (FC4FC) yn grŵp annibynnol a sefydlwyd gan ac ar gyfer gofalwyr maeth Maethu Cymru Sir Fynwy. Mae hyn yn rhoi system cefnogaeth annibynnol i ofalwyr maeth. Mae FC4FC yn trefnu cyfarfodydd, gweithgareddau, partïon Nadolig a digwyddiadau eraill yn rheolaidd.
  • Mentora unigol gan ofalwyr maeth profiadol yn gysylltiedig gyda’r rhaglen Pioneer.
  • Mynediad i gymorth cymheiriaid Men who Care ar gyfer dynion sy’n ofalwyr maeth.

Eich cefnogi chi i gefnogi plant

BASE (‘Building Attachments Security and Emotional Well-being’)

  • Mae gan holl ofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau fynediad i BASE, ein gwasanaeth therapiwtig a seicoleg mewnol.

    Mae tîm BASE yn cynnwys seicolegwyr clinigol a therapyddion chwarae sy’n gweithio gyda gofalwyr maeth, plant a phobl ifanc i gefnogi gofalwyr a gwella deilliannau ar gyfer plant a phobl ifanc mewn gofal.

    Mae BASE yn cynnig gwaith therapiwtig uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc a chefnogaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr maeth a gweithwyr cymdeithasol, yn ogystal â hyfforddiant a gweithdai.

MyST (‘My Support Team’)

  • Mae MyST yn rhoi cefnogaeth ddwys i ofalwyr maeth sy’n gofalu am blant a phobl ifanc gyda’r anghenion mwyaf heriol a chymhleth.

    Fel arall byddai’r plant hyn mewn cartrefi preswyl i blant yn aml ymhell o’u cymunedau a phobl sy’n bwysig iddynt.

    Fel gofalwr MyST mae gennych fynediad i gefnogaeth 24 awr y dydd/7 diwrnod yr wythnos, taliadau uwch, hyfforddiant pwrpasol a phecynnau unigol o gefnogaeth yn ôl eich anghenion.

ein haddewid

rhan o’r tîm

Fel gofalwr maeth cymeradwy o fewn Cyngor Sir Fynwy byddwch yn dod yn rhan o dîm sy’n rhannu cenhadaeth i ddarparu amgylchedd cefnogol lle gall y plentyn yn eich gofal ffynnu. Fel gofalwr maeth y plentyn, rydych wrth graidd y genhadaeth hon.

Fel rhan o’n tîm, byddwch wrth ochr pobl ymroddedig eraill; gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymorth, gofalwyr maeth, seicolegwyr a therapyddion.

Rydym i gyd yn ymroddedig i gadw plant Sir Fynwy yn eu hardal leol gyda gofalwyr maeth sy’n gofalu amdanynt , lle byddant yn ffynnu.

dysgu a datblygiad

Dim ond dechrau eich datblygiad yw dod yn ofalwr maeth cymeradwy. Cynigion ystod eang o gyfleoedd hyfforddiant a dysgu i gefnogi eich dysgu a’ch dealltwriaeth o’r plant y gofalwch amdanynt, gan roi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i alluogi’r plant sydd yn eich gofal i ffynnu.

Fel gofalwr Maethu Cymru Sir Fynwy, bydd gennych eich Cynllun Dysgu a Datblygu Maethu Cymru eich hun sy’n unigol i’ch anghenion ac yn rhoi ystyriaeth i’r holl brofiadau a dysgu sydd gennych.

Bydd gennych hefyd fynediad i ddewis amrywiol o gyfleoedd hyfforddiant, e-ddysgu, podlediadau a gweithdy.

y gymuned faethu

Rydyn ni hefyd yn cynnig nifer o rwydweithiau cymorth cymdeithasol yn Sir Fynwy. Gallwch chi gyfarfod gofalwyr maeth eraill a rhannu eich profiadau unigryw a dechrau cyfeillgarwch newydd a phwerus gyda phobl yn y gymuned leol.

Ar ben hyn, mae cyfoeth o gyngor a gwybodaeth ar-lein y gallwch chi gael gafael arnyn nhw ar unrhyw adeg fel gofalwr maeth Cymru.

Mae Maethu Cymru yn talu i chi fod yn aelod o’r Gymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) a’r Rhwydwaith Maethu (TFN). Mae’r rhain yn sefydliadau maethu arbenigol sy’n cynnig cyngor, arweiniad, cefnogaeth a llawer o fanteision eraill.

Woman and young girl using computer to make video call

cymryd y cam cyntaf

cysylltu â’ch tîm maethu cymru lleol

  • Cyngor Sir Fynwy yw’r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu’ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu’n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data’n disgrifio’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Fynwy yn defnyddio’ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.