DISGRIFIAD CWRS:
Bydd y tiwtor yn eich tywys gam wrth gam i greu hosan Nadoligaidd wych, sy’n berffaith ar gyfer eich plentyn neu ŵyr neu wyres.
Yn ystod y gweithdy dwy awr byddwch yn dysgu sut i dorri allan y patrwm, gosod leinin, brasbwytho a gwnïo gan ddefnyddio peiriant a sut i ychwanegu addurniadau ychwanegol megis rhubanau.
Mae’r gweithdy hwn yn addas ar gyfer pobl sy’n newydd i wnïo neu wellhawyr
ANGHENION MYFYRWYR O RAN UNRHYW DDEUNYDDIAU/OFFER:
Gellir darparu’r holl ddeunyddiau am gost ychwanegol o £5.00 neu mae croeso i chi ddod â’ch deunyddiau eich hun.
Deunyddiau sydd eu hangen yw:
Defnydd
Wadin
Leinin
Rhuban ac edefyn
Gellir darparu peiriannau gwnïo neu gallwch ddod â rhai eich hun.