Skip to Main Content

Mae’r gwasanaeth hwn yn swyddogaeth statudol gyda golwg ar bresenoldeb ysgol. Ein prif nod yw gwella presenoldeb ysgol.

Rydym yn sicrhau, hyd y gellir, bod pob disgybl yn cael ei gynnwys a bod pob un yn gallu manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Pam mae’n bwysig bod eich plentyn yn mynychu ysgol?

Mae’r rhan fwyaf o rieni yn dymuno i’w plant lwyddo mewn bywyd. Mae’n gynyddol bwysig cael addysg dda os ydych am gael cyfleoedd yn eich bywyd fel oedolyn. Un cyfle yn unig sydd gan blant yn yr ysgol, ac mae colli’r ysgol yn rheolaidd yn gallu effeithio ar obeithion eich plentyn ar gyfer dyfodol llwyddiannus.

Gall plant sy’n colli’r ysgol yn rheolaidd fynd ar ei hôl hi gyda’u gwaith, ac yn ystod diwrnod ysgol prysur y mae’n anodd i athrawon ddod o hyd i’r amser i roi cymorth ychwanegol i blentyn.

Nid gwaith academaidd yn unig sy’n dioddef. Mae’n bosibl y bydd colli’r cyfle i brofi ochr gymdeithasol bywyd ysgol, yn enwedig yn ystod blynyddoedd cyntaf addysg, yn cael effaith ar allu plant i wneud a chadw’r ffrindiau sy’n rhan annatod o ddod i oed.

Bydd datblygu patrymau presenoldeb da o oedran cynnar yn cynorthwyo eich plentyn yn ddiweddarach. Bydd eisiau pobl ddibynadwy ar gyflogwyr, felly gallai’r rheiny sy’n cael cofnod presenoldeb gwael fod yn llai tebyg o gael swydd dda.

Mae bod yn brydlon hefyd yn hanfodol. Gall cyrraedd yr ysgol yn hwyr fod yn drafferthus iawn ar gyfer eich plentyn, yr athro, a’r plant eraill yn y dosbarth. Mae cyrraedd ar ôl diwedd cofrestru yn golygu y bydd absenoldeb heb ganiatâd yn cael ei gofnodi am y sesiwn hwnnw.

Mae ymchwil wedi dangos hefyd y gall rhai pobl ifanc sy’n colli’r ysgol yn rheolaidd heb reswm da gael eu tynnu i mewn i ymddygiad gwrthgymdeithasol neu weithgarwch troseddol.

Os ydych yn cael trafferth i gael eich plentyn i fynd i’r ysgol, edrychwch ar yr hyn y gallwch ei wneud i helpu eich plentyn a’r hyn y gall y Gwasanaeth Lles Addysg ei wneud i’ch helpu chi.

Yr hyn y mae’r gyfraith yn ei ddweud

Yn ôl y gyfraith, rhaid i blant o oed ysgol gorfodol (rhwng 5 a 16) dderbyn addysg amser llawn briodol, mewn ysgol neu fel arall. Fel rhiant, mae gennych gyfrifoldeb am sicrhau bod hyn yn digwydd, naill ai trwy gofrestru eich plentyn mewn ysgol neu drwy wneud trefniadau eraill i ddarparu addysg briodol.

Unwaith y mae’ch plentyn wedi’i gofrestru mewn ysgol, rydych yn gyfrifol am wneud yn siwr ei fod yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd. Os na fydd eich plentyn yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd, hyd yn oed os nad ydych yn gwybod, mae posibilrwydd y bydd yr Awdurdod Lleol yn mynd i gyfraith yn eich erbyn. Rydym yn gyfrifol am sicrhau bod rhieni yn cyflawni eu dyletswyddau.

Mae rhieni yn gyfrifol am wneud yn siwr bod eu plant cofrestredig yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd.

Absenoldeb gyda chaniatâd

Pryd mae’n iawn i’ch plentyn fod yn absennol o’r ysgol?

Efallai y bydd adegau pan fydd rhaid i’ch plentyn golli’r ysgol gan ei fod yn sâl. Pan fydd eich plentyn yn rhy sâl i fynd i’r ysgol, dylech gysylltu â’r ysgol ar fore cyntaf ei absenoldeb a gadael i’r ysgol wybod os parha’r absenoldeb am fwy nag un diwrnod.

Hwyrach hefyd y bydd rhaid i blant ymweld â meddygon a deintyddion o fewn amser ysgol. Fodd bynnag, dylech wneud pob ymgais i drefnu apwyntiadau rheolaidd, fel archwiliadau deintyddol, ar ôl ysgol neu yn ystod gwyliau’r ysgol.

Bydd rhaid gofyn caniatâd i fod yn absennol gymaint ymlaen llaw â phosibl, oherwydd dim ond yr ysgol sy’n gallu caniatáu absenoldeb. Nid yw penblwyddi a siopa yn rhesymau derbyniol ar gyfer absenoldeb, a ni roddir caniatâd i’r rhain. Os yw’ch plentyn yn mynd i fod yn absennol am unrhyw reswm, rhaid i chi gysylltu â’r ysgol.

Gwyliau yn ystod y tymor

Os ydych yn ystyried mynd â’ch plentyn ar wyliau teuluol yn ystod tymor yr ysgol, y mae rhai pethau penodol y dylech eu feddwl am:

  • Ydych chi wedi ystyried sut y bydd hyn yn tarfu ar addysg eich plentyn?
  • Oes gwir angen arnoch fynd ar wyliau yn ystod y tymor?
  • Allwch chi gymryd eich gwyliau yn ystod gwyliau’r ysgol?

Os oes rhaid i chi fynd ar wyliau yn ystod tymor yr ysgol, bydd rhaid i chi gwblhau ffurflen gais ar gyfer pob ysgol a fynychir; mae’r rhain ar gael o ysgol eich plentyn. Fel gyda phob absenoldeb, dylech wneud y cais gymaint ymlaen llaw â phosibl.

Nid oes hawl gan rieni fynd â phlant ar wyliau yn ystod amser tymor, ac mae gan yr ysgol y grym i benderfynu a fydd yn caniatáu gwyliau yn ystod amser tymor ai peidio. Wrth ddod i benderfyniad, bydd yr ysgol yn ystyried:

  • Oedran y plentyn/plant
  • Ar ba adeg o’r flwyddyn y bwriedir mynd
  • Patrwm presenoldeb y plentyn/plant yn gyffredinol

Nid yw’n gyfreithlon i ysgolion ganiatáu fwy na 10 diwrnod ysgol o wyliau pob blwyddyn ysgol oni bai bod ‘amgylchiadau eithriadol’ ym marn y Pennaeth. Cofnodir gwyliau a gymerir heb ganiatâd yr ysgol fel absenoldeb heb ganiatâd, ac fe allent arwain at atgyfeirio eich plentyn i’r Gwasanaeth Lles Addysg.

Dylai ysgol eich plentyn ddarparu dyddiadau tymor i chi ar gyfer pob blwyddyn academaidd. Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael ynglyn â gwyliau ysgol, gan gynnwys dyddiadau tymor ar gyfer blynyddoedd academaidd 2008-09 a 2009-10.

Beth sy’n digwydd os nad yw’ch plentyn yn mynychu ysgol yn rheolaidd?

Mae gan bob ysgol Swyddog Lles Addysg (SLlA) penodol sydd mewn cysylltiad â’r ysgol ac yn ymweld yn rheolaidd i gwrdd â’r Pennaeth a’r Penaethiaid Blwyddyn.

Maent yn trafod unrhyw ddisgyblion sydd efallai ag anawsterau presenoldeb neu faterion lles eraill. Gall y SLlA chwilota drwy gofrestrau presenoldeb yr ysgol a nodi disgyblion gyda phatrymau presenoldeb sy’n peri pryder.

Lle mae ysgol wedi atgyfeirio achos i’r Gwasanaeth Lles Addysg, bydd y SLlA yn trefnu cyfarfod â’r rhieni a’r plentyn i sicrhau eu bod yn hollol ymwybodol o’r sefyllfa. Byddant yn esbonio pwysigrwydd presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol a’u cyfrifoldebau cyfreithiol. Bydd angen hysbysu’r SLlA ynghylch unrhyw broblemau neu anawsterau a allai fod yn effeithio ar bresenoldeb y plentyn yn yr ysgol a thrafod sut y bydd yn bosib datrys y rhain.

Bydd y SLlA yn ceisio gweithio gyda’r plant a chyda’r rhieni i’w cefnogi wrth gyflawni eu dyletswyddau. Cynigir cyngor a chymorth a darperir gwybodaeth am wasanaethau cymorth eraill. Yn y mwyafrif o achosion, bydd cynllun tymor byr ac ymyriad gan y SLlA yn arwain at welliant ym mhresenoldeb y plentyn yn yr ysgol.

Fel rhiant/gofalwr rydych yn cyflawni trosedd os ydych yn methu sicrhau bod eich plentyn yn mynychu ysgol yn rheolaidd, hyd yn oed os ydynt yn colli’r ysgol heb eich gwybodaeth (chwarae triwant).

Os bydd absenoldebau heb ganiatâd yn achos pryder o hyd ar ôl gwaith cynlluniedig, mae dyletswydd arnom i ystyried mynd i gyfraith. Gellir erlyn rhieni yn llys yr ynadon a’u dirwyo hyd at £2,000 am bob trosedd a’u derbyn hyd at 3 mis o garchar. Gall yr ynadon hefyd roi Gorchymyn Rhianta.

O bosibl byddwn yn gwneud cais am Orchymyn Goruchwylio Addysg yn ogystal â, neu yn hytrach na, erlyn rhieni. Caiff Gorchymyn Goruchwylio Addysg ei glywed yn y Llys Achosion Teulu ac mae’n rhoi cyfrifoldeb i’r Cyngor am gynghori, cefnogi a chyfarwyddo plentyn a’i rieni er mwyn sicrhau bod y plentyn yn mynychu ysgol yn rheolaidd.

Beth allwch chi ei wneud i helpu eich plentyn?

Os ydych yn amau bod eich plentyn yn colli’r ysgol, neu ei fod yn anhapus yn yr ysgol, dylech gysylltu â’r ysgol fel mater o brys i drafod y sefyllfa.

Os yw’ch plentyn yn sâl neu yn absennol am unrhyw reswm arall, cysylltwch â’r ysgol ar ddiwrnod cyntaf ei absenoldeb mor gynnar ag y bo modd, ond cyn 9:30 y.b. ar y hwyraf. Dylech hefyd anfon nodyn o esboniad wedi’i lofnodi a’i ddyddio pan fydd eich plentyn yn dychwelyd i’r ysgol.

Cysylltwch â’r ysgol os oes unrhyw amgylchiadau sy’n debygol o atal y plentyn rhag mynychu.

Gwnewch yn siwr bod eich plentyn yn cyrraedd yr ysgol bob dydd ac yn brydlon ar gyfer sesiwn y bore a’r prynhawn fel ei gilydd, heblaw am absenoldebau anocheladwy. Gallwch sicrhau bod eich plentyn yn:

  • Mynd â’r offer priodol i’r ysgol
  • Gwisgo’r wisg ysgol gywir, gan gynnwys gwisgo’r esgidiau cywir

Ac hefyd eich bod yn:

  • Ymddiddori yn addysg eich plentyn
  • Gofyn eich plentyn am ei ddiwrnod a chanmol a chefnogi ei gyflawniadau yn yr ysgol
  • Mynd i gyfarfodydd yn yr ysgol os gofynnir i chi a mynychu nosweithiau rhieni
  • Gwrando ar eich plentyn os bydd yn gwneud esgus i geisio osgoi mynd i’r ysgol. O bosibl byddwch yn darganfod bod anhawster sylfaenol.

Peidiwch â phetruso i gysylltu â’r ysgol os ydych yn credu bod anhawster.

Yr hyn y gall y gwasanaeth lles addysg ei wneud i’ch helpu chi

Bydd y Gwasanaeth Lles Addysg yn gweithio gyda’r ysgol i fonitro ac archwilio presenoldeb disgyblion bob tymor. Bydd disgyblion gyda chyfradd presenoldeb o dan 90 y cant yn cael eu trafod gyda’r ysgol.

Os bydd presenoldeb yn destun pryder o hyd, er gwaethaf ymyriadau gan yr ysgol, bydd y Swyddog Lles Addysg yn cysylltu â rhieni a gweithio i geisio datrys y sefyllfa.

Bydd Swyddogion Lles Addysg yn gweithio gyda’r ysgol, rhieni/gofalwyr a disgyblion i gynnal a gwella presenoldeb ysgol er mwyn osgoi’r angen i fynd i gyfraith.

Mae’r Gwasanaeth Lles Addysg yn delio hefyd â gwasanaethau eraill, gan gynnwys:

  • Prosesu ceisiadau trwyddedau gweithio i blant
  • Prosesu trwyddedau perfformio i blant a thrwyddedau hebrwng

Gwybodaeth a chyngor ychwanegol

Os bydd angen gwybodaeth ychwanegol arnoch, cysylltwch ag ysgol eich plentyn neu’r Gwasanaeth Lles Addysg.

Gwasanaeth Lles Addysg: 01633 644538

Absenoldeb mewn Ysgolion Uwchradd 2016 2017