Skip to Main Content

CAM DAU

Mae Cyngor Sir Fynwy a Horan Construction Ltd ar fin dechrau gweithio ar ail gam y gwelliannau i Church Road yng Nghil-y-coed. Mae’r cynllun wedi ei gynllunio ar gyfer y canlynol:

  • Rheoli traffig a pharcio yn ystod amseroedd ysgol gollwng a chasglu
  • Lleihau cyflymder traffig
  • Darparu amgylchedd mwy diogel, mwy dymunol
    ar gyfer cerdded a beicio
  • Creu heol wyrddach, mwy deniadol gyda mwy
    o blannu a llwybrau troed lletach
  • Gwella’r cysylltiad rhwng canol y dref a Chastell
    a Pharc Gwledig Cil-y-coed

Adeiladwyd rhan gyntaf y cynllun yn 2021.  Roedd yn canolbwyntio ar wella diogelwch cerddwyr a’i gwneud yn haws croesi’r stryd mewn tri lle ar hyd Church Road. Mae’r Cyngor nawr wedi sicrhau cyllid a dethol contractwr i adeiladu’r ail gam, a fydd yn cwblhau’r gwelliannau i Church Road rhwng Chepstow Road a Chylchfan Taff Road.

BYDD Y MESURAU’N CYNNWYS

  • Llwybrau troed palmantog a chyrbau newydd
  • Gwell draenio, gyda gerddi glaw a gylïau ychwanegol
  • Ail-wynebu ac uwchraddio’r ffordd gerbydau
  • Byrddau ac ymwthiadau uwch i leihau
    cyflymder traffig
  • Ardal barcio well a helaethach yn y Parc Gwledig

Bydd y gwaith yn dechrau ar 13 Mawrth, gan ddechrau gyda’r ardal barcio helaethach ger y
fynedfa i’r Parc Gwledig. 

Y bwriad yw dechrau gwaith ar Church Road ei hun ym mis Ebrill, pan fydd y man parcio ar gael i’w ddefnyddio.  Rydym yn disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau yn ystod yr Haf.  Bydd gwybodaeth am
reoli traffig ac unrhyw ffyrdd ar gau yn cael ei rhannu o flaen llaw.

Mae cynllun Church Road yn ymateb i ymgynghoriad gyda thrigolion gafodd ei wneud yn 2020.  Y pedair blaenoriaeth uchaf a nodwyd gan bobl leol oedd parcio yn ystod amseroedd ysgol gollwng a chodi, palmentydd cul, cyflymder traffig, a diffyg llefydd i groesi’r ffordd. Mae’r prosiect yn cyflwyno gwelliannau ar yr holl faterion hyn.

Daw arian ar gyfer y gwaith yn Church Road oddi wrth Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, y rhaglen Trawsnewid Trefi, a Chyngor Sir Fynwy.

Manylion Cyswllt: Daniel Fordham, Rheolwr Adfywio,

Cyngor Sir Fynwy. 07890 024489 

danielfordham@monmouthshire.gov.uk