Yn ystod archwiliad monitro rheolaidd o Hen Bont Gwy yng Nghas-gwent ar ddydd Mercher, 1 Hydref2025, derbyniodd y cyngor argymhelliad gan y peirianwyr pont ymgynghorol i gau’r bont yn syth i draffig oherwydd arwyddion o ddifrod strwythurol.
Wrth archwilio, darganfuwyd crac yn y trawst strwythurol ar Biler 2. Isod, gallwch weld delweddau o’r ardal yr effeithiwyd arni ynghyd â chynllun agos o’r crac a nodwyd.



Rydym yn trafod y camau nesaf gyda’r peirianwyr ar hyn o bryd, ond bydd y bont ar gau i draffig cerbydau hyd nes y rhoddir gwybod yn wahanol.
Agorwyd Hen Bont Gwy, a adeiladwyd o haearn bwrw, ym mis Gorffennaf 1816. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi bod yn monitro’r bont yn barhaus gyda chymorth peirianwyr arbenigol ers 2018.
Byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n trigolion drwy’r dudalen hon ac ar ein platfformau cyfryngau cymdeithasol.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin hyn.
Pa mor aml y cynhaliwyd archwiliadau?
Cynhaliwyd archwiliadau ar y bont ers y 1970au. Mae’r bont wedi’i chategoreiddio fel Strwythur Priffyrdd Is-safonol ac mae’n cael ei rheoli yn unol â CS470 a CS454. Mae’r drefn fonitro bresennol bob chwe mis.
Pam na chanfuwyd y cracio cyn hyn?
Mae archwiliadau blaenorol wedi adnabod craciau eraill ar yr un piler. Nododd yr archwiliad ar 1 Hydref grac newydd, gan godi pryderon ynghylch cydnerthedd strwythurol y rhan hon o’r bont. Roedd archwiliadau blaenorol wedi tynnu sylw at y ffaith fod lludded thermol a llwyth cerbydau wedi effeithio ar y trawstiau strwythurol. Mae’n debygol fod y crac diweddar yn gysylltiedig ag ehangu a chyfangiad yr haearn bwrw dros fisoedd yr haf.
Pam na allwch chi weldio’r crac?
Rydyn ni’n ymchwilio i’r opsiynau ar gyfer atgyweirio. Mae’r strwythur yn Strwythur Rhestredig Gradd 1, a rhaid gwneud yr holl waith atgyweirio mewn ffordd sy’n cynnal cywirdeb y Rhestru. Mae weldio’r haearn bwrw yn bosibl, ond mae’r crac trwy’r trawst yn llwyr, a, fel y mae nawr, bydd y straen yn symud i ran arall.
Am ba mor hir fydd y bont ar gau?
Dydyn ni ddim yn gallu cadarnhau amserlen ar hyn o bryd. Mae angen profion a gwaith modelu pellach i sefydlu faint o waith adfer sy’n angenrheidiol. Gan fod hwn yn strwythur Rhestredig Gradd 1, bydd angen cymeradwyaeth CADW ar unrhyw waith.
Ydy’r terfyn pwysau ar bont yr M48 yn golygu bod traffig ychwanegol ar ffyrdd lleol?
Does gennym ni ddim unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod y cyfyngiadau terfyn pwysau wedi creu unrhyw draffig ychwanegol ar ffyrdd lleol.
Ydych chi’n mynd i agor y bont i gerddwyr yn unig?
Mae’r bont ar agor i gerddwyr ar hyn o bryd tra byddwn yn ymchwilio ymhellach. Ein bwriad yw ailagor y bont ar gyfer cerbydau pan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny.