Yr hyn mae’r gyfraith yn ei ddweud
Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob plentyn o oedran ysgol gorfodol (rhwng 5 – 16oed) dderbyn addysg addas, llawn amser, yn yr ysgol neu fel arall.
Rhieni sy’n gyfrifol am sicrhau bod hyn yn digwydd. Cyflawnir hyn drwy gofrestru plentyn mewn ysgol neu drwy Addysg Ddewisol yn y Cartref (EHE)
Am ragor o wybodaeth am Addysg Ddewisol yn y Cartref, dilynwch y ddolen hon (ADD LINK)
I gael rhagor o wybodaeth am gofrestru ar gyfer lle mewn ysgol, dilynwch y ddolen hon:
Gwneud cais am le mewn ysgol – Sir Fynwy
Unwaith y bydd plentyn wedi’i gofrestru mewn ysgol, rhieni sy’n gyfrifol am sicrhau bod y plentyn yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd, ac ar amser. Os nad yw plentyn yn mynychu’n rheolaidd, gall yr ysgol ei atgyfeirio at y Gwasanaeth Lles Addysg, a gall gymryd camau cyfreithiol ar ran yr Awdurdod Lleol. Yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am sicrhau bod rhieni yn cyflawni eu cyfrifoldebau.
*Lle mae’n nodi rhiant, mae hyn yn cyfeirio at rieni, gofalwyr neu warcheidwaid.
Absenoldeb o’r ysgol
Mae absenoldeb o’r ysgol yn cael ei gofnodi fel absenoldeb awdurdodedig (gyda chaniatâd) neu anawdurdodedig (heb ganiatâd).
Bydd pob ysgol yn dilyn Ymateb Diwrnod Cyntaf i absenoldeb. Mae’n bwysig bod rhieni yn rhoi gwybod i’r ysgol am yr absenoldeb ar y diwrnod cyntaf ac yn ymateb i unrhyw negeseuon testun neu alwadau am absenoldeb y maent yn eu derbyn gan yr ysgol.
Efallai y bydd adegau pan fydd plentyn yn gorfod methu’r ysgol os yw’n sâl. Pan fydd plentyn yn rhy sâl i fynychu’r ysgol, dylid cysylltu â’r ysgol cyn gynted â phosibl ar fore cyntaf yr absenoldeb a dylid dweud wrth yr ysgol os yw’r absenoldeb yn parhau. Gall ysgolion ofyn i’r rhiant am dystiolaeth feddygol mewn achosion o absenoldeb parhaus oherwydd salwch.
Efallai y bydd yn rhaid i blant fynd i apwyntiadau meddygol neu ddeintyddol yn ystod amser ysgol, fodd bynnag, dylai rhieni wneud pob ymdrech i drefnu apwyntiadau arferol, fel archwiliadau gyda’r deintydd, ar ôl ysgol neu yn ystod y gwyliau.
Os yw rhieni’n gwneud cais i’w plentyn/plant gael amser i ffwrdd am resymau eraill, dylent lenwi ffurflen Cais am Absenoldeb yn Ystod y Tymor gan yr ysgol a’i dychwelyd at y Pennaeth a fydd yn ei hystyried.
Nid yw penblwyddi a theithiau siopa yn rhesymau derbyniol dros absenoldeb ac ni fydd ysgolion yn eu hawdurdodi. Os yw plentyn yn mynd i fod yn absennol am unrhyw reswm, rhaid i rieni gysylltu â’r ysgol.
I gael rhagor o wybodaeth am bryderon am bresenoldeb, dilynwch y ddolen hon:
https://www.monmouthshire.gov.uk/education-2/early-years-schools-education/education-welfare-attendance/