Skip to Main Content

 Tutor: Phillippa Lloyd

Dosbarth Crefft SBA (Sgiliau Byw’n Annibynnol) yw Crafts & Laughs i oedolion sydd ag anabledd dysgu. Mae dysgwyr yn datblygu sgiliau newydd mewn awyrgylch hwylus, diogel a chyfeillgar wrth dderbyn cymorth i lwyddo ac i gyrraedd eu targedau.   Mae Crafts & Laughs yn ailddefnyddio ac yn ailgylchu eitemau a deunyddiau sydd wedi’u rhoddi gan y cyhoedd i werthi yn y farchnad leol er mwyn galluogi’r grŵp i brynu mwy o ddeunyddiau ac offer crefft.  Mae hyn yn caniatáu i ddysgwyr gweld gwerth eu gwaith pan fydd eitemau’n cael eu gwerthu ac yn galluogi i ddysgwyr defnyddio sgiliau sydd wedi’u dysgu, megis trin arian a chyfarch cwsmeriaid, mewn sefyllfa ymarferol.

Gall ddysgwyr drio amryw o grefftau megis argraffu, papier-mâché, gwnïo, creu cardiau, tecstilau, matiau racs a phlygu papur, i enwi ond ychydig.  Mae’r mathau o grefft i’w trio’n cael eu cytuno fel tîm ar ddechrau’r flwyddyn a’r nod yw darganfod crefft bod y dysgwr yn mwynhau’n fawr ac yn gallu cwblhau’n annibynnol.

Mae amryw o sgiliau byw’n annibynnol hefyd yn cael eu datblygu o fewn y dosbarth megis llythrennedd, rhifedd, cyfathrebu, llythrennedd digidol, dilyn cyfarwyddiadau, cyfarch eraill, gweithio mewn tîm ayyb.

 

Y brif nod, fel y mae’r enw’n awgrymu, yw cael hwyl a sbri wrth ddysgu sgil newydd gyda chefnogaeth mewn awyrgylch diogel!