Skip to Main Content

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cyfarwyddyd ar ddefnydd Hysbysiadau Cosb Benodedig, Cylchlythyr 116/2013. Gellir dod o hyd i hwn trwy glicio ar y ddolen hon. Mae’n gofyn bod pob Awdurdod Lleol yn datblygu Cod Ymddygiad ar gyfer cyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig. Mae Sir Fynwy wedi datblygu Cod Ymddygiad ac mae hwn, ar y cyd â Pholisi Presenoldeb Yr Awdurdod Lleol, yn galluogi i ysgolion ofyn am gyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig. Gellir dod o hyd i’r Cod Ymddygiad trwy glicio ar y ddolen hon.

Mae Cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru yn caniatáu i bob Awdurdod Lleol gyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig os yw plentyn yn absennol heb ganiatâd am fwy na 10 sesiwn y tymor. Diffinnir sesiwn fel hanner diwrnod. Felly, mae’n hanfodol bod rhieni yn rhoi gwybod i ysgolion am y rhesymau dros absenoldeb eu plentyn. Yna, y Pennaeth fydd yn penderfynu a yw am awdurdodi absenoldeb y plentyn ai peidio.

Mae prydlondeb hefyd yn bwysig iawn. Os yw disgyblion yn hwyr yn cyrraedd yr ysgol ac yn cyrraedd ar ôl i’r gofrestr gau, mae hwn hefyd yn cael ei gofnodi fel absenoldeb anawdurdodedig. Mae’r Awdurdod Lleol wedi drafftio llythyr i Benaethiaid ei anfon at rieni. Mae’r llythyr hwn yn esbonio bod Sir Fynwy yn cyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig o fis Medi a gellir dod o hyd iddo trwy glicio ar y ddolen hon.

Gwyliau yn ystod y tymor

Mae Sir Fynwy yn cynghori Penaethiaid i ystyried unrhyw geisiadau am wyliau ar sail disgyblion unigol. Mae’r Fframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan yn caniatáu i Benaethiaid awdurdodi hyd at 10 niwrnod y flwyddyn. Nid yw hon yn hawl awtomatig i rieni neu ddisgyblion. Bydd Penaethiaid yn cymryd cofnodion presenoldeb blaenorol disgyblion i ystyriaeth wrth ystyried ceisiadau rhieni am wyliau yn ystod y tymor.

Os ydych yn ystyried bwcio gwyliau yn ystod y tymor, rydym yn eich cynghori’n gryf i gysylltu â’r Pennaeth cyn cadarnhau a bwcio unrhyw beth. Gellir dod o hyd i ddyddiadau’r tymor o’r ysgol naill ai ar lafar, yn ysgrifenedig neu ar wefan yr ysgol.

Os ydych yn ystyried mynd â’ch plentyn ar wyliau teulu yn ystod y tymor, mae rhai pethau y mae angen i chi eu hystyried:

  • A oes wir angen i chi gymryd gwyliau yn ystod y tymor neu a oes modd i chi gymryd y gwyliau yn ystod gwyliau’r ysgol?
  • A ydych chi wedi ystyried sut bydd hyn yn tarfu ar addysg eich plentyn?

Os ydych yn teimlo bod rhaid i chi gymryd y gwyliau yn ystod y tymor, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais sydd ar gael o ysgol eich plentyn. Fel gydag unrhyw gais am absenoldeb, dylech gyflwyno’ch cais cyn gynted â phosib.

Yn gyfreithiol, nid yw Penaethiaid yn gallu awdurdodi mwy na 10 niwrnod ysgol o wyliau mewn blwyddyn ysgol oni bai, ym marn y Pennaeth, bod yna ‘amgylchiadau eithriadol’. Bydd gwyliau a gymerir heb ganiatâd y Pennaeth yn cael eu cofnodi fel absenoldeb anawdurdodedig.

Os yw’r Pennaeth yn penderfynu peidio ag awdurdodi’r cais am wyliau a bod yr amser dilynol i ffwrdd yn hirach na 10 sesiwn mewn tymor, mae rhieni mewn perygl o dderbyn Hysbysiad Cosb Benodedig. Mae’n bwysig pwysleisio na fod Hysbysiadau Cosb Benodedig yn cael eu cyflwyno’n awtomatig os yw disgybl yn mynd ar wyliau, i’w cyflwyno, rhaid bod y gwyliau yn anawdurdodedig a bod cyfanswm absenoldeb anawdurdodedig y disgybl y tymor hwnnw yn fwy na 10 sesiwn.

Yn y pen draw, Pennaeth yr ysgol fydd yn penderfynu a yw am wneud cais i gyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig os ydynt wedi gwrthod awdurdodi cais am wyliau.