Partneriaeth rhwng asiantaeth leol ydy’r Grŵp Sir Fynwy Ddiogelach, sydd yn gweithio i fynd i’r afael a throsedd ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws ein cymunedau. Dan y Fenter Haf Strydoedd Diogelach, rydym wedi ymrwymo i greu canol trefi diogelach, glanach ac yn fwy croesawgar i bawb.
Rydym yn dibynnu ar eich adroddiadau i weithredu. Ynau ei fod yn fandaliaeth, bygythiad, niwsans cyhoeddus, neu ffyrdd arall o ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae ei adrodd yn ein helpu i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol.
Byddwn ond yn gwybod, os byddwch yn adrodd.
Parchwch Ein Strydoedd – Mae’r gymuned yn gwylio ac yn adrodd
Gyda’n gilydd, gallwn amddiffyn ein hardaloedd cyhoeddus a chefnogi Sir Fynwy ddiogelach.
Os ydych yn profi neu’n gweld trosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallwch reportio trwy’r sianeli isod
Sut i reportio..Trosedd
Reportio i’r Heddlu
Gallwch reportio trwy
- Galw 101 ar gyfer digwyddiadau troseddau di-frys.
- Defnyddiwch 999 mewn sefyllfa brys a pherygl i fywyd neu eiddo.
Mae Crimestoppers yn cymryd adroddiadau dienw.
Gallwch reportio trwy:
Ffon: 0800 555 111
Ar-lein: Wefan Crimestoppers
Sut i reportio… Ymddygiad gwrthgymdeithasol
Reportio i’r Heddlu
- Galw 101 ar gyfer digwyddiadau troseddau di-frys.
- Defnyddiwch 999 mewn sefyllfa brys a pherygl i fywyd neu eiddo.
Reportio i Cyngor Sir Fynwy
- Reportiwch digwyddiadau fel cwynion am sŵn, taflu ysbwriel neu niwsans cyhoeddus trwy wefan y cyngor neu trwy gysylltu gyda’r cyngor yn unionyrchol
Reportio i Landlordiaid Cymdeithasol
- Os mae’r ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cymryd lle o amgylch tai cymdeithasol, reportiwch i’r gymdeithas tai priodol neu’r landlord sydd gyda chyfrifoldeb am yr eiddo
Mae Crimestoppers yn derbyn adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol, byddant yn cymryd adroddiadau yn ddienw os mae’n:
- Difrifol
- O natur trosedd
- Yn beryg i unigolyn
Gallwch resportio trwy:
Ffon: 0800 555 111
Ar-lein: Wefan Crimestoppers