Skip to Main Content
Dewch i ymuno ar tim

Gweithiwr Cymorth Adsefydlu Cymunedol (Iechyd a Gofal Cymdeithasol)

Rydym yn edrych am bobl a all gysylltu a meithrin perthynas gydag eraill yn Sir Fynwy!

Edrychwn am bobl i gefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain. Rydym angen pobl sy’n garedig, wrth eu bodd yn treulio amser gyda phobl yn y gymuned, yn rhwydd siarad gyda nhw ac a all feithrin perthynas yn gyflym gyda phobl o bob cefndir. Edrychwn am bobl gyda sgiliau cyfathrebu da a all weithio o fewn y gymuned ac sydd eisiau gwneud gwahaniaeth.

Cynigiwn dâl gwych gydag ychwanegiadau am waith ar y penwythnos a gwyliau banc.

Cyfeirnod Swydd: SAS542

Gradd: BAND D SCP 9 – SCP 13 £25,119 – £26,873 (Amser a thraean am waith ar ôl 10pm, Amser a chwarter am waith ar ddyddiau Sadwrn, Amser a hanner am waith ar ddyddiau Sul).

Oriau: Hyd at 35 awr yr wythnos [contract oriau blynyddol]

Lleoliad: Cas-gwent/Cil-y-coed a’r cylch

Dyddiad Cau: 04/04/2024 5:00 pm

Dros dro: Na

Gwiriad DBS: Oes