Skip to Main Content

Beth yw Seicolegydd Addysgol?

Mae gan Seicolegwyr Addysgol brofiad, hyfforddiant a gwybodaeth helaeth o weithio gyda staff ysgol, swyddogion proffesiynol eraill, plant, pobl ifanc a theuluoedd. Bydd gan Seicolegwyr Addysgol flynyddoedd lawer o addysg a hyfforddiant lefel uchel, yn cynnwys gradd gyntaf mewn Seicoleg ac astudiaeth ôl-raddedig ar Radd Meistr neu uwch.

Caiff Seicolegwyr Addysgol eu cyflogi gan yr Awdurdod Lleol i ddarparu cefnogaeth a chyngor ar sut i helpu plant a phobl ifanc i fanteisio i’r eithaf ar yr ysgol a’u cyfleoedd addysgol.

Beth mae Seicolegwyr Addysgol yn ei wneud?

Mae Seicolegwyr Addysgol yn gweithio gyda staff ysgol, gweithwyr proffesiynol , a phlant a phobl ifanc 0-19 oed (estynnir i 25 yn fuan) gydag amrywiaeth o wahanol anghenion. Yn ychwanegol. mae Seicolegwyr Addysgol yn cefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol i’w helpu i wella a datblygu systemau ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc.

Mae Seicolegwyr Addysgol yn edrych ar brofiad plant a phobl ifanc o fywyd o fewn cyd-destun amgylchedd eu hysgol a’r cartref, a sut mae gwahanol ffactorau yn yr amgylcheddau hyn yn rhyngweithio. Byddwn yn anelu i gydweithio gyda rhieni, ysgolion a gweithwyr proffesiynol i ddynodi strategaethau i gefnogi plant. Mae llawer o waith Seicolegwyr Addysgol yn canolbwyntio ar gefnogi plant a phobl ifanc mewn gosodiadau addysgol fodd bynnag gall Seicolegwyr Addysgol hefyd gynnig cefnogaeth i rieni i’w helpu i ddiwallu anghenion eu plant adref. Os ydych yn rhiant ac yn credu y gall eich plentyn fod angen cefnogaeth gan seicolegydd addysgol, bydd yn ddefnyddiol siarad gyda Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol eich ysgol.

Mae dulliau gweithio Seicolegwyr Addysgol yn cynnwys:

Ymgynghoriad — cwrdd gyda staff ysgol, rhieni neu ofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill i siarad am anghenion plentyn neu berson ifanc a’r ffordd orau o’u cefnogi.

Cynnal asesiadau seicolegol — ymweld ag ysgolion, gosodiadau cyn-ysgol a gosodiadau addysgol eraill yr Awdurdod Lleol i gasglu gwybodaeth am anghenion plentyn neu berson ifanc, defnyddio dulliau megis arsylwi, ymgynghori gyda staff, cyfweliadau disgyblion ac asesiad un i un. 

Ymyriadau un i un a grŵp bach — gall Seicolegwyr Addysgol gyflwyno ymyriadau un i un neu grŵp bach i gefnogi dysgu a lles emosiynol. Gallant hefyd hyfforddi a goruchwylio staff ysgol i’w galluogi i gyflwyno’r ymyriadau hyn.

Cefnogi datblygiad staff – mae enghreifftiau’n cynnwys cyflwyno hyfforddiant, hyfforddi staff a darparu goruchwyliaeth proffesiynol ar gyfer ymyriadau arbenigol. 

Ymchwil a gwerthuso — cynllunio a chynnal ymchwil i gyfoethogi ymarfer a gwella deilliannau.

Gwaith aml-asiantaeth — gweithio gyda swyddogion proffesiynol eraill mewn amrywiaeth o grwpiau rhyng-asiantaeth.

Gwaith strategol – mae Seicolegwyr Addysgol yn cefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol i wella lles emosiynol a phrofiadau dysgu pob plentyn.

Seicolegwyr Addysgol Sir Fynwy

Rydym yn dîm o 5 Seicolegydd Addysgol gydag ystod eang o gyfrifoldebau ar draws Sir Fynwy.

Mae Seicolegwyr Addysgol Sir Fynwy yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc o fewn Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Gweithiwn o fewn system dyrannu amser, ac mae gan ysgolion ddyraniad o ymweliadau i reoli ein gwaith gyda nhw.

Mae ein hyfforddiant proffesiynol wedi rhoi dealltwriaeth arbennig i bawb ohonom o ddatblygiad seicolegol – sut mae plant, pobl ifanc ac oedolion yn meddwl, teimlo, dysgu ac ymddwyn.

Bydd y rhan fwyaf ohonom wedi gweithio fel athrawon cymwysedig ac mae gan bob un ohonom wybodaeth o ysgolion a’r system addysg a gallwn gynorthwyo wrth ddod o hyd i ffyrdd i helpu plant yn yr ysgol.

Rydym yn cefnogi ac yn goruchwylio Seicolegwyr Addysgol dan hyfforddiant o Gwrs Doethuriaeth Prifysgol Caerdydd. Maent yn cyfrannu o fewn y tîm ac yn darparu gwasanaeth i ysgolion Sir Fynwy.

Ein Nodau

Cefnogi gwella amgylcheddau dysgu ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc er mwyn cynyddu safonau addysgol i bawb.

Hyrwyddo ymyriad cynnar a blaen-gynllunio fel dull atal.

Cefnogi ysgolion wrth gynnwys pob plentyn a pherson ifanc.

Hyrwyddo Gwasanaeth Seicoleg Addysgol Sir Fynwy fel rhan o wasanaethau cyhoeddus Sir Fynwy.

Sicrhau datblygiad parhaus ymarfer proffesiynol ansawdd uchel yng Ngwasanaeth Seicoleg Addysgol Sir Fynwy.

Caniatâd a Chydsyniad

Gofynnir bob amser am ganiatâd a chydsyniad wedi’i lofnodi gan rieni/gofalwyr cyn i Seicolegydd Addysgol gymryd rhan a byddwn yn hysbysu rhieni/gofalwyr am y trefniadau ar gyfer gweithio gyda’u plentyn. Gellir gwahodd rhieni/gofalwyr i’r ysgol am y cyfan neu ran o’r ymweliad a rhoi copi iddynt o unrhyw adroddiad a ysgrifennir yn dilyn yr ymwelir. Gwneir hyn fel arfer drwy’r ysgol.

Mae pob Seicolegydd Addysgol sy’n gweithio yng Ngwasanaeth Seicoleg Addysgol Sir Fynwy wedi cofrestru gyda Chyngor Gweithwyr Proffesiynol Gofal Iechyd fel ymarferwyr seicolegwyr ac maent yn gymwys am statws Seicolegydd Siartredig gyda’r Gymdeithas Seicolegol Brydeinig. Gweithiwn o fewn canllawiau moesegol trwyadl a sefydledig y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig.

Cysylltu â ni

Yn y lle cyntaf dylai rhieni/gofalwyr gysylltu â Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol eu hysgol os oes ganddynt bryderon am ddatblygiad eu plentyn.

Gallwch hefyd gysylltu â ni yn 01633 644644.