Skip to Main Content

Llinell o rywogaethau coediog yw gwrychoedd, a all gynnwys coed sy’n ffurfio ffin rhwng dwy lain o dir. Mae gwrychoedd amaethyddol yn un o nodweddion annatod tirwedd Sir Fynwy o ran eu hapêl weledol, eu gwerth hanesyddol neu ddiwylliannol a’u pwysigrwydd o ran bioamrywiaeth.  Fel rhan o ymrwymiad y sir i fioamrywiaeth a bod yn gyfeillgar i wenyn, mae’r cyngor sir yn ymdrechu i reoli ei wrychoedd ei hun yn unol â’r Maniffesto Gwrychoedd:

Ymholiadau am wrychoedd

Mae’r rhan fwyaf o’r ymholiadau i’r cyngor sir am wrychoedd yn ymwneud â gwrychoedd ar ymyl y ffordd.  Nid Cyngor Sir Fynwy sy’n berchen ar y rhan fwyaf o wrychoedd a choed gwrychoedd ymyl y ffordd, y tirfeddiannwr cyfagos yw’r perchnogion. Mae gan dirfeddianwyr y cyfrifoldeb i gynnal eu gwrychoedd a’u hatal rhag effeithio’r defnydd diogel o’r briffordd gyhoeddus.  Lle mae gwrychoedd ar ochr y ffordd yn union wrth ymyl y briffordd gyhoeddus (lle nad oes llain laswellt), mae’r cyngor sir yn cyflogi contractwyr i wneud toriad un metr o uchder i waelod y gwrych i gael gwared ar dwf blynyddol, waeth beth fo’u perchnogaeth. Cyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw’r materion sy’n codi gyda gwrychoedd ar ymyl y ffordd ac sydd angen gwaith ychwanegol. Bydd adran briffyrdd y cyngor sir yn cyflwyno hysbysiadau ar dirfeddianwyr (gan gynnwys ffermwyr ac aelwydydd preifat) lle ystyrir bod gwrychoedd yn effeithio ar ddiogelwch y briffordd.

Beth os ydw i am gymryd i ffwrdd rhan neu’r cyfan o’r gwrych?

Mae angen cais cynllunio ffurfiol i gael gwared ar wrych sydd wedi’i warchod.  Mae ffurflen ar gael gyda nodiadau cyfarwyddyd. Ac eithrio lle mae materion diogelwch sylweddol yn bresennol, yn ôl y gyfraith, dim ond y tu allan i’r tymor nythu adar y gellir torri gwrychoedd.  Felly, mae torri gwrychoedd fel arfer yn cael ei wneud o ddiwedd yr haf.

Beth os byddaf yn cael gwared ar wrych heb wneud cais am ganiatâd cynllunio?

Mae’r Rheoliadau’n nodi, os byddwch yn tynnu gwrych a warchodir heb wneud cais yn gyntaf i wneud hynny, yna ystyrir yn awtomatig bod y gwrych yn bwysig p’un a oedd yn bwysig ai peidio. Efallai byddwch yn cael dirwy drwm mewn Llys yr Ynadon a/neu’n yn derbyn Hysbysiad Ailosod Gwrychoedd sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y gwrych yn cael ei ailblannu.

Gwrychoedd uchel

Mae’r ddeddfwriaeth sy’n cyfeirio at wrychoedd uchel o fewn Rhan 8 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y daflen High hedges: Complaining to the Council. Ceir dolen i’r daflen yma.

Nid rôl yr awdurdod lleol yw cyfryngu neu negodi rhwng yr achwynydd a pherchennog y gwrych ond i ddyfarnu os yw’r gwrych yn effeithio’n andwyol ar fwynhad rhesymol yr achwynydd o’i eiddo. Wrth wneud hynny, mae’n rhaid i’r awdurdod ystyried yr holl ffactorau perthnasol ac mae’n rhaid sicrhau cydbwysedd rhwng buddiannau sy’n cystadlu o’r ddwy ochr, yn ogystal â buddiannau’r gymuned ehangach.  Os byddwn yn ystyried bod yr amgylchiadau yn cyfiawnhau hynny, byddwn yn rhoi rhybudd ffurfiol i berchennog y gwrych a fydd yn nodi’r hyn y mae’n rhaid iddynt wneud i’r gwrych er mwyn unioni’r broblem, ac erbyn pryd. Bydd methu â gwneud y gwaith, sydd ei angen gan yr awdurdod, yn drosedd sydd ar erlyn yn gallu arwain at ddirwy o hyd at £1,000.

Nodwch fod y gwasanaeth hwn yn ôl disgresiwn, felly, dylid trin y Cyngor i ddatrys eich problem gwrychoedd fel y dewis olaf oll.  Mae’n rhaid i chi allu dangos i ni eich bod wedi rhoi cynnig ac wedi methu ar yr holl ffyrdd eraill i ddatrys eich anghydfod gwrych. Os byddwch yn methu â dangos hyn, mae gennym yr hawl i beidio derbyn eich achos.  Mae peth gwybodaeth ddefnyddiol am sut i fynd at eich cymydog i drafod eich pryderon i’w gweld yn y daflen gynghori Over the Garden Hedge y gallwch lawrlwytho yma.

Os nad ydym yn derbyn eich achos, bydd yn rhaid i chi dalu ffi na ellir ei ddychwelyd o £320 am y gwasanaeth hwn.

Sut mae gwneud cwyn?

Os ydych wedi ceisio ar bob ffordd arall a dal i fod â phroblem gyda gwrych uchel eich cymydog, yna cysylltwch â’r Swyddog Coed (Cynllunio) neu gwblhau ffurflen gais.

Trosolwg

  • Nid yw’r ddeddfwriaeth yn mynnu bod rhaid i bob gwrych cael eu torri lawr i uchder o ddau fetr.
  • Nid oes rhaid i chi gael caniatâd i dyfu’ch gwrych dros ddau fetr.
  • Pan fo gwrych yn tyfu dros ddau fetr, nid ydym yn cymryd camau yn awtomatig oni bai bod cwyn, y gellir ei gyfiawnhau, yn cael ei wneud.
  • Os byddwn yn derbyn eich cwyn fel un dilys, nid yw’n dilyn yn awtomatig y byddwn yn gorfodi’ch cymydog i leihau uchder y gwrych. Mae’n rhaid i ni bwyso a mesur yr holl faterion ac ystyried pob achos o fewn y canllawiau sydd ar gael i ni.