Skip to Main Content

Gallwch wneud hyn drwy asiant tai, yn breifat neu mewn arwerthiant a gallai arwain at elw i chi.

  • Drwy asiant tai: Bydd gwerthwr tai yn dod a gwerth yr eiddo ac yn rhoi cyngor i chi ar werthu’r eiddo. Os byddwch yn dewis gwerthu dylent hysbysebu’r eiddo yn eu swyddfa, drwy’r cyfryngau lleol a rhoi’r eiddo ar y rhyngrwyd. Byddan nhw’n trefnu ac yn cynnal dangosiadau ac yn trefnu Tystysgrif Perfformiad Ynni. Fel arfer, bydd gwerthwyr tai yn codi ffi am werthu eiddo.
  • Gwerthu’r eiddo yn breifat: Opsiwn arall fyddai gwerthu’r eiddo’n breifat. Chi fyddai’n gyfrifol am farchnata’r eiddo, trefnu dangosiadau a threfnu’r Dystysgrif Perfformiad Ynni.  Gall hyn arwain at lai o arian nag o werthwyr tai, gan y gallai fod yn anodd cyrraedd cynulleidfa ehangach, ond gallai arbed cyllid i chi mewn ffioedd gwerthwyr tai.
  • Gwerthu mewn ocsiwn:  Gall hyn fod yn ffordd ddelfrydol o sicrhau eich bod yn cael y pris gorau posibl ac osgoi unrhyw broblemau ar y funud olaf. Yn yr un modd â gwerthu gyda gwerthwr tai, mae’n werth gwneud rhywfaint o ymchwil i arwerthiannau o flaen llaw a siopa o gwmpas i ddod o hyd i’r arwerthwyr sy’n gweddu orau i chi.  Bydd costau ynghlwm wrth werthu mewn ocsiwn.
  • Efallai y bydd cyfle i werthu eich eiddo i Gymdeithas Dai, ffoniwch yr isadran Tai a Chymunedau i gael rhagor o fanylion.
  • Neu fe allech werthu eich eiddo drwy gynllun ‘Matchmaker’ di-dâl y Cyngor, cliciwch yma am fwy o fanylion.