Mae Gwasanaeth Lles Addysg yr awdurdod lleol yn rhoi cefnogaeth broffesiynol o safon i ysgolion, plant, pobl ifanc a rhieni, a chymorth priodol i leoliadau addysg, fel y gall plant a phobl ifanc elwa o’r cyfleoedd addysgol sy’n cael eu darparu ar eu cyfer.
Mae’r Gwasanaeth Lles Addysgol yn credu bod gan blant a phobl ifanc yr hawl i gyfle cyfartal, ac maent wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn elwa i’r eithaf ar addysg a chefnogaeth gyda’u lles.
Mae staff y gwasanaeth Lles Addysg yn cynnwys:
- Uwch Swyddog Lles Addysg (USLlA)
- Swyddogion Lles Addysg (SLlA)
- Swyddogion Cyswllt â Theuluoedd (SCTh)
- Swyddog Addysg Ddewisol yn y Cartref (Swyddog EHE)
Mae’r Gwasanaeth Lles Addysg yn archwilio’r rhesymau am absenoldebau ysgol, yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad, yn ymgymryd ag ymyriadau wedi’u cynllunio, yn cynghori rhieni am wasanaethau cymorth arbenigol, ac yn atgyfeirio at wasanaethau priodol pan fydd angen. Mae’r Gwasanaeth Lles Addysg yn gweithio ar y cyd ag asiantaethau eraill i gefnogi pob plentyn a pherson ifanc, gyda phwyslais penodol ar faterion diogelu ac amddiffyn plant.
Mae’r Gwasanaeth Lles Addysg yn ymgymryd ag achosion cyfreithiol ar ran yr awdurdod lleol, mewn perthynas â rhieni nad ydynt yn sicrhau bod eu plentyn/plant yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd, neu nad ydynt yn eu cofrestru yn yr ysgol neu addysg heblaw yn yr ysgol. Bydd ysgolion yn dilyn eu prosesau gwella presenoldeb a all gynnwys atgyfeirio at y Gwasanaeth Lles Addysg.
Yn Sir Fynwy, mae gan Swyddogion Lles Addysg gyfrifoldebau arweiniol ar gyfer y meysydd canlynol:
Trwyddedau Adloniant a Chymeradwyaeth Corff o Bersonau (BOPA)
Addysg Ddewisol yn y Cartref (EHE)
Plant Sy’n Colli Addysg (CME)
Cynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC)
Hebryngwyr a Thrwyddedu
Trwyddedau Gwaith