Skip to Main Content

Hyfforddiant Beic Sir Fynwy – Mae Cyngor Sir Fynwy yn ymroddedig i hyrwyddo teithio llesol a bydd yn cyflwyno hyfforddiant beic i ysgolion ar draws Sir Fynwy.

Mae’r Tîm Diogelwch Ffordd yn cynnig Rhaglen Hyfforddiant Beic Safonau cenedlaethol i bob ysgol gynradd ar draws Sir Fynwy.

Anelir hyfforddiant beic at flwyddyn 5 ac mae’n rhan bwysig o’r cwricwlwm; y prif ddiben yw cynyddu ymwybyddiaeth plant o beryglon ar y ffordd. Fe’i cynigir yn rhad ac am ddim i bob ysgol ac mae’r cwrs yn parhau am chwe awr a chaiff ei gyflwyno gan dîm o hyfforddwyr profiadol.

Mae’r hyfforddiant yn cynnwys sut i reoli eich beic, medru edrych ac asesu traffig, sut i gyfathrebu a lle i’ch gosod eich hunan ar y ffordd gan ddatblygu gwybodaeth o ymwybyddiaeth o beryglon a gwybodaeth o god y ffordd fawr.

Lefel 1 – Tua 2 awr fesul grŵp o 15 dysgwyr.

Technegau a sgiliau Lefel 2

  • Mynd ar ac oddi ar feic
  • Cychwyn a stopio
  • Cadw’n syth heb simsanu
  • Pedalu
  • Llywio a symud ar ymlaen
  • Seiclo gydag un llaw/rhoi arwyddion
  • Edrych tu ôl
  • Defnyddio geriau

Drwy orffen lefel 1, rydych yn dangos fod y sgiliau a’r hyder gennych i fynd ar y beic lle nad oes ceir ac yn barod i ddechrau ar eich hyfforddiant ar y ffordd.

Lefel 2 – tua 6 awr fesul grŵp o 6 dysgwr

Technegau a sgiliau Lefel 2

  • Damcaniaeth seiclo ar y ffordd
  • Mynd oddi ar eich beic a chychwyn
  • Stopio
  • Defnyddio geriau
  • Seiclo gydag un llaw/rhoi arwyddion
  • Edrych tu ôl
  • Troi i’r dde, i’r chwith a goddiweddyd cerbydau wedi parcio ar amrywiaeth o ffyrdd tawel
  • Defnyddio cyfleusterau seiclo

I gael mwy o wybodaeth neu i archebu cwrs cysylltwch â:  Roadsafety@Monmouthshire.gov.uk

Swyddogion diogelwch ffordd iau

Beth yw Swyddog Diogelwch Ffordd Iau (JRSO) ?

Mae JRSO yn helpu eu Swyddog Diogelwch Ffordd Lleol i hyrwyddo materion diogelwch ffordd o fewn yr ysgol a’r gymuned leol. Caiff pob ysgol gynradd ei hannog i benodi dau JRSO o Flwyddyn 5.

Mae bod yn JRSO yn swydd bwysig iawn, ond mae hefyd yn llawer o hwyl.

Gallech gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau drwy gydol y flwyddyn:

  • Cadw hysbysfwrdd a gwneud yn siŵr fod yr wybodaeth diogelwch ffordd yn gyfoes
  • Siarad mewn gwasanaeth ysgol neu mewn dosbarth ar themâu diogelwch ffordd
  • Trefnu cystadlaethau
  • Dyfarnu tystysgrifau
  • Defnyddio gwefan JRSO
  • Helpu i benodi JRSO y flwyddyn nesaf

Sesiynau Pontio

Fel rhan o’n hymrwymiad i sicrhau fod pob plentyn yn ddiogel ar ymyl y ffordd, byddwn yn awr yn cynnig gweithdai pontio diogelwch ffordd ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 yn barod ar gyfer iddynt bontio i ysgol gyfun. Bydd y sesiynau yn cynnwys trafodaethau ar ddefnyddio ffyrdd diogel i’r ysgol, cynllunio taith a negeseuon allweddol arall diogelwch ffordd. Mae gweithdai’n parhau am tua 1 awr yn seiliedig ar ddosbarth o 30. I gael mwy o wybodaeth neu i drefnu sesiwn, anfonwch e-bost at roadsafety@monmouthshire.gov.uk