Skip to Main Content

Mae Kerbcraft yn gynllun cenedlaethol a gaiff ei gyllido gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Ei nod yw addysgu sgiliau hanfodol cerddwyr i ddisgyblion Blwyddyn Un a Dau, er mwyn cynorthwyo gostwng nifer damweiniau cerddwyr ifanc. Fe’i cynhelir ar ymyl y ffordd gan aelod o’r Tîm Diogelwch Ffordd a gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi. Datblygwyd Kerbcraft gan dîm o seicolegwyr ym Mhrifysgol Strathclyde a gynlluniodd y rhaglen i addysgu tair sgil hanfodol i blant 5-7 oed: Dewis mannau a llwybrau diogel i groesi’r ffordd; croesi’n ddiogel lle mae ceir wedi parcio; a chroesi’n ddiogel ar gyffordd. Fodd bynnag caiff rhieni eu hatgoffa y dylai oedolion fod yng nghwmni plant o’r oedran yma bob amser pan fyddant yn cerdded yn agos at ffordd neu’n croesi’r ffordd.

1) Dewis mannau a llwybrau diogel i groesi’r ffordd – Caiff plant eu helpu i adnabod peryglon ac adnabod lleoedd amgen i groesi.

2) Croesi’n ddiogel lle mae ceir wedi parcio – Caiff plant eu haddysgu sut i ddefnyddio strategaeth ddiogel ar gyfer croesi’n agos at lle mae ceir wedi parcio, pan mae’n amhosibl osgoi hynny.

3) Croesi’n ddiogel ar gyffordd – Cyflwynir plant i broblemau cyffyrdd syml a chymhleth ac addysgir strategaeth iddynt ar gyfer edrych ym mhob cyfeiriad.

Caiff pob sgil ei hymarfer mewn nifer o leoliadau gwahanol dros gyfnod o 4 wythnos, a dylai plant gwblhau cyfanswm o 12 sesiwn.

Mae rhieni sy’n gwirfoddoli a/neu gymhorthwyr ystafell ddosbarth yn gweithredu fel hyfforddwyr ar gyfer y cynllun, gan weithio gyda grwpiau bach iawn o blant a’u helpu i ddatblygu eu sgiliau arsylwi a phrosesau penderfynu. I wirfoddoli anfonwch neges e-bost at:  roadsafety@monmouthshire.gov.uk os gwelwch yn dda.

Hyfforddiant Cerddwyr Ifanc

Mae hyfforddiant cerddwyr ifanc yn rhaglen 5/6 wythnos yn seiliedig ar sylfeini Kerbcraft ar gyfer ysgolion sy’n teimlo nad ydynt angen rhaglen lawn Kerbcraft. I gael mwy o wybodaeth neu i siarad gyda’n cydlynydd am y rhaglen, anfonwch neges e-bost at:  roadsafety@monmouthshire.gov.uk

Gweithdai Teithio Llesol/Ffordd Dan 7

Mae rhaglen diogelwch Ffordd Dan 7 yn rhaglen newydd seiliedig ar weithdai a anelir at ddisgyblion Blwyddyn 1 a 2. Mae’n darparu gwybodaeth hanfodol ar ddiogelwch ffordd mewn modd ddiddorol. Mae’n ddifyr i’r plant a hefyd yn cyfleu negeseuon diogelwch ffordd mewn modd y byddant yn ei chofio.

Caiff y gweithdai hefyd eu teilwra i’r gwahanol dymhorau academaidd. Hydref/Gaeaf – bod yn llachar a chael eich gweld; Gwanwyn – Diogelwch Gwregys Seddi; Haf – Helo Haul. Drwy ganolbwyntio ar y materion diogelwch ffordd mae’r plant yn ymwneud â nhw amser eu hymweliadau , caiff y neges ei chyfleu a’i rhoi ar waith gan y plant , gan roi’r sgiliau hanfodol i fynd â nhw ar hyd eu bywydau academaidd a thu hwnt.

Scoot2school

Rydym yn ymroddedig i ddarparu teithio lleol a byddwn yn awr yn cynnig sesiynau diogelwch sgwter i ddisgyblion Blwyddyn 1 a 2 ar draws Sir Fynwy. Bydd y sesiwn 45 munud yn canolbwyntio ar:

·         Cynnal a chadw a diogelwch sgwteri

·         Sut i ddefnyddio sgwter yn ddiogel

·         Sut i rannu’r palmant/llwybr gyda defnyddwyr eraill

·         Bod yn ddiogel ar ymyl y ffordd

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â roadsafety@Monmouthshire.gov.uk