Os yw dyddiad geni eich plentyn rhwng 1 Medi 2016 a 31 Awst 2017, mae’n gymwys i ddechrau mewn uned feithrin ym mis Medi 2020. Bydd y broses Derbyn ar gyfer plant sydd i ddechrau ysgol gynradd (dosbarth derbyn) ar gyfer mis Medi 2020 yn dechrau ar 4 Tachwedd 2020. Rhoddir amserlen y cylch derbyniadau islaw:
- Dyddiad y bydd pecynnau cais ar gael: 4 Tachwedd 2020
- Dyddiad cau ceisiadau: 13 Ionawr 2021 am 12am
- Dyddiad cynnig: 16 Ebrill 2021
Gofynnir i chi sicrhau eich bod yn llenwi ac yn dychwelyd eich cais cyn y dyddiad cau a gyhoeddwyd, gan y bydd methiant i wneud hynny yn golygu y caiff eich cais ei gyfrif fel un hwyr fydd yn gostwng y cyfle o gael cynnig lle yn eich dewis ysgol.
Sut mae gwneud cais?
Mae gan Gyngor Sir Fynwy system ymgeisio ar-lein sydd ar gael i chi ei defnyddio wrth gyflwyno cais eich plentyn. Mae’r system yn eich galluogi chi i weld a newid cais eich plentyn hyd at y dyddiad cau sef 13 Ionawr 2021 am 12am. Fodd bynnag mae’r system ar-lein wedi cau gan fod y dyddiad cau wedi mynd heibio ac felly bydd angen i chi gysylltu â’r Uned Mynediad yn defnyddio’r manylion islaw i gael ffurflen bapur
Nodiadau cyfarwyddyd i’ch helpu i gwblhau’ch cais ar-lein
Fe’ch cynghorir hefyd i ddarllen Llyfryn Dechrau Ysgol 2021-22
E-bost: accesstolearning@monmouthshire.gov.uk
Ffôn: 01633 644508
Cyfeiriad:
Cyngor Sir Fynwy
Neuadd y Sir,
Y Rhadyr,
Brynbuga,
Sir Fynwy
NP15 1GA