Skip to Main Content
Dewch i ymuno ar tim

Gweithiwr Cymorth Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig

Ydych chi’n edrych am gyfle i weithio’n wahanol gydag unigolion? Ydych chi’n
greadigol, blaengar, deinamig ac yn dda am gysylltu gyda phobl eraill,
gwasanaethau a chymunedau? Mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn dymuno
recriwtio Gweithiwr Cymorth sydd â chymhelliant, profiad ac sy’n fedrus.
Mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn wasanaeth blaengar ac sy’n datblygu ar
gyfer pobl awtistig. Mae’n rhan o gynllun cenedlaethol. Rydym yn bartneriaeth amlasiantaeth ar draws Awdurdodau Iechyd ac Awdurdodau Lleol sy’n datblygu
gwasanaeth i gefnogi pobl awtistig a’u teuluoedd. Mae’r gwasanaeth yn rhoi llwybr
diagnostig ar gyfer oedolion a chymorth i oedolion awtistig a’u teuluoedd. Mae’r
gwasanaeth hefyd yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni plant awtistig. Bydd
deiliad y swydd yn gweithio gydag oedolion awtistig, eu teulu a’u gofalwyr a hefyd yn
rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni plant awtistig. Bydd gan ddeiliad y swydd
hefyd dasgau allweddol yng nghyswllt datblygu a gweithredu pecyn pwrpasol o
gymorth, paratoi a threfnu gweithgareddau cefnogol, yn cynnwys ymyriadau grŵp.
Byddwch yn dda am wrando a bydd gennych y gallu i gefnogi unigolion awtistig a
theuluoedd gydag anghenion cymhleth.
Mae angen gwybodaeth neu brofiad blaenorol o weithio gydag unigolion awtistig
ynghyd â safbwynt cadarnhaol, creadigrwydd, arloesedd, sylfaen gwerthoedd cryf ac
ymrwymiad i alluogi eraill i gyflawni.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar draws ardal Gwent a bydd rhai agweddau o’n
gwaith yn parhau i gael eu darparu ar sail rithiol.
Cewch gynnig hyfforddiant a chyfleoedd datblygu a byddwch yn rhan o dîm medrus
iawn gyda chymhelliant uchel yn cynnig ymyriadau tymor byr.

Cyfeirnod Swydd: SAS428

Gradd: BAND E SCP14-18 £25,409 - £27,344

Oriau: 37 awr yr wythnos

Lleoliad: Uned 10, Uned Busnes Torfaen, Panteg Way, New Inn, Torfaen, NP4 0LS

Dyddiad Cau: 29/06/2023 12:00 pm

Dros dro: Na

Gwiriad DBS: Oes