5 x 60
Amcan 5×60
Drwy gyfrwng gweledigaeth Dringo’n Uwch, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gosod her a phennu targedau ar gyfer gweld 90% o blant Cymru’n cymryd rhan mewn gweithgarwch rheolaidd ac aml erbyn 2020.
Mae 5×60 yn wynebu’r her hon drwy helpu i greu’r amgylchedd sy’n angenrheidiol er mwyn i blant allu cymryd rhan mewn chwaraeon allgyrsiol a gweithgarwch corfforol yn rheolaidd.
Sut mae’r 5×60 yn gweithio
Mae swyddogion 5X60 sydd wedi derbyn hyfforddiant llawn yn gweithio mewn ysgolion uwchradd ar hyn o bryd er mwyn ymestyn y rhaglen allgyrsiol a’u nod yw annog y rhai nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon i fod yn egnïol.
Cynhelir llu o weithgareddau trefnus cyn yr ysgol yn y bore, yn ystod amser cinio, ar ôl ysgol ac ar benwythnosau. Mae’r swyddogion yn gweithio gyda thimau datblygu chwaraeon er mwyn sicrhau bod modd cynnal y gweithgareddu yn y gymuned hefyd.
Sir Fynwy
Mae’r rhaglen 5×60 bellach yn ei phumed flwyddyn yn Sir Fynwy. Mae pedair ysgol uwchradd y sir wedi llwyr gofleidio’r cysyniad, sy’n rhoi cymaint o gyfleoedd â phosibl i fyfyrwyr ddod yn fwy gweithgar o ddydd i ddydd. Yn ogystal â chwaraeon traddodiadol, mae ysgolion yn ychwanegu chwaraeon fel Zumba, Ffensio, Dawns Stryd a Phêl Osgoi at eu hamserlenni clwb wythnosol.
Am fwy o wybodaeth am 5×60, cysylltwch â’ch Tîm Datblygu Chwaraeon lleol ar 01633 644544.
Campau’r Ddraig
Mae Campau’r Ddraig yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd chwaraeon hwyliog a phleserus i blant 7-11 oed.
Mae Campau’r Ddraig yn fenter gan Chwaraeon Cymru a gyllidir gan y Loteri Genedlaethol a’i nod yw cynnig cyfleoedd chwaraeon hwyliog a phleserus i blant 7-11 oed.
Gan weithio’n agos gydag ysgolion a chlybiau chwaraeon cymunedol, mae Campau’r Ddraig yn cael effaith ddramatig ar gyfranogiad mewn chwaraeon drwy annog plant i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon trefnus.
Mae’r cynllun yn ehangu diddordebau chwaraeon y plant sydd eisoes yn cymryd rhan ac yn cynnwys y plant sydd heb gyfleoedd o’r fath ar hyn o bryd y tu allan i’w gwersi addysg gorfforol yn yr ysgol.
Mae Campau’r Ddraig yn cyflwyno plant i hyfforddiant, datblygiad sgiliau a chystadleuaeth briodol gan ddefnyddio fersiynau o gemau oedolion wedi’u haddasu i ddiwallau eu hanghenion a’u lefelau sgiliau.
Defnyddir portffolio o wyth camp wedi’u haddasu fel rhan o’r cynllun. Yr wyth camp sy’n rhan o Gampau’r Ddraig yw Rygbi, Athletau, Criced, Pêl-droed, Hoci, Pêl-rwyd, Tenis a Golff.
Er mai prif ffocws Campau’r Ddraig yw gwella’r ddarpariaeth chwaraeon ar gyfer plant 7-11 oed ledled Cymru, mae hefyd yn canolbwyntio ar recriwtio rhieni a gwirfoddolwyr eraill fel cynorthwywyr i gefnogi dayblygiad y clybiau ar ôl ysgol a’r clybiau chwaraeon cymunedol.
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, p’un a oes gennych ddiddordeb mewn dod yn wirfoddolwr/hyfforddwr neu’r hoffech fwy o wybodaeth am y gweithgareddau sydd yn eich ardal. Cysylltwch â’r Adran Datblygu Chwaraeon ar 01633 644539 neu anfon e-bost at sport@monmouthshire.gov.uk