Skip to Main Content

Llyfrau Darllen ar gyfer Disgyblion Dyslecsig

Rising Star (Nasen)- ffuglen am fampiriaid ac ati.

Download (Nasen) – bechgyn yn eu harddegau gyda gallu darllen isel – chwaraeon eithafol a cheir cyflym.

Ransom (Dark Man) – Ransom (Trailblazers) llyfrau ffeithiol, oedran darllen 6-7 ar bêl-droed, fformiwla 1, comedau, dinosoriaid ac ati.

Skyways

Llyfrau Rip Rap gan y cwmni Cumquatmay o Awstralia

Llyfrau Badger ar bobl enwog

Llyfrau gan SEN Press ee Matt gets Wise.

Cyfres llyfrau Hank Zipzer – ysgrifennwyd gan y dyslecsig enwog Henry Winkler

Darllen ac E-lyfrau

Mae Rising Stars yn cyhoeddi dewis eang o lyfrau darllen ac e-lyfrau ar gyfer rhai sy’n ei chael yn anodd ac yn amharod i ddarllen. O ffuglen gyffrous a llyfrau ffeithiol arddull cylchgrawn i ddramâu chwe rhan ar gyfer sesiynau darllen grŵp, bydd ein cyfres yn ennyn diddordeb ac yn herio.

Caiff ein llyfrau darllen eu datblygu’n benodol i ennyn diddordeb dysgwyr hŷn – yn arbennig fechgyn – ac maent yn rhoi sylw i:

Themâu a straeon addas i oedran

Lefel iaith wedi’i rheoli sy’n cefnogi  rhai sy’n amharod ac yn cael anawsterau darllen

Deunydd cefnogaeth helaeth ar gyfer athrawon, cymhorthwyr addysgu a chymhorthwyr cefnogi dysgu

Llawer o gyngor a gweithgareddau ar gyfer sesiynau darllen dan arweiniad a dosbarthiadau ymyrryd darllen

Caiff ein darllenwyr eu holi ar Lyfrau Darllen Cyflym, gan alluogi ysgolion i integreiddio llyfrau darllen Rising Stars yn llawn i’w rhaglen ymyrryd darllen.

LawrlwythoRhestr o Gwisiau Rising Stars ar Lyfrau Darllen Cyflym.pdf

– Gweler mwy yn: http://www.risingstars-uk.com/subjects/reading-and-ebooks#sthash.XrrhdIXj.dpuf

Lawrlwytho – Llyfrau gwybodaeth cyffrous arddull cylchgrawn ar gyfer eich darllenwyr hŷn gwannaf

Cyfres ddiddorol o e-lyfrau ar gyfer bechgyn hŷn gyda gallu darllen isel. Mae’r gyfres hon o lyfrau’n defnyddio chwaraeon eithafol a cheir cyflym fel thema i gael disgyblion yn eu harddegau sy’n amharod a llai galluog yn ôl i ddysgu.

Mae pob eLyfr yn cynnwys stori fer, gyda lluniau du a gwyn; tudalennau gwybodaeth ffeithiol, a gyflwynir ar arddull cylchgrawn yn defnyddio ffotograffau lliw a geirfa addas a llyfryddiaeth i gefnogi dysgwyr sydd eisiau gwybod mwy am y pwnc.

Datblygwyd y gyfres mewn cysylltiad â NASEN, Cymdeithas Genedlaethol Anghenion Addysgol Arbennig.

Dalier sylw – Dim ond ar ffurf eLyfr y gellir eu lawrlwytho ar gael ar hyn o bryd.

Oedran diddordeb: 9-14+ oed

Oedran darllen: 6-7 oed

Lefel Cwricwlwm Cenedlaethol: Gweithio o fewn lefel 1 a thuag at lefel 2

Band llyfr: Oren: Lefel 6

– Mwy o wybodaeth yn:

http://www.risingstars-uk.com/series/download#sthash.JGKpQJMA.dpuf

Oedran Diddordeb 8 – 14 oed | Oedran Darllen 6 – 7 oed

Mae 36 llyfr darllen yng nghyfres Trailblazers ar hyn o bryd, pob un yn rhoi sylw i bwnc ffeithiol poblogaidd gwahanol. Mae’r llyfrau’n cynnwys ffeithiau a ffuglen, gan ddechrau gydag adran ddiddorol ar ganfod ffeithiau gyda stori hardd ar y pwnc i ddilyn.

Filiynau o flynyddoedd yn ôl fe wnaeth meteorit enfawr ladd yr holl ddinosoriaid. Darllenwch sut! A gaiff holl bobl y ddaear eu lladd yn yr un ffordd? Darllenwch beth allwn ei wneud. A oes bywyd ar y blaned Mawrth? Mae gwyddonwyr yn meddwl y gallai fod. Darllenwch pam..

Darllenwch stori arswyd am yr hyn allai ddigwydd: ‘Doom from Space’.

www.cumquatmay.com.au/index.php?option=com_wrapper&Itemid