
Gweithiwr Amser Teulu/Cymorth, Gwasanaethau Plant x2
A fyddech chi’n fodlon rhoi cymorth tymor byr i deulu sydd mewn argyfwng, efallai eistedd gyda rhiant dros nos yn yr ysbyty neu alw heibio i wirio lles plentyn ar y penwythnos?
Rydym yn chwilio am bobl ofalgar, brwdfrydig a hyblyg i ymuno â’n tîm Gweithwyr Amser Teulu/Cymorth. Byddwch yn gweithio fel rhan o’r Gwasanaeth Amser Teulu, tîm o weithwyr creadigol, cefnogol ac ymroddedig, yn goruchwylio sesiynau amser i deuluoedd yn ein canolfannau, cartrefi teuluol neu yn y gymuned. Bydd gofyn i chi gynnal ymweliadau lles i deuluoedd gyda’r nos ac ar benwythnosau, neu gefnogi plant gartref trwy roi goruchwyliaeth dros nos neu am sifftiau yn ystod y dydd. Efallai y gofynnir i chi roi goruchwyliaeth i blentyn mewn ysbyty neu gefnogi rhiant gyda’u baban newydd-anedig yn dod allan o’r ysbyty. Bydd angen sgiliau cyfathrebu gwych arnoch chi, ac ymrwymiad i weithio ar y cyd â’r holl weithwyr proffesiynol, ac yn fwy na dim i fod yn garedig pan fydd teuluoedd mewn argyfwng. Bydd yr oriau yn hyblyg ac yn cynnwys nosweithiau a phenwythnosau.
Cyfeirnod Swydd: SCS303
Gradd: BAND D SCP 9 – 13 (£25,119 – £26,873) pro rata’r flwyddyn
Oriau: 18.5 awr yr wythnos a fydd yn cynnwys dydd Sadwrn a/neu ddydd Sul (parhaol) 18.5 awr yr wythnos, a fydd yn cynnwys dydd Sadwrn a/neu ddydd Sul (Dros dro tan fis Mehefin 2024)
Lleoliad: Sir Fynwy
Dyddiad Cau: 18/01/2024 5:00 pm
Dros dro: Na
Gwiriad DBS: Oes