Skip to Main Content

Y Fenni

 

Mae Canolfan Ieuenctid y Fenni ar Hen Heol Henffordd. Mae gan y Ganolfan Ieuenctid barc sglefrio gwych a gynlluniwyd i’w ddefnyddio gan rai o bob gallu sglefrio. Mae staff cyfeillgar y Fenni yn cynnig amgylchedd cynnes, diogel a chroesawgar yn llawn gweithgareddau hwyliog a chyfleoedd.

Canolfan Ieuenctid y Fenni
Hen Heol Henffordd
Y Fenni
Sir Fynwy
NP7 6EL
01873 859037

 

Cil-y-coed

 

Mae Canolfan Ieuenctid The Zone yn ddarpariaeth lawn-amser i bobl ifanc yng nghanol tref Cil-y-coed. Mae’r ganolfan yn rhoi cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc 11 i 25 oed yn yr ardal. Mae’r ganolfan ar agor 6 diwrnod yr wythnos ac mae ganddi sesiynau ar gyfer pobl hŷn, pobl iau, rhieni ifanc, pobl ôl-16 a phobl ifanc ar addysg amgen.
Mae’r ganolfan ieuenctid yn darparu gweithgareddau megis celf a chrefft, chwaraeon, sesiynau coginio a gweithdai am faterion. Rydym hefyd yn darparu tripiau cost isel i bobl ifanc, sy’n rhoi cyfleoedd iddynt nad ydynt efallai yn gallu eu cael ar eu ben eu hunain.

1 Heol Cas-gwent
Y Groes
Cil-y-coed
Sir Fynwy
Cil-y-coed
NP264HY
01291 425427

 

Trefynwy

 

Mae’r Attik yn fan cyfarfod ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed yn Nhrefynwy a’r cylch ac mae’n cynnig:

* man diogel i gwrdd – i ffwrdd o’r stryd;
* ‘pwynt gwybodaeth’ ar gyfer materion sy’n peri pryder iddynt;
* cyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau gwirfoddoli;
* cyfleoedd ar gyfer addysg anffurfiol;
* anogaeth a chefnogaeth i gymryd rhan yn ei reolaeth a’r dyfodol.

O fewn yr Attik, mae gan bobl ifanc fynediad i gyfrifiaduron, y rhyngrwyd, teledu, fideo DVD, pŵl, pêl-droed bwrdd, Playstations a cherddoriaeth. Mae celfi cysurus yn yr Attik gyda lluniaeth a chyfle i ymlacio gyda ffrindiau.

Anecs Neuadd Rolls
Stryd Whitecross
Trefynwy
Sir Fynwy
NP253BY
01600 772033