Cofrestru-i-bleidleisio
 

Rhowch enw eich stryd neu’ch cod post i ganfod ble mae eich gorsaf bleidleisio:

 

    • paratoi a chyhoeddi’r gofrestr etholiadol bob blwyddyn
    • gweinyddu pleidleisiau post a phleidleisiau dirprwy
    • cynnal rhestri o etholwyr lluoedd arfog a thramor
    • hyrwyddo cyfranogiad mewn democratiaeth a materion ffiniau etholiadol

    Cofrestr Etholiadol

    Gallwch ychwanegu eich manylion at y gofrestr etholiadol ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu drwy gysylltu â gwasanaethau etholiadol i gael ffurflen gais.

    Gwybodaeth ar y system newydd o gofrestru unigol.

    Mae gwybodaeth o’r gofrestr agored a ffurflen gais i dynnu eich manylion yn barhaol o’r gofrestr agored ar gael drwy gysylltu â’r swyddog etholiadau ar 01633 644212 neu e-bost elections@monmouthshire.gov.uk

    Pleidleisiau Post a Phleidleisiau Dirprwy

    Os na fedrwch fynychu gorsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad i fwrw eich pleidlais gallwch wneud cais i bleidleisio drwy’r post neu benodi person i bleidleisio ar eich rhan. Mae ffurflenni cais i newid eich dull o bleidleisio ar gael.

    Sut gallaf bleidleisio?

    Etholiadau

    Cynhelir yr etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar 5 Mai 2016. Bydd mwy o wybodaeth ar gael yn nes at yr amser.

    Swyddi Gwag ar gyfer Cynghorwyr

    Gall lleoedd ddod yn wag ar gyfer cynghorydd ar lefel Cyngor Sir, yn ogystal â lefel cynghorau tref a chymuned, drwy gydol cyfnod y swydd. Caiff pob hysbysiad yn cyfeirio at swyddi gwag ac etholiadau ar y lefel yma ei gyhoeddi islaw:

    Hysbysiad Swydd Wag

    Mae canllawiau ar y broses etholiadau ar lefel cynghorau tref a chymuned ar gael.

    Hyrwyddo Democratiaeth Leol

    Gwybodaeth ar gymryd rhan mewn democratiaeth leol.

    Archif Canlyniadau Etholiadau

    Canlyniadau etholiadau a gynhaliwyd yn flaenorol yn Sir Fynwy

    Adolygu Ffiniau

    Adolygu cymunedau a threfniadau etholiadol

    Mae gan Gyngor Sir Fynwy ddyletswydd i gadw ffiniau cymunedau a nifer y cynghorwyr o fewn Sir Fynwy yn gyfoes. Gohiriwyd adolygiad a ddechreuwyd yn 2012 nes y bydd gwybodaeth bellach ar ad-drefnu llywodraeth leol ar gael.